Ysgol Feddygol Gogledd Cymru – Digwyddiad Contractwyr
Mae Prifysgol Bangor wedi cwblhau Cam 2 RIBA (Dyluniad cysyniadol) i fynd ati i wneud y gwaith adnewyddu ar Adeilad Deiniol (adeiladwaith a ffitiadau).
Safle'r project yw Prifysgol Bangor, Adeilad Deiniol, Ffordd Sackville, LL57 2UX. Y cynnig yw i ffurfio Ysgol Feddygol newydd i Ogledd Cymru (Yr Ysgol Feddygol) i gefnogi twf annarogan mewn addysg feddygol.
Bydd yr Ysgol Feddygol yn darparu oddeutu 1932m2 o fannau addysgu meddygol a adnewyddwyd. Mae'r gwaith arfaethedig (yr adeiladwaith) yn cynnwys ffenestri a phrif ddrws mynediad newydd, atgyweiriadau â llechi lleol, llenfuriau ac arwyddion allanol. Hefyd, bydd y gwaith (y ffitiadau) yn cynnwys adnewyddu’r toiledau, y mannau addysgu, darlithio, tiwtorialau a’r llefydd ategol ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.
Nod y project yw creu canolbwynt newydd i’r Ysgol Feddygol yn Adeilad Deiniol er mwyn gwella:
- Yr addysgu a’r dysgu rhyngddisgyblaethol ledled y rhaglenni meddygol a gwella addysg ryngbroffesiynol trwy greu amgylchedd mwy cydweithredol.
- Creu project arloesol a fydd yn cyfoethogi ac yn cefnogi profiad addysgu a dysgu’r myfyrwyr.
- Llesiant y defnyddwyr trwy addasu’r adeilad presennol i greu amgylchedd gwaith ysgogol, deniadol a chefnogol.
- Cynaliadwyedd a pherfformiad yr adeilad i fodloni'r amgylchiadau mewnol angenrheidiol sy’n ymwneud â chysur.
- Cynorthwyo Prifysgol Bangor i gyrraedd y targedau o ran lleihau carbon a gwaith gwella cynaliadwyedd.
Digwyddiad Contractwyr
Hoffai Prifysgol Bangor, yr Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a phartneriaid y project wahodd contractwyr â diddordeb i ymweld â’r safle ar Ffordd Deiniol, Bangor i drafod y cynlluniau a gofynion y broses dendro.
Bydd yn ofynnol i gontractwyr ystyried opsiynau lleihau carbon a bioamrywiaeth fel rhan o’u cyflwyniadau tendro, yn ogystal â chael cais i gynnig cyfraniadau gwerth cymdeithasol i’r project drwy fframwaith Themâu, Canlyniadau a Mesurau. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i drafod y gofynion hyn.
Os hoffech ddod i’r Digwyddiad Contractwyr, llenwch y ffurflen ar-lein a’i dychwelyd at Olivia Cahill, Gweinyddwr Caffael cyn 30 Awst 2024. Dim ond i ganfod nifer tebygol y cwmnïau fydd yn dod y defnyddir y wybodaeth hon.
Amserlen Caffael
Mae'r amserlen gaffael fras ar gyfer y gwaith adnewyddu wedi'i chynnwys isod.
AMSERLEN CAFFAEL ARFAETHEDIG |
|
Tasg |
Dyddiad |
Cyhoeddi Hysbysiad y Contract ar Sell2Wales |
09 Medi 2024 |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn Holiaduron Dewis |
10 Hydref 2024 |
Penderfynu ynghylch y rhestr fer a hysbysu'r tendrwyr am y canlyniad |
31 Hydref 2024 |
Y cyfnod tendro’n dechrau |
05 Tachwedd 2024 |
Dychwelyd y Tendrau |
17 Rhagfyr 2024 |
Cytuno PCSA |
10 Chwefror 2025 |
Dechrau ar y safle. |
05 Awst 2025 |
Cwblhau’r gwaith |
30 Gorffennaf 2026 |
Gweler Hysbysiad Gwybodaeth Blaenorol am fanylion pellach.