Bryngaer Tre’r Ceiri, Llŷn

Taith Rithiol Tre’r Ceiri

Mae Tre’r Ceiri yn fryngaer Frythonaidd-Rufeinig drawiadol o’r Oes Haearn. Mae wedi ei lleoli ar ben y mynydd mwyaf dwyreiniol o dri copa’r Eifl ger Llanaelhaearn. Mae’n heneb warchodedig ac mae ei chyflwr gyda’r gorau ym Mhrydain. Safleoedd ymgasglu oedd bryngaerau: roeddent yn darparu llety, yn le i storio bwyd ac i gynnal defodau. Roeddent yn ganolbwynt i gymunedau a oedd yn byw ar y tir hwn yn ystod mileniwm cyntaf CC a hanner cyntaf mileniwm cyntaf OC. Mae’r fryngaer wedi’i hamgáu gan wal gerrig drawiadol, mae iddi ddwy fynedfa a thu mewn i’r waliau mae hyd at 150 o dai crynion ac adeileddau hirsgwar. Roedd trigolion y fryngaer yn parchu carnedd gladdu gynharach o’r Oes Efydd, sydd ar gopa’r bryn.

Ymgollwch mewn taith rithiol o amgylch yr heneb a’i chyffiniau. Gallwch hefyd ddarllen disgrifiad hygyrch o'r daith.

  • Prosiect LIVE ac Ecoamgueddfa
  • Lluniau a’r daith rithiol gan Bernd Kronmueller, Panoramas and Virtual Tours
  • Crynodebau testun o’r teithiau gan Dr Kate Waddington, Prifysgol Bangor
  • Ffilm gan Cai Erith, Forrest Lancaster a Rhys Mwyn

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?