Os ydych eisoes wedi gwneud cais am gwrs sy’n cychwyn ym Medi 2025, yna os ydych chi'n cael cynnig i astudio yma, cewch wahoddiad drwy e-bost i un o’n Diwrnodau i Ymgeiswyr.
Ond, os nad ydych eto wedi gwneud cais i brifysgol neu os ydych dal yn ystyried eich opsiynau ar gyfer Medi 2025 neu yn gwneud ymchwil ar gyfer cychwyn ym Medi 2026, yna byddwn yn eich annog i ddod i’n Diwrnod Ymweld ar Ddydd Sul, 13 Ebrill.
Archebu eich lle ar y Diwrnod Ymweld
Ar Ddiwrnod Ymweld, byddwch yn:
- mynychu sesiynau blasu pwnc i roi mwy o wybodaeth i chi am astudio eich dewis cwrs ym mis Medii
- ymweld â’n llety myfyrwyr ac adnoddau chwaraeon
- ymweld â’r ardal arddangos i ganfod mwy am yr ystod eang o wasanaethau cefnogol ac Undeb y Myfyrwyr
- sgwrsio gyda staff a myfyrwyr presennol drwy gydol y dydd.
Darganfyddwch eich cwrs perffaith
Cymrwch olwg ar ei meysydd pwnc new olwg fwy manwl ar ein cyrsiau i ddod o hyd i'ch cwrs perffaith.
Wedi gwneud cais am gwrs yn cychwyn ym Medi 2025? Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr
Os ydych wedi gwneud cais i astudio yma, cewch wahoddiad i Ddiwrnod i Ymgeiswyr drwy'r post / e-bost.
Pam Dewis Prifysgol Bangor?
Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?