Mwynglawdd manganîs Nant y Gadwen, Porth Ysgo, Llŷn

Taith Rithiol Porth Ysgo

Mae olion Nant, neu Nant y Gadwen, mwyngloddiau a thramiau a glanfeydd cysylltiedig Porth Ysgo ar arfordir deheuol Penrhyn Llŷn, Gwynedd, ychydig yn is na phentref Llanfaelrhys. Dyma un o dri mwynglawdd o amgylch Rhiw – y ddau arall yw mwyngloddiau Rhiw a Benallt. Mae’r mwyngloddiau hyn i gyd yn cynhyrchu mwyn manganîs sy’n deillio o gerrig llaid Ordofigaidd a gafodd eu symud, a daeareg gymhleth Cymru yw’r rheswm pam y daw bron pob un o’r mwynion manganîs a echdynnwyd ym Mhrydain yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif o Gymru.

Ymgollwch mewn taith rithiol o amgylch yr heneb a’i chyffiniau. Gallwch hefyd ddarllen disgrifiad hygyrch o'r daith, a gweld map rhyngweithiol o dramffyrdd a strwythurau Mwyngloddiau Nant y Gadwen, Benallt a Rhiw.

  • Prosiect LIVE ac Ecoamgueddfa
  • Lluniau a’r daith rithiol gan Bernd Kronmueller, Panoramas and Virtual Tours
  • Crynodebau testun o’r teithiau gan Owen Hurcum, Prifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?