Yn 2014 dyfarnwyd OBE i Greg am ei wasanaethau i Chwaraeon, Gwyddor Chwaraeon ac Elusengarwch, ac fe’i pleidleisiwyd yn un o’r 10 Cyfathrebwr Gwyddoniaeth Gorau yn y Deyrnas Unedig gan Gyngor Gwyddoniaeth Prydain. Mae Greg yn Olympiad yng nghamp y pentathlon modern, ac mae wedi ennill medalau ym Mhencampwriaethau Ewrop a Phencampwriaethau’r Byd. Mae'n arbenigwr ym maes chwaraeon, ymarfer corff a gwyddor iechyd. Wedi graddio o Brifysgol Brunel, datblygodd ei astudiaethau gydag MSc mewn perfformiad dynol yn Unol Daleithiau America a chwblhau PhD yn Ysgol Feddygol Ysbyty St. Georges, Llundain. Ar hyn o bryd mae Greg yn Athro Gwyddor Gymhwysol Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol John Moore, Lerpwl. Cyn dod i’r swydd honno bu Greg yn Gyfarwyddwr Ymchwil Cymdeithas Olympaidd Prydain; Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth ac Ymchwil Sefydliad Chwaraeon Lloegr; a Chyfarwyddwr Perfformiad y Ganolfan Iechyd a Pherfformiad Dynol yn 76 Harley Street, Llundain.
Mae Greg yn awdurdod ar Ffisioleg a Pherfformiad ym maes Chwaraeon ac Ymarfer. Mae’n arbenigwr a chanddo gydnabyddiaeth ryngwladol yn y maes ar ôl cyhoeddi dros 350 o bapurau a adolygwyd gan gymheiriaid, ac mae’n sylwebydd blaenllaw ar y cyfryngau. Mae gan Greg brofiad proffesiynol helaeth o asesu, trin a gwella perfformiad cleifion, selogion y campau ac athletwyr yn amrywio o ddioddefwyr canser i enwogion sy'n ceisio dringo i gopa mynydd am y tro cyntaf i Olympiaid sy'n ceisio ennill medal Aur.
Mae Greg yn adnabyddus am ei ymwneud ag ymgyrchoedd Sport a Comic Relief, a Phlant Mewn Angen, ac ers 2006 mae Greg wedi bod yn cynorthwyo nifer o enwogion i gwblhau rhai o'r heriau anoddaf. Mae Greg wedi hyfforddi, ysgogi a chymell mewn 39 o heriau llwyddiannus fel rhan o Sport a Comic Relief, a Plant Mewn Angen gan helpu i godi dros £65 miliwn i elusennau, ac yn fwyaf diweddar’ bu'n cefnogi Vernon Kay gyda’r her i redeg ultramarathon 115 milltir dros bedwar diwrnod.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.