Bangor realtime and optical lab 2

Canolfan Rhagoriaeth Prosesu Signalau Digidol

 

 

 

DSP centre logo with  beyond boundaries text

 Technoleg alluogi hanfodol yn y byd modern yw Prosesu Signalau Digidol sy'n cael ei defnyddio'n helaeth ar draws sectorau allweddol, gan gynnwys gofal iechyd, y sector amddiffyn a diogelwch, trafnidiaeth a'r amgylchedd.  

Ein gweledigaeth yw gweithio gyda phartneriaid ar draws y byd er mwyn datblygu technolegau sy’n seiliedig ar Brosesu Signalau Digidol ac sy’n fuddiol i unigolion, cymunedau a busnesau ar draws gogledd Cymru a thu hwnt. Rydym yn credu mewn gwneud systemau cyfathrebu digidol yn fwy hygyrch, yn fwy cyfleus ac yn fwy diogel, fel y gall pob unigolyn a chymuned elwa. 

Ein gweledigaeth hirdymor yw datblygu i fod yn Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Technoleg Prosesu Signalau Digidol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac a fydd yn cynnal gweithgareddau ymchwil sydd wedi ehangu’n sylweddol, gweithgareddau masnacheiddio technoleg a hyfforddiant mewn sgiliau prosesu signalau digidol ar wahanol lefelau. Felly, yn y pen draw, ein huchelgais yw cyfrannu’n sylweddol at dwf y diwydiant technoleg yng Nghymru, gan arwain at gynnydd mewn swyddi uwch-dechnoleg yng Nghymru, denu cwmnïau i’r rhanbarth, datblygu cadwynau cyflenwi a chynnig gyrfaoedd uwch-dechnoleg i ymchwilwyr a pheirianwyr ifanc newydd yng Nghymru.

 Sefydlwyd y Ganolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol yn 2019, gyda buddsoddiad o £3.9 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) wedi’i ddyfarnu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).  Mae'r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol yn adeiladu ar yr ymchwil yn y maes cyfathrebu digidol sy’n mynd rhagddo yn y Brifysgol, a ddechreuwyd yn 2006 gan y Grŵp Ymchwil a Chyfathrebu Optegol (OCRG). 


Nod cyffredinol y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol yw cydweithio â phartneriaid academaidd a diwydiannol ar brojectau datblygu ymchwil ac arloesedd yn y maes prosesu signalau digidol.  Yn ystod cyfnod ariannu Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, fe wnaethom arwain chwe phroject yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:  

  • Dylunio, optimeiddio a gweithredu algorithmau prosesu signalau digidol. 
  • Trawsdderbynyddion a dyfeisiau rhwydweithio hyblyg. 
  • Cydgyfeirio systemau trawsyrru optegol a diwifr. 
  • Pensaernïaeth rhwydweithiau'r cwmwl. 
  • Rheoli rhwydwaith yn seiliedig ar rwydweithio wedi'i ddiffinio gan feddalwedd (SDN).  
  • Treialon maes a sefydlu sylfaen profion 5G a thu hwnt. 

Yn 2022, dyfarnwyd cyllid ychwanegol o £3 miliwn i ni o gronfa Bargen Twf y Gogledd, trwy Uchelgais Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'r cyllid hwn wedi'i gynllunio i'n galluogi i adeiladu ar yr ymchwil yr ydym wedi'i wneud hyd yn hyn, trwy ei ddefnyddio i brynu offer telathrebu o'r radd flaenaf a fydd yn gwella ein hisadeiledd o ran datblygu ymchwil ac arloesedd yn sylweddol. Ein hamcanion penodol ar gyfer y cyllid gan Fargen Twf y Gogledd yw: 

  • Annog arloesi a masnacheiddio trwy drosglwyddo gwybodaeth o’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol i’r economi ehangach, trwy weithio ar 70 o brojectau cydweithredol erbyn 2031. 
  • Sefydlu’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol fel canolfan gydnabyddedig erbyn 2031, gan gyfrannu at amcanion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cyflwyno 5G.
  • Creu 10 swydd gynaliadwy, gwerth uchel yn uniongyrchol yn y sector digidol trwy ragoriaeth ymchwil, a chefnogi 30 o swyddi yn anuniongyrchol.
  • Cynyddu Gwerth Ychwanegol Gros o £11 miliwn i £13 miliwn.
  • Sicrhau £12.5m o fuddsoddiad pellach trwy ddenu grantiau a chyfraniadau gan y sector preifat.

Erbyn hyn rydym wedi llwyddo i ddenu cyllid ychwanegol gan wahanol gynlluniau cyllido preifat a chyhoeddus, gan gynnwys UK Research and Innovation (UKRI), Defence and Security Accelerator (DASA) a'r Gronfa Band Eang Lleol . Mae pob un o’n projectau newydd yn anelu at gyflawni amcanion project Bargen Twf y Gogledd, a byddant yn caniatáu i ni ehangu ein gweithgareddau ymchwil a throi ein ffocws at archwilio sut rydym am symud ein marchnad ymchwil a thechnoleg, er mwyn gwneud y mwyaf o fanteision masnachol a chymdeithasol technolegau sy’n seiliedig ar brosesu signalau digidol. Gallwch ddysgu mwy amdanynt yn yr adran 'Projectau' isod.

Rydym yn cydweithio ag academyddion, sefydliadau ymchwil ac arbenigwyr mewn diwydiant ledled y byd i weithio ar brojectau ymchwil a datblygu technolegau. Rydym wedi sefydlu sylfaen gref o bartneriaid sy'n cynnwys sefydliadau telathrebu lleol a byd-eang a chanddynt arbenigedd sy'n cwmpasu'r gadwyn werth technoleg gwybodaeth a chyfathrebu gyfan. Ar hyn o bryd, mae gennym dros 50 o bartneriaid yn ymwneud â phrojectau ymchwil ar y cyd. 

Mae ein partneriaid yn cynnwys:

Mae’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol wedi’i lleoli o fewn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.  Mae gennym ystafell gynadledda, ystafell gyffredin, cegin a phedair swyddfa, yn ogystal â sawl labordy technegol i wneud ein hymchwil. 

Mae ein labordai’n cynnwys offer arbenigol blaengar gwerth £3.5 miliwn (a fydd yn cynyddu y tu hwnt i £5.5 miliwn yn 2024), gan gynnwys pedwar pâr o Gynhyrchwyr Tonffurfiau Mympwyol cyflymder uchel (AWG), Osgilosgopau Storio Digidol (DSO), pensetiau rhithrealiti a realiti estynedig o’r radd flaenaf, yn ogystal ag ystod eang o offer a chyfarpar eraill sy'n hwyluso ein hymchwil. Mae'r offer cyflymder uchel hwn yn rhoi’r gallu llawn i ni ddatblygu’r canlynol:

  • >Systemau trawsyrru optegol cydlynol polareiddiad deuol â lled band 40GHz

  • >Systemau cyfathrebu optegol amser real â lled band 10GHz

  • >40GHz rhwydweithiau metro/mynediad optegol pwynt-i-bwynt/aml-bwynt IMDD

  • Systemau cyfathrebu tonnau milimetr 5G/6G diwifr â lled band Gigahertz

  • >Systemau cyfathrebu optegol diwifr 25GHz

  • systemau cyfathrebu optegol diogel haen gorfforol 

  • systemau synhwyro opteg ffibr

  • profiadau delweddu trochi sy'n seiliedig ar ddata

Rydym yn y broses o ddatblygu Labordy Arloesedd Meddygol 5G o’r radd flaenaf yn barod ar gyfer 2024, a fydd yn gartref i gyfleuster sylfaen profion 5G unigryw gyda >rhwydwaith metro optegol ffibr 40km. Bydd y Labordy Arloesedd yn gweithredu fel sylfaen ar gyfer gweithgarwch cydweithredu ac arloesi gyda'n partneriaid i archwilio ac i gynnal treialon maes ar gymwysiadau o’n technolegau yn y farchnad. Ein nod yw y bydd y labordy’n helpu i dyfu’r economi ddigidol leol, trwy drosglwyddo ein technolegau arloesol i gynhyrchion a gwasanaethau diwydiant.

Mae prosesu signalau digidol yn cyfeirio at dechnegau amrywiol sy’n seiliedig ar feddalwedd ac sy’n gwella cywirdeb a pherfformiad cyfathrebu digidol.  Mae hyn yn cynnwys gweithrediadau cymhleth gan gynnwys hidlo, cyfartalu, cywasgu a modiwleiddio i gynhyrchu, neu ganfod, signal o ansawdd uwch. Mae cymaint o'r dyfeisiau rydyn ni'n eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd yn cael eu pweru gan dechnolegau prosesu signalau digidol. Mae technoleg prosesu signalau digidol o'n cwmpas ym mhobman, o ffonau symudol, watsys clyfar, clustffonau, cynorthwywyr clyfar megis Alexa, i declynnau clyw, delweddu MRI a phelydr-X.  Yn aml mae'n gweithio heb i neb sylwi, gan helpu ein bywydau i redeg yn fwy esmwyth, heb fawr o darfu arnom.  


Manteision a nodweddion allweddol

Defnyddir technoleg prosesu signalau digidol yn helaeth mewn rhwydweithiau cyfathrebu, oherwydd manteision cynhenid y dechnoleg. Mae rhwydweithiau cyfathrebu cyfredol (gan gynnwys 3G a 4G) yn ei chael hi'n anodd diwallu anghenion gwasanaethau a thechnolegau newydd yn y byd modern, megis fideo diffiniad uchel, ffrydio, chwarae gemau fideo, gweithio o bell, yn ogystal â rhithrealiti.  Yn ogystal, mae traffig rhwydwaith yn parhau i dyfu'n esbonyddol, ac mae’r galwad gan gwsmeriaid am gysylltiad sefydlog, diogel a chyflym iawn yn cynyddu.  


Dyma lle mae prosesu signalau digidol yn helpu. Algorithmau prosesu signalau digidol yw ymennydd rhwydweithiau symudol, megis 5G a thu hwnt. Mae’r algorithmau’n galluogi’r rhwydweithiau hyn i fod: 

  • yn gyflym iawn 
  • yn ddeallus
  • yn hynod ddibynadwy
  • yn ddiogel iawn
  • yn isel o ran defnydd ynni
  • yn isel o ran cost
  • yn gallu cefnogi nifer uchel o ddyfeisiau ar yr un pryd.

Yn gyffredinol, mae gan dechnolegau prosesu signalau digidol fanteision cynhenid dros dechnolegau analog, sy'n golygu eu bod yn gallu cefnogi gofynion cyfathrebu.


Cymwysiadau mewn bywyd go iawn

Fodd bynnag, nid dim ond mewn systemau cyfathrebu y defnyddir prosesu signalau digidol. Oherwydd ei nodweddion allweddol, mae prosesu signalau digidol yn dechnoleg amlbwrpas sy'n berthnasol mewn llawer o feysydd eraill, gan gynnwys:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol (e.e. apwyntiadau meddyg teulu o bell a phelydr-X)
  • Cludiant a Logisteg (e.e. monitro traffig a chynnal ffyrdd)
  • Amgylchedd ac Ynni (e.e. monitro ansawdd aer ac aflonyddwch tanfor)
  • Tai (e.e. deunyddiau carbon isel a dyfeisiau sy’n isel o ran defnydd ynni)
  • Amddiffyn a Diogelwch (e.e. amgryptio hynod ddiogel)

Effeithiau lles ac economaidd-gymdeithasol ehangach

Mae technolegau prosesu signalau digidol hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r agendâu economaidd-gymdeithasol a llesiant drwy hyrwyddo’r canlynol:

  • Cynhwysiant digidol a chysylltedd (gan sicrhau mynediad cyfartal i gysylltiad band llydan a gwasanaethau sy'n symud ar-lein, megis addysg, mynediad i adrannau'r llywodraeth a chyfranogiad democrataidd) 
  • Adfywio ac adnewyddu canol trefi a dinasoedd (gan helpu i greu dinasoedd cysylltiedig a ‘chlyfar’)

 Rydym yn ymchwilio ac yn datblygu technolegau sy'n seiliedig ar brosesu signalau digidol, sydd wedi'u dylunio i ddarparu'r atebion sydd eu hangen i fodloni gofynion rhwydweithiau'r presennol a'r dyfodol.


Mae ffocws ein hymchwil ar dechnegau sy'n seiliedig ar brosesu signalau digidol ar gyfer rhwydweithiau symudol 5G (a thu hwnt) a'u hecosystemau, sy'n darparu nodweddion newydd hanfodol, gan gynnwys:

  • Cydgyfeiriant ac ailgyfluniad rhwydwaith ddeinamig
  • Addasrwydd ar gyfer perfformiad rhwydwaith a thrawsyrru gorau posibl
  • Diogelwch isadeiledd rhwydwaith ac wrth drosglwyddo gwybodaeth
  • Swyddogaethau ychwanegol yn seiliedig ar synhwyro signalau cario data
  • Dyraniad lled band deinamig gyda manylder i gefnogi amrywiaeth eang o fathau o draffig
  • Gallu tafellu’r rhwydwaith i greu rhwydweithiau rhesymegol annibynnol ar isadeiledd ffisegol cyffredin
  • Cydnawsedd am yn ôl er mwyn hwyluso mudo technoleg
  • Systemau sy’n ymwybodol o ynni.

Rydym hefyd yn gwneud ymchwil i dechnegau blaengar eraill sy’n seiliedig ar brosesu signalau digidol, ac ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  1. Synhwyro Opteg Ffibr wedi'i Ddosbarthu (DFOS) 
  2. Rhwydweithiau Optegol Haen Gorfforol Ddiogel (PLSON) 
  3. Delweddu Data’n seiliedig ar 5G a Rhithrealiti, Realiti Estynedig ac xRealiti (VR/AR/XR)  
  4. Cyfathrebu Golau Gweladwy Cyflymder Uchel (VLC/Li-Fi) 

Rydym wedi datblygu pedwar arddangoswr arbrofol cludadwy ar gyfer y technolegau uchod, sydd wedi'u lleoli yn ein Labordy Arloesedd yn y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol ac sy'n caniatáu gwylio'r technegau arloesol hyn mewn amser real. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar integreiddio'r pedwar prototeip hyn i gynhyrchu llwyfan rwydwaith integredig unigryw y gellir ei uwchraddio sy'n gallu cefnogi mwy nag un achos o ddefnyddio 5G/6G.

Mae gan ein technolegau prosesu signalau digidol werth academaidd uchel, ond yn ogystal â hynny mae ganddynt hefyd botensial masnachol enfawr. O ganlyniad i'w nodweddion arloesol, mae ganddynt gymwysiadau posibl sylweddol ar draws ystod eang o sectorau.


Ar hyn o bryd rydym yn archwilio cyfleoedd i ddefnyddio'r technegau rydym wedi'u datblygu a'u trawsnewid yn gynhyrchion a gwasanaethau go iawn ar y farchnad, fel bod y buddion ar gael i bob rhan o'r gymuned yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. I wneud hyn, rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewn diwydiant i gynyddu Lefel Parodrwydd Technoleg (TRL) ein technolegau, gan weithio gyda’n gilydd i symud ein hymchwil i’r cam profi cysyniad ac i dreialon maes, ac yn y pen draw i greu cynhyrchion masnachol sydd ar gael i ddefnyddwyr. 
Mae gennym amrywiaeth o gydweithrediadau ar y gweill gydag arbenigwyr diwydiant ym meysydd cyfathrebu, yr amgylchedd ac amddiffyn a diogelwch, gan gynnwys: 

  • ADRA Hyb Carbon Isel - archwilio'r defnydd o'n technoleg synhwyro optegol i'w defnyddio mewn cymwysiadau monitro amgylcheddol. Mwy o wybodaeth yma
  • Y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Comtek - archwilio'r posibilrwydd o greu cadwyn gyflenwi 'Gwnaed yng Nghymru' ar gyfer dyfeisiau digidol er mwyn sicrhau bod manteision economaidd-gymdeithasol ymchwil ddigidol yng Nghymru yn aros o fewn cymunedau yng Nghymru. 
  • Grid Cenedlaethol - archwilio’r defnydd o’n technoleg synhwyro optig ar gyfer monitro diogelwch ceblau pŵer.
  • Offshore Catapult - archwilio’r defnydd o’n technoleg synhwyro optig ar gyfer monitro ceblau tanfor.
  • Sefydliadau amddiffyn - archwilio'r defnydd o'n diogelwch haen corfforol a’n cyfathrebu diwifr optegol / LiFi i ganfod ymosodiadau seiber.

Rydym yn cynnal ac yn darparu cyrsiau hyfforddi sgiliau i fyfyrwyr a chwmnïau technoleg er mwyn rhannu ein harbenigedd mewn prosesu signalau digidol.


Ein nod yw datblygu cyrsiau hyfforddi digidol yn amrywio o Lefel 4 i Lefel 7 i fyfyrwyr, ymchwilwyr a chwmnïau technoleg yng ngogledd Cymru. Bydd hyn yn cyfrannu’n sylweddol at dwf y diwydiant technoleg yng Nghymru, gan arwain at gynnydd mewn swyddi uwch-dechnoleg, denu cwmnïau i’r rhanbarth, cefnogi cwmnïau i gyflwyno eu cynhyrchion i’r farchnad a chynnig gyrfaoedd i ymchwilwyr a pheirianwyr ifanc newydd yng Nghymru.


Gwelwch ein hadran Newyddion a Digwyddiadau i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau hyfforddi yn y gorffennol a’r rhai sydd i’w cynnal yn y dyfodol. 

Papurau cyfnodolion

2023

  • I. N. O. Osahon et al., ‘Experimental Demonstration of 38 Gbps over 2.5 m OWC Systems with Eye-safe 850 nm SM-VCSELs’, Photonics Technology Letters, doi: 10.1109/LPT.2023.3337943.
  • O. F. A. Gonem, R. P. Giddings, and J. Tang, “Experimental Demonstration of Soft-ROADMs with Dual-Arm Drop Elements for Future Optical-Wireless Converged Access Networks,” Journal of Lightwave Technology, Oct. 2023, doi: 10.1109/JLT.2023.3328771.
  • A. Batch, S. Shin, J. Liu, P. Butcher, P. D. Ritsos, and N. Elmqvist, “Evaluating View Management for Situated Visualization in Web‐based Handheld AR,” Computer Graphics Forum, vol. 42, no. 3, pp. 349–360, Jun. 2023, doi: 10.1111/cgf.14835.
  • L. Vallejo et al., “Demonstration of M-QAM OFDM bidirectional 60/25 GHz transmission over 10 km Fiber, 100 m FSO and 2 m radio seamless heterogeneous fronthaul link,” Optical Fiber Technology, vol. 77, p. 103161, May 2023, doi: 10.1016/j.yofte.2022.103161.
  • L. Vallejo, J. Bohata, J. F. Mora, S. Zvánovec, and B. Ortega, “Remote mmW photonic local oscillator delivery for uplink down-conversion in DML-based optical hybrid C-RAN fronthaul,” Journal of Optical Communications and Networking, vol. 15, no. 6, p. 357, May 2023, doi: 10.1364/jocn.482085.
  • M. Hao, X. Jiang, X. Xiong, R. P. Giddings, W. He, and J. Tang, “Low-Complexity Modulation Format Identification Based on Amplitude Histogram Distributions for Digital Coherent Receivers,” Photonics, vol. 10, no. 4, p. 472, Apr. 2023, doi: 10.3390/photonics10040472.
  • T. Tyagi, R. P. Giddings, and J. Tang, “Real-Time Demonstration of Concurrent Upstream and Inter-ONU Communications in Hybrid OFDM DFMA PONs,” IEEE Photonics Technology Letters, vol. 35, no. 3, pp. 148–151, Feb. 2023, doi: 10.1109/lpt.2022.3227369.
  • S. Shin, A. Batch, P. Butcher, P. D. Ritsos, and N. Elmqvist, “The Reality of the Situation: A Survey of Situated Analytics,” IEEE Transactions on Visualization and Computer Graphics, pp. 1–19, Jun. 2023, doi: 10.1109/tvcg.2023.3285546.
  • L. Chen, W. Jin, J. He, R. P. Giddings, Y. Huang, and J. Tang, “A Point-to-multipoint Flexible Transceiver for Inherently Hub-and-Spoke IMDD Optical Access Networks,” Journal of Lightwave Technology, pp. 1–12, Jan. 2023, doi: 10.1109/jlt.2023.3249406.
  • S. Hu et al., “Adaptive Hybrid Iterative Linearization Algorithms for IM/DD Optical Transmission Systems,” Journal of Lightwave Technology, pp. 1–7, Jan. 2023, doi: 10.1109/jlt.2023.3243917.

2022

  • J. Zhang et al., “Capacity and flexibility improvement of traffic aggregation for fixed 5G: Key enabling technologies, challenges and trends,” China Communications, vol. 19, no. 12, pp. 1–13, Dec. 2022, doi: 10.23919/jcc.2022.12.001.
  • T. Tyagi, R. Giddings, and J. Tang, “Real-time experimental demonstration of a computationally efficient hybrid OFDM DFMA PON,” Optical Fiber Technology, vol. 74, p. 103106, Dec. 2022, doi: 10.1016/j.yofte.2022.103106.
  • J. He, R. P. Giddings, W. Jin, and J. Tang, “DSP-Based Physical Layer Security for Coherent Optical Communication Systems,” IEEE Photonics Journal, vol. 14, no. 5, pp. 1–11, Oct. 2022, doi: 10.1109/jphot.2022.3202433.
  • F. M. Alsalami, O. C. L. Haas, A. Al-Kinani, C.-X. Wang, Z. Ahmad, and S. Rajbhandari, “Impact of Dynamic Traffic on Vehicle-to-Vehicle Visible Light Communication Systems,” IEEE Systems Journal, vol. 16, no. 3, pp. 3512–3521, Sep. 2022, doi: 10.1109/jsyst.2021.3100257.
  • X. Jin et al., “Error-Controlled Iterative Algorithms for Digital Linearization of IMDD-Based Optical Fibre Transmission Systems,” Journal of Lightwave Technology, vol. 40, no. 18, pp. 6158–6167, Sep. 2022, doi: 10.1109/jlt.2022.3191415.
  • H. Jiang, N. He, X. Liao, W. O. Popoola, and S. Rajbhandari, “The BER Performance of the LDPC-Coded MPPM over Turbulence UWOC Channels,” Photonics, vol. 9, no. 5, p. 349, May 2022, doi: 10.3390/photonics9050349.
  • S. Hu et al., “Multi-constraint Gerchberg-Saxton iteration algorithms for linearizing IM/DD transmission systems,” Optics Express, vol. 30, no. 6, p. 10019, Mar. 2022, doi: 10.1364/oe.448826.
  • H. Jiang, H. Qiu, N. He, W. O. Popoola, Z. Ahmad, and S. Rajbhandari, “Ergodic capacity and error performance of spatial diversity UWOC systems over generalized gamma turbulence channels,” Optics Communications, vol. 505, p. 127476, Feb. 2022, doi: 10.1016/j.optcom.2021.127476.
  • W. Jin et al., “Rectangular Orthogonal Digital Filter Banks Based on Extended Gaussian Functions,” Journal of Lightwave Technology, p. 1, Jan. 2022, doi: 10.1109/jlt.2022.3153589.

2021

  • A. A. Mahmoud et al., “Vehicular Visible Light Positioning Using Receiver Diversity with Machine Learning,” Electronics, vol. 10, no. 23, p. 3023, Dec. 2021, doi: 10.3390/electronics10233023.
  • O. F. A. Gonem, R. P. Giddings, and J. Tang, “Timing Jitter Analysis and Mitigation in Hybrid OFDM-DFMA PONs,” IEEE Photonics Journal, vol. 13, no. 6, pp. 1–13, Dec. 2021, doi: 10.1109/jphot.2021.3121168.
  • W. Jin et al., “Experimental demonstrations of DSP-enabled flexibility, adaptability and elasticity of multi-channel >72Gb/s over 25 km IMDD transmission systems,” Optics Express, vol. 29, no. 25, p. 41363, Nov. 2021, doi: 10.1364/oe.440115.
  • S. J. Yoo, S. L. Cotton, L. Zhang, M. G. Doone, J.-K. Song, and S. Rajbhandari, “Evaluation of a Switched Combining Based Distributed Antenna System (DAS) for Pedestrian-to-Vehicle Communications,” IEEE Transactions on Vehicular Technology, vol. 70, no. 10, pp. 11005–11010, Oct. 2021, doi: 10.1109/tvt.2021.3102700.
  • A. Sankoh et al., “DFT-Spread Spectrally Overlapped Hybrid OFDM–Digital Filter Multiple Access IMDD PONs,” Sensors, vol. 21, no. 17, p. 5903, Sep. 2021, doi: 10.3390/s21175903.
  • P. Butcher, N. W. John, and P. D. Ritsos, “VRIA: A Web-Based Framework for Creating Immersive Analytics Experiences,” IEEE Transactions on Visualization and Computer Graphics, vol. 27, no. 7, pp. 3213–3225, Jul. 2021, doi: 10.1109/tvcg.2020.2965109.
  • Z.-Q. Zhong et al., “Intermittent dynamical state switching in discrete-mode semiconductor lasers subject to optical feedback,” Photonics Research, vol. 9, no. 7, p. 1336, Jun. 2021, doi: 10.1364/prj.427458.
  • S. Hu, J. Zhang, J. Tang, W. Jin, R. P. Giddings, and K. Qiu, “Data-Aided Iterative Algorithms for Linearizing IM/DD Optical Transmission Systems,” Journal of Lightwave Technology, vol. 39, no. 9, pp. 2864–2872, May 2021, doi: 10.1109/jlt.2021.3063689.
  • Z.-Q. Zhong et al., “Experimental Demonstrations of Matching Filter-Free Digital Filter Multiplexed SSB OFDM IMDD Transmission Systems,” IEEE Photonics Journal, vol. 13, no. 2, pp. 1–12, Apr. 2021, doi: 10.1109/jphot.2021.3064997.
  • Z.-Q. Zhong et al., “Concurrent Inter-ONU Communications for Next Generation Mobile Fronthauls based on IMDD Hybrid SSB OFDM-DFMA PONs,” Journal of Lightwave Technology, p. 1, Jan. 2021, doi: 10.1109/jlt.2021.3115573.

2020

  • D.-W. Chang, Z.-Q. Zhong, J. Tang, P. S. Spencer, and Y. Hong, “Flat broadband chaos generation in a discrete-mode laser subject to optical feedback,” Optics Express, vol. 28, no. 26, p. 39076, Dec. 2020, doi: 10.1364/oe.413674.
  • M. Hulea, Z. Ghassemlooy, S. Rajbhandari, O. I. Younus, and A. Barleanu, “Optical axons for electro-optical neural networks,” Sensors, vol. 20, no. 21, p. 6119, Oct. 2020, doi: 10.3390/s20216119.
  • A. Sankoh et al., “Hybrid OFDM-Digital Filter Multiple Access PONs Utilizing Spectrally Overlapped Digital Orthogonal Filtering,” IEEE Photonics Journal, vol. 12, no. 5, pp. 1–11, Oct. 2020, doi: 10.1109/jphot.2020.3018863.
  • J. Zhang et al., “A Clock-Gating-Based Energy-Efficient Scheme for ONUs in Real-Time IMDD OFDM-PONs,” Journal of Lightwave Technology, vol. 38, no. 14, pp. 3573–3583, Jul. 2020, doi: 10.1109/jlt.2020.2977053.
  • W. Jin et al., “Hybrid SSB OFDM-Digital Filter Multiple Access PONS,” Journal of Lightwave Technology, vol. 38, no. 8, pp. 2095–2105, Apr. 2020, doi: 10.1109/jlt.2020.2966287.
  • C. Xue et al., “Characteristics of microwave photonic signal generation using vertical-cavity surface-emitting lasers with optical injection and feedback,” Journal of the Optical Society of America B-optical Physics, vol. 37, no. 5, p. 1394, Apr. 2020, doi: 10.1364/josab.389890.
  • W. Jin et al., “Experimental Demonstrations of Hybrid OFDM-Digital Filter Multiple Access PONS,” IEEE Photonics Technology Letters, p. 1, Jan. 2020, doi: 10.1109/lpt.2020.2995072.

2019

  • N. Jiang, A. Zhao, Y. Wang, S. Liu, J. Tang, and K. Qiu, “Security-enhanced chaotic communications with optical temporal encryption based on phase modulation and phase-to-intensity conversion,” OSA Continuum, vol. 2, no. 12, p. 3422, Nov. 2019, doi: 10.1364/osac.2.003422.
  • E. Al-Rawachy, R. P. Giddings, and J. Tang, “Experimental Demonstration of a Real-Time Digital Filter Multiple Access PON With Low Complexity DSP-Based Interference Cancellation,” Journal of Lightwave Technology, vol. 37, no. 17, pp. 4315–4329, Sep. 2019, doi: 10.1109/jlt.2019.2923546.

Papurau cynhadledd a chyflwyniadau poster 

2023

  • O.F.A. Gonem, R. P. Giddings, and J. Tang, “Experimental Demonstration of a Dual-Arm Drop Element-based Soft-ROADM for Future Optical-Wireless Converged Access Networks”, to be presented at the Asia Communications and Photonics Conference (ACP) / The International Photonics and OptoElectronics Meetings (POEM) (ACPPOEM2023), Wuhan, China, 4-7 November 2023.
  • O.F.A. Gonem, “Experimental Demonstration of Soft-ROADMs with Drop Signal Phase Independent Performance for PTMP 5G Fronthauls”, to be presented at the International Conference on Photonics in Switching and Computing (PSC2023), Virtual event, 26-29 September 2023. 
  • O. F. A. Gonem, R. P. Giddings, and J. Tang, “Drop Signal Phase Offset Independent Soft-ROADMs for Point-to-Multipoint 5G Fronthauls”, presented at the 28th Optoelectronics and Communications Conference (OECC), Shanghai, China, 2-6 July 2023.
  • L. Chen, W. Jin, J. He, R. P. Giddings, Y. Huang, and J. Tang, “A Point-to-multipoint Flexible Transceiver for Inherently Hub-and-Spoke IMDD Optical Access Networks”, presented at the 28th Optoelectronics and Communications Conference (OECC), Shanghai, China, 2-6 July 2023.
  • A. Batch, S. Shin, J. Liu, P. W. S. Butcher, P. D. Ritsos and N. Elmqvist, “Evaluating View Management for Situated Visualization in Web-based Handheld AR”, presented at the 25th Eurographics Conference on Visualisation (EuroVis), Leipzig, Germany, 12-16 June 2023.
  • M. Botella-Campos, J. Bohata , L. Vallejo, J. Mora, S. Zvanovec, and B. Ortega, “Phase Modulation-based Fronthaul Network for 5G mmWave FR-2 Signal Transmission over Hybrid Links”, presented at the 2023 European Conference on Networks and Communications & 6G summit (EuCNC/6G Summit), Gothenburg, Sweden, 6-9 June 2023.
  • I. Osahon, S. Rajbhandari, A. Ihsan, J. Tang and W. Popoola, “Multilevel PAM with ANN equalization for an RC-LED SI-POF system,” presented at the IEEE Consumer Communications & Networking Conference (IEEE CCNC), Las Vegas, NV, USA, 8–11 January 2023.

2022

  • X. Jin, W. Jin, Z. Zhong, S. Jiang, S. Rajbhandari, Y. Hong, R. Giddings, and J. Tang, “Improvement in Convergence Rate and Power Penalty with an Error-Controlled Iterative Algorithm in IMDD Systems”, presented at the Optica Advanced Photonics Congress, Maastricht, Netherlands, 24-28 July 2022.
  • S. Jiang, Z.  Zhong, W. Jin, J. He, R. Giddings and J. Tang, “Improved Sensitivity of Distributed Fibre Optical Sensing Using Structured Sampling”, presented at the OSA Imaging and Applied Optics Congress , Vancouver, British Columbia, Canada, 11-15 July 2022.
  • S. Hu et al., “112-Gb/s PAM-4 IM/DD Optical Transmission over 100-km Single Mode Fiber with Linear Equalizer,” presented at the Optical Fibre Communication Conference (OFC), San Diego, California, USA, 6-10 March 2022.
  • O. Gonem, R.P. Giddings, and J.M. Tang, “Inter-ONU Sample Timing Offset Estimation and Compensation for Spectrally Overlapped Orthogonal Channels in Hybrid OFDM-DFMA PONs”, presented at the Telecommunications, Optics & Photonics Conference (TOP Conference), London, UK,  14-15 February 2022.
  • T. Tyagi, R.P. Giddings, and J.M. Tang, “Real-time experimental demonstration of computationally efficient a hybrid OFDM DFMA-PON”,  presented at the Telecommunications, Optics & Photonics Conference (TOP Conference), London, UK,  14-15 February 2022.

2021

  • X. Wu, A. Nag and X. Jin, ‘On Adaptive Network Deployment for Visible Light Communications’, presented at the IEEE Conference on Computer and Communications (ICCC), Chengdu, China, 10-13 December 2021. .
  • Y. Hong, D. Chang, Z. Zhong and W. Jin, “Nonlinear dynamics of discrete-mode lasers and their applications,” presented at International Symposium on Physics and Applications of Laser Dynamics (IS-PALD), Virtual event, 16-18 November 2021.
  • M. Hulea, O. I. Younus, Z. Ghassemlooy and S. Rajbhandari, "Influence of optical axons on the synaptic weights," presented at the 17th International Symposium on Wireless Communication Systems (ISWCS), Berlin, Germany, 6-9 September 2021.
  • O.Gonem, R.Giddings and J.Tang, “DSP-based Reduction of the Impact of White ADC Timing Jitter on Hybrid OFDM-DFMA PONs,“ presented at the OSA Advanced Photonics Congress, 26-29 July 2021.
  • Z. Zhong et al., “Experimental Demonstrations of Concurrent Adaptive Inter-ONU and Upstream Communications in IMDD Hybrid SSB OFDM-DFMA PONs”, presented at the Optical Fibre Communication Conference (OFC), California, USA, 6-10 June 2021.
  • Z. Zhong, D. Chang, W. Jin, M. W. Lee, J. Tang, and Y. Hong, “Intermittent dynamics switching in discrete-mode semiconductor lasers with long external cavity optical feedback”, presented at the Semiconductor and Integrated Optoelectronics (SIOE) Conference, Cardiff, Wales, 30 March-1 April 2021.

2020

  • S. Hu, J. Tang, J. Zhang, K. Qiu, “Linearization of Optical IMDD Transmission Systems Using Accelerated Iterative Algorithms”, presented at the European Conference on Optical Communications (ECOC), Virtual Event, 6-10 Dec 2020.
  • R. L. Williams, D. Farmer, J. C. Roberts, and P. D. Ritsos, “Immersive visualisation of COVID-19 UK travel and US happiness data,” presented at the IEEE Conference on Visualization (IEEE VIS), Virtual Event, 25-30 October 2020.
  • W. Jin et al, “Experimental Demonstration of Hybrid OFDM-Digital Filter Multiple Access PONs for 5G and Beyond Networks”, presented at the Conference on Lasers and Electro-Optics (CLEO), California, USA, 11-15 May 2020.

Professor Jianming Tang

jianming

Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Yr Athro Jianming Tang yw pennaeth grŵp ymchwil cyfathrebu optegol yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig (CS & EE). Mae ganddo arbenigedd mewn systemau cyfathrebu optegol, rhwydweithiau data ac anlinoleddau cyflym iawn dyfeisiau optegol lled-ddargludyddol. Mae wedi cyhoeddi tua 300 o bapurau ac mae wedi ffeilio 8 portffolio patent. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae wedi cipio a rheoli >30 o grantiau ymchwil a chyllideb project oddeutu £6m. Yn benodol, mae wedi cydlynu project Piano+ OCEAN EC/TSB €3.6m gan gynnwys chwe phartner academaidd a diwydiannol, a bu'n gweithredu fel Prif Ymchwilydd project ALPHA EC FP7 €12m gydag 17 o bartneriaid academaidd a diwydiannol yn cymryd rhan, ac roedd cyfran cyllideb project ALPHA Bangor oddeutu €1m.

  j.tang@bangor.ac.uk

 

 

Dr Roger Giddings

Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau 

Mae Dr Roger Giddings yn Uwch Ddarlithydd mewn Cyfathrebu Optegol a DSP yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig. Mae'n aLlun o Dr Roger Giddingsrbenigo mewn systemau cyfathrebu optegol a alluogir trwy DSP i gyflawni rhwydweithiau optegol y gellir eu hailgyflunio'n ddeinamig sy'n cyd-daro'n ddi-dor â metro, access a ffryntiad/ôl-cefn ffonau symudol 4G/5G. Mae ganddo arbenigedd mewn gweithredu algorithmau DSP datblygedig, cylchedau RF/Microdon, systemau ymgorfforedig a systemau cyfathrebu optegol mewn amser real. Mae ganddo 17 mlynedd o brofiad o Ymchwil a Datblygu yn y diwydiant telathrebu. Bu'n gweithio i Nokia Networks, Canolfan Ymchwil Nokia a Nokia Ventures yn y Deyrnas Unedig a'r Ffindir. Yn 2007 ymunodd â Phrifysgol Bangor a bu'n arbrofi gyda system drosglwyddo OFDM amser real gynta'r byd. Mae wedi cyhoeddi dros 100 o bapurau mewn cyfnodolion a gloriennir, gan gynnwys papur tiwtorial gwahoddedig yn yr IEEE Journal of Lightwave Technology. Bu'n Gyd-Ymchwilydd i lawer o brojectau a ariennir gan UE a Llywodraeth Cymru, mae'n gweithredu fel adolygydd i nifer o gyfnodolion blaenllaw, traddododd nifer o sgyrsiau gwadd, bu'n gadeirydd rhaglen ac aelod TPC ar gyfer y gynhadledd Prosesu Signalau mewn Cyfathrebu Ffotonig (SPPCom), yn ddiweddar bu'n olygydd gwadd i rifyn arbennig o'r cylchgrawn Future Internet ac mae'n aelod o Goleg Cyswllt Adolygu Cymheiriaid EPSRC. 

  r.p.giddings@bangor.ac.uk

 

Dr Md Saifuddin Faruk

Md Faruk DSP

Uwch Ddarlithydd

Mae Dr Md Saifuddin Faruk yn Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg. Mae ganddo arbenigedd yn yr algorithmau prosesu signalau digidol ar gyfer traws-dderbynyddion cydlynol, rhwydweithiau mynediad optegol cyflymder uchel a rhaglenni dysgu peirianyddol ar gyfer cyfathrebu ffibr optegol. Cyn hynny, bu’n gweithio fel uwch gysylltai ymchwil ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn y Deyrnas Unedig (2019-2023), yn aelod cyfadran yn DUET, Bangladesh (2004-2019) ac yn Gymrawd Ymchwil Marie Curie yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) a Phrifysgol Caergrawnt, y Deyrnas Unedig (2015-2017). Roedd hefyd yn ymchwilydd gwadd tymor byr yn Telekom Malaysia (TM) R&D, Malaysia, VPIphotonics GmbH, yr Almaen, ac Orange Polska, Gwlad Pwyl. Mae Dr Faruk wedi cyhoeddi dros 50 o bapurau mewn cyfnodolion enwog a chynadleddau rhyngwladol gyda nifer o erthyglau a sgyrsiau gwadd. Mae wedi gwasanaethu fel aelod TPC mewn sawl cynhadledd IEEE / OPTICA gan gynnwys bod yn aelod o is-bwyllgor OFC-2024. Mae'n uwch aelod o IEEE. 

   m.faruk@bangor.ac.uk 

 

 

 

Elaine Shuttleworth

Reolwr Gweithredu 

Mae Elaine yn rheoli portffolio projectau a gweithrediadau’r Ganolfan gan sicrhau cydymffurfiaeth lawn â phrosesau a gweithdrefnau PrifysgLlun o  Mrs Elaine Shuttleworthol Bangor a rheoliadau a rheolau’r amrywiol gyrff cyllido. 

Mae gan Elaine brofiad helaeth o reoli projectau, rhaglenni a gweithrediadau, gan gynnwys: ysgrifennu cynigion; cynlluniau rheoli cyflenwi; strategaethau fframwaith buddion; meithrin perthynas â’r rhanddeiliaid; rheoli cyllideb; yr holl weithgareddau caffael o greu gwahoddiad i’r dogfennau tendro i arwain paneli sgorio tendro; ysgrifennu adroddiadau; rheoli risg, mater a dibyniaeth; monitro gweithgareddau yn ôl cynlluniau; rheoli dangosyddion anariannol o brojectau a ariennir; ac arwain gwerthusiadau allanol. 

Hi yw'r Hyrwyddwr Themâu Trawsbynciol, ac mae’n sicrhau bod themâu fel cyfle cyfartal, datblygu cynaliadwy, a mynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol yn cael eu hintegreiddio i weithgareddau projectau. 

Graddiodd Elaine o Ysgol Busnes a Datblygiad Rhanbarthol Prifysgol Bangor yn 2002 gyda gradd anrhydedd ail ddosbarth uwch mewn Astudiaethau Busnes a Marchnata. 

   elaine.shuttleworth@bangor.ac.uk 

Bethan Lewis

Swyddog Gweithrediadau, Marchnata a Digwyddiadau

Mae Bethan yn rhoi cefnogaeth weinyddol a gweithredol i'r timau rheoli, academaidd ac ymchwil Prosesu Signalau Digidol (DSP), i helpu sicrhau bod y Ganolfan yn rhedeg yn esmwyth. Ymhlith y cyfrifoldebau mae trefnu teithio a lletygarwch ar gyfer digwyddiadau, prosesu cyllid, cynnal dogfennaeth y project, a rheoli cyfrifon y tîm ar Twitter a LinkedIn.  

Bu Bethan yn gweithio fel Rheolwr Project mewn llywodraeth leol a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, gan arwain nifer o projectau mawr yn niwygiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar reoleiddio meddygol. Bu mewn swyddi dewisol ar rwydweithiau staff amrywiol, gan hyrwyddo ac annog mentrau ar bynciau gan gynnwys iechyd meddwl, gwelliant parhaus a grymuso ar bob lefel. Mae hi'n ymarferydd PRINCE2 ardystiedig a chanddi ddiddordeb mewn amddiffyn y cyhoedd a gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol.  

Graddiodd Bethan gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf gyda Rhagoriaeth mewn Ffrangeg o Brifysgol Sheffield yn 2018, a threuliodd flwyddyn dramor yn dysgu Saesneg i ddisgyblion ysgol gynradd ym Montpellier, Ffrainc. 

Mae ei diddordebau y tu allan i'r gwaith yn cynnwys coginio, pêl-rwyd, Fformiwla 1, a chwilio am y llefydd coffi gorau…Os ydych chi'n gwybod am rai, cysylltwch â ni! 

  bethan.lewis@bangor.ac.uk 

Dr Wei Jin

WEi Jin

Darlithydd

Wei Jin ydw i a chefais fy ngeni ym mis Chwefror 1989. Fy nhref enedigol yw Henan yn rhan ganolog Tsieina. Dyma o le y tarddodd y gwareiddiad Tsieineaidd a cheir yno gofnod hanesyddol dros 3000 o flynyddoedd. Mae gen i deulu mawr gydag 8 cefnder ond fi yw unig blentyn fy rhieni. Yn 2007, deuthum yn fyfyriwr israddedig a deuthum i Chengdu, prifddinas hardd talaith Sichuan yn ne-orllewin Tsieina. Mae'n adnabyddus am ei bwyd sbeislyd megis hotpot, a dyma fy hoff fwyd. Roeddwn i wedi byw yn Chengdu am fwy na 10 mlynedd. Yn 2017, derbyniais fy ngradd PhD mewn Peirianneg Optegol o’r University of Electronic Science and Technology yn Tsieina. Ar gyfer thesis fy PhD, bûm yn gweithio ar rwydweithiau a alluogir gan brosesu signalau digidol. Ymunais â Phrifysgol Bangor fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ym mis Chwefror 2019 ac yna cefais fy mhenodi’n ddarlithydd ym mis Ebrill 2021. Ers 2019, rwyf wedi bod yn gweithio ar ddatrysiad 5G ar gyfer rhwydweithiau optegol goddefol. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys systemau trawsyrru optegol cyflymder uchel, rhwydweithiau mynediad optegol cost isel, cydgyfeiriant rhwydwaith mynediad-metro optegol di-dor, amlblecsyddion  optegol ‘add/drop’ sy’n galluogi signalau i ymuno a gadael y rhwydwaith ac i gael eu hailgyflunio, ac uwch algorithmau prosesu signalau digidol.

  wei.jin@bangor.ac.uk 

 

 

Dr Grahame Guilford

Rheolwr Ecsbloetio

Prif gyfrifoldeb Grahame yw denu cyllid ymchwil a datblygu o ffynonellau cyhoeddus a phreifat i gynyddu lefelau parodrwydd y technolegau a ddatblygir gan y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol. Yn ogystal, mae Grahame yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol, yn ogystal â phartneriaid diwydiannol y Ganolfan a chwmnïau perthnasol eraill i archwilio cyfleoedd ar gyfer masnacheiddio. 

  g.guilford@bangor.ac.uk

 

Dr Peter Butcher

Pete Butcher.jpg

Darlithydd - Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron

Mae Dr Peter Butcher yn Ddarlithydd mewn Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd ei radd BSc ac MSc mewn Cyfrifiadureg o Fangor a PhD o Brifysgol Caer. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddelweddu data trochi ar y we a dadansoddeg weledol mewn realiti estynedig a rhithrealiti. Yn ddiweddar mae wedi cyfrannu at brojectau cydweithredol sy'n ymwneud â rhaglenni ar gyfer rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron a dadansoddeg sefyllfaol. Trwy gymhwyso technegau delweddu, mae wedi gallu creu offer dadansoddeg gweledol ar gyfer projectau mewn disgyblaethau eraill gan gynnwys y gyfraith, lecsicograffeg, twristiaeth, treftadaeth a'r gwyddorau naturiol. Cyn hynny bu Peter yn gweithio yn y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol fel swyddog ymchwil ôl-ddoethurol yn y maes delweddu, lle bu’n canolbwyntio ar ddatblygu rhaglenni ar gyfer dadansoddeg trochi a gweledol, a’u defnyddio fel achosion defnydd i ddangos galluoedd cyfrifiadura perfformiad uchel.

  p.butcher@bangor.ac.uk

 

Mr. Omaro Gonem

Omaro Gonem.jpg

Swyddog Cefnogi Project Ymchwil

Enillodd Mr Omaro Gonem radd BSc yn yr Adran Peirianneg Electronig, y Gyfadran Beirianneg, Prifysgol Benghazi, Benghazi, Libya yn 2007 a gradd MSc mewn Band Llydan a Chyfathrebu Optegol o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor yn 2018. Ar hyn o bryd mae Mr Gonem yn gweithio tuag at PhD yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor. Mae Mr Gonem yn gweithio ar agweddau amseru megis crynhoad amseru a gwrthbwyso amlder samplu mewn PONs hybrid OFDM-DFMA. Mae gan Mr Gonem dros ddeng mlynedd o brofiad gwaith yn y sector peirianneg telathrebu. Yn ystod 2008 – 2012, bu Mr Gonem yn gweithio i Huawei Technologies Co., Ltd fel peiriannydd rhwydwaith craidd CS/PS.

  o.gonem@bangor.ac.uk

 

 

Miss Jiaxiang He

Jiaxiang He.jpg

Swyddog Cefnogi Project Ymchwil

Enillodd Miss Jiaxiang radd Baglor yn y Gwyddorau mewn Peirianneg Electronig o Brifysgol Bangor yn 2019. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio tuag at PhD mewn Peirianneg Electronig yn y Ganolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys cynlluniau amgryptio optegol i sicrhau rhwydwaith optegol, rhwydwaith optegol goddefol ar gyfer 5G a thu hwnt, a thrawsdderbynyddion hyblyg. Mae ei hymchwil presennol yn canolbwyntio ar gyfathrebu diogel corfforol yn seiliedig ar brosesu signalau digidol.

  eeu970@bangor.ac.uk
 

 

 

Dr Luis Vallejo Castro

Luis Vallejo castro.jpg

Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol 

Enillodd Mr Luis Vallejo radd BSc ac MSc mewn Peirianneg Telathrebu, gyda pheirianneg cyfathrebu fel prif bwnc, o Brifysgol Malaga, Sbaen, yn 2016 a 2017, yn y drefn honno. 
Yn ystod ei raglen Erasmus ôl-radd yn 2017, ysgrifennodd ei draethawd ymchwil Meistr, yn seiliedig ar fwyaduron sŵn isel, ym Mhrifysgol Kassel yn yr Almaen. Rhwng Tachwedd 2017 a Chwefror 2018 bu'n gweithio fel Peiriannydd Profi a Dilysu yn Keysight Technologies, Málaga, Sbaen, gan weithio’n enwedig gyda systemau prawf GS-8800 a GS-9000 a rheoli samplau 2G/3G/A-GPS. Ym mis Mawrth 2018, dechreuodd ei PhD ac ymunodd â'r Sefydliad Telathrebu a Rhaglenni Amlgyfrwng, Labordai Ymchwil Ffotonig, Prifysgol Polytechnig Valencia yn Sbaen. Yr Athro Beatriz Ortega oedd goruchwyliwr ei PhD, ac roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar ffotoneg microdonnau, cynhyrchu signal mmW, RoF/FSO ar gyfer 5G a thu hwnt  

  l.vallejocastro@bangor.ac.uk

 

 

 

Dr. Isaac N. O. Osahon

Isaac Osahon.jpg

Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol 

Enillodd Dr Isaac N. O. Osahon radd BEng mewn peirianneg electronig/trydanol (dosbarth cyntaf gydag Anrh.) o Brifysgol Covenant, Ota, Nigeria, yn 2012 a gradd MSc mewn Peirianneg Rhyngrwyd o Brifysgol Coleg Llundain yn 2015. Enillodd PhD mewn Peirianneg Cyfathrebu Digidol yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygiad Li-Fi yn y Sefydliad Cyfathrebu Digidol ym Mhrifysgol Caeredin. Fel myfyriwr PhD, bu’n gweithio ar dechnegau hafalu aflinol ar gyfer ffibr optegol plastig a chyfathrebu golau gweladwy (VLC). Ar gyfer ei waith ôl-ddoethurol, bu’n archwilio’r defnydd o gynlluniau prosesu signalau digidol ar gyfer cyfathrebu optegol tanddwr. Mae wedi ymuno â Phrifysgol Bangor fel swyddog ymchwil yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, lle mae'n archwilio prosesu uwch signalau a rhwydweithiau niwral artiffisial ar gyfer MIMO-VLC. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys y canlynol:
•    Cyfathrebu Optegol: Ffibr optegol plastig, cyfathrebu golau gweladwy, tanddwr
•    Prosesu Signalau Digidol: Cynlluniau modiwleiddio aml-lefel a thechnegau hafalu
•    Rhwydweithiau niwral artiffisial a dysgu peirianyddol

  i.osahon@bangor.ac.uk

 

 

Dr Piotr Fratczak

Piotr Fratczak.jpg

Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol 

Enillodd Dr Piotr Fratczak ei BSc a’i MSc mewn Rheolaeth Awtomatig a Roboteg o Brifysgol Dechnoleg Gorllewin Pomerania yn Szczecin, Gwlad Pwyl. Roedd ei draethawd hir Meistr yn canolbwyntio ar reoli robotiaid ar ffurf dynol mewn amser real trwy adborth gweledigaeth.  Enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Loughborough, lle defnyddiodd rithrealiti i efelychu peryglon posibl cydweithrediad diwydiannol rhwng pobl a robotiaid. Yn ystod ei PhD, astudiodd y posibilrwydd o ddefnyddio’r strategaethau rheoli ôl-ddamwain y bydd robot yn eu defnyddio i helpu pobl i deimlo'n fwy diogel ac yn fwy cyfforddus yng nghwmni’r robot ar ôl symudiad sydyn a allai ymddangos yn fygythiol.  Bellach, ym Mhrifysgol Bangor, mae Piotr yn astudio’r defnydd o rithrealiti ar gyfer systemau gwybodaeth ddaearyddol i efeilliaid digidol, a’u cysylltiad â thechnolegau rhwydwaith y dyfodol.

  p.fratczak@bangor.ac.uk

 

Mathew Purnell

Swyddog Cefnogi Project

Cwblhaodd Mathew leoliad haf lawn amser gyda’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol yn 2022 cyn llwyddo i gael contract dros gyfnod penodol yn y Ganolfan ochr yn ochr â chwblhau ei radd Meistr. Yn ystod ei amser yn y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol, bu Mathew’n cynorthwyo ein tîm ymchwil i ddatblygu dwy o'n systemau arddangos cludadwy ar gyfer ein technolegau arloesol; "Rhwydwaith Optegol Haen Gorfforol Ddiogel" a "Synhwyro Opteg Ffibr Wedi'i Ddosbarthu". Roedd rôl Mathew yn cynnwys tasgau megis dewis cydrannau, dylunio gosodiad y cydrannau i’w hamgáu, cydosod y systemau arddangos, profi ymarferoldeb a pherfformiad yr arddangoswr, a datblygu cyfarwyddiadau i ddefnyddwyr. Mae hefyd wedi ein cefnogi wrth gyflawni ein hystafell arddangos newydd, trwy gynorthwyo ein hymchwilwyr i osod a phrofi’r offer arbenigol, a gweithredu systemau monitro amddiffynnol. Ar ôl ei leoliad haf, cwblhaodd 
 

Mathew radd Meistr mewn 'Peirianneg Rheolaeth ac Offeryniaeth' yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn y Brifysgol, gan raddio gyda dosbarth 1af yn 2023.  Mae Mathew bellach yn gweithio fel Swyddog Cefnogi Project y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol, a’i brif gyfrifoldebau yw cefnogi’r tîm ymchwil gyda dylunio a datblygu prototeipiau a threialon maes, gweithredu a chynnal a chadw offer labordy, a chynorthwyo gyda gosod a chynnal arddangosiadau mewn digwyddiadau mewnol ac allanol. 

  mtp19jsh@bangor.ac.uk

Myfyrwyr presennol

Jasmine Parkes

Myfyriwr Meistr

Cwblhaodd Jasmine radd Baglor Peirianneg (BEng) mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor, gan raddio yn 2022 gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Enillodd Jasmine efrydiaeth HEFCW gyda’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol yn 2022, lle mae bellach yn astudio tuag at radd Meistr mewn Gwyddoniaeth trwy Ymchwil (MScRes) mewn Cyfathrebu Integredig Synhwyro Rhwydweithiau Optegol (SONIC). Mae hi'n canolbwyntio ar integreiddio Synwyryddion Opteg Ffibr Dosbarthedig (DFOS) amser real gyda throsglwyddo data ar yr un donfedd.

  jsp19kcs@bangor.ac.uk

 

 

Myfyrwyr blaenorol

David Batty

Cwblhaodd David leoliad haf gyda’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol yn 2022, gan weithio ar ddatblygu system arddangos ac awtomeiddio mesur labordy.

Ni yw'r unig labordy Canolfan DSP yn y DU. Diolch i’n hoffer o’r radd flaenaf, gwerth £3.5 miliwn (gan gynyddu i £5.5m yn 2024), mae ein cyfleusterau’n cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr gael profiad arbrofi ymarferol gwerthfawr i gefnogi gweithgareddau ymchwil damcaniaethol. Cadwch lygad am leoliadau myfyrwyr israddedig, cyfleoedd MEng/PhD ac yn ogystal â rolau academaidd isod.

Digwyddiadau sydd ar y gweill

Gallwch bori yma drwy'r rhestr lawn o’r digwyddiadau sydd gennym ni ar y gweill ym mhob rhan o'r Brifysgol.  


Gallwch bori drwy ein holl newyddion a digwyddiadau yn y gorffennol yma.

 

Canolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electroni, Prifysgol Bangor, Stryd y Deon, Bangor, Gwynedd, LL57 1UT

  CentreDSP

  Canolfan Rhagoriaeth DSP Centre of Excellence

Canolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electroni, Prifysgol Bangor, Stryd y Deon, Bangor, Gwynedd, LL57 1UT

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?