Yr Arholiad Doethuriaeth-Gweithdy i archwilwyr ag ymgeision (Deuddydd ar-lein)
Yr arholiad doethurol: Dydd Llun- Dydd Mawrth 12 ac 13 Mehefin 2023
Amser: Bydd y sesiwn yn agor am 9. 30am y diwrnod cyntaf ac yn aros yn agored am 48 awr. Anfonir amserlen ymlaen llaw at yr holl gyfranogwyr.
Gofynion: Cyfrif Google. Bydd y gweithdai trwy Google Docs.
Tiwtor: John Wakeford
Ar gyfer pob ymgeisydd doethurol, ac mae croeso hefyd i oruchwylwyr ac arholwyr.
Mae cofrestru ar gyfer doethuriaeth yn un o'r penderfyniadau pwysicaf a wnaethoch erioed. Bydd eich doethuriaeth yn cymryd drosodd eich bywyd am o leiaf dair blynedd ac mae'n debyg y bydd yn drobwynt yn eich bywyd a'ch gyrfa.
Mae'r rhan fwyaf o raglenni ar gyfer myfyrwyr doethurol (a goruchwylwyr) yn canolbwyntio ar y broses o astudio a goruchwylio. Ond yn y rhaglen hon byddwn yn edrych ar fater hyd yn oed yn bwysicach ac sy'n aml yn cael ei esgeuluso sef yr arholiad doethurol a sut y caiff ei weithredu yn y DU yn gyffredinol a Phrifysgol Bangor yn benodol.
I gael y siawns orau o lwyddo mae angen i chi ddechrau meddwl amdano yn gynnar. Felly, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo bod yr arholiad yn ymddangos yn bell i ffwrdd, bydd croeso mawr i chi gymryd rhan.
Bydd y rhaglen ddangosol yn cael ei theilwra i'r pynciau rydych chi'n eu codi ond caiff ei haddasu wrth i ni fynd ymlaen. Bydd yn sicr yn ymdrin â materion fel
- Rheoliadau penodol ar gyfer arholi myfyrwyr Bangor
- Beth mae arholwyr i fod i'w wneud
- Sut i benderfynu a yw eich gwaith yn ddigon da i lwyddo
- Camddealltwriaethau cyffredin o'r broses arholi ddoethurol
- Paratoi ar gyfer eich viva
- Beth i'w wneud os na fyddwch yn llwyddo y tro cyntaf