Ymunwch â ni i weld dychweliad cyffrous Serendipedd i Ganolfan Brailsford ar y 25ain a'r 26ain o Fedi.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn ôl yng Nghanolfan Brailsford ar 25 a 26 Medi am ddau ddiwrnod llawn! Y llynedd, cawsom brofiad gwych yn y digwyddiad Serendipedd - roedd sgwrsio â chymaint ohonoch yn uchafbwynt, ac rydym yn awyddus i wneud yr un peth eto!
Wrth i'r campws lenwi gydag egni myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â phawb a chyflwyno Sefydliad Confucius. P'un a ydych ar ddechrau eich taith academaidd neu'n wyneb cyfarwydd, dewch draw i ddweud helo, dysgu mwy am yr hyn rydym yn ei wneud a darganfod sut gallwch gymryd rhan.
Rhowch y dyddiad yn eich calendr ac mi welwn ni chi yno! Gadewch i ni wneud eleni hyd yn oed yn fwy cofiadwy.