Cafodd Afon Conwy yng ngogledd Cymru ei harolygu gan wyddonwyr i ganfod gwybodaeth enetig newydd i’w defnyddio i fonitro afonydd dŵr croyw ledled y byd. Bu sefydliadau lluosog wrth y gwaith, o dan arweiniad Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig. Caiff ei gyhoeddi yn Nature Communications.
Mae gweithgareddau dynol fel y newid yn yr hinsawdd ac addasu cynefinoedd yn peri bod poblogaethau o rywogaethau dŵr croyw’n dirywio ledled y byd. Felly mae angen i gadwraethwyr a gwyddonwyr gynnal arolygon ecolegol sylfaenol, er mwyn monitro a gwella'r amgylcheddau hynny, ond mae dulliau traddodiadol o gynnal arolygon dŵr croyw’n dibynnu ar arbenigedd unigol a gallant gymryd cryn amser.
Gall samplu’r dŵr a’r gwaddodion am DNA hybrin gynnig dealltwriaeth ddyfnach o lawer inni o’r rhywogaethau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd hwnnw. Gall DNA amgylcheddol, neu eDNA ddatgelu presenoldeb rhywogaethau sy’n rhy fach i’w gweld â’r llygaid dynol a gall ganfod anifeiliaid a phryfed mwy o faint a fu’n symud drwy’r gofod hwnnw, gan gynnwys eogiaid a larfâu gwas y neidr, oherwydd y darnau bach iawn o DNA maent yn eu gadael ar eu hôl yn yr amgylchedd.
Mae dadansoddiadau eDNA eisoes yn cael eu defnyddio mewn llynnoedd ac yn y môr. Er mwyn eu defnyddio'n effeithiol mewn afonydd, roedd angen datrys un cwestiwn - pa mor bell i waered afon mae eDNA yn teithio cyn iddo fynd yn ddisylw?
Trwy samplu dwys ar Afon Conwy a chymharu’r data canlyniadol gydag afonydd cymharus eraill yng Nghymru (Tywi), Lloegr (Gwash), y Swistir (Glatt) ac UDA (Skaneateles), atebodd y tîm o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham ac UKCEH y cwestiwn.
Datgelodd y gwaith nad yw eDNA yn goroesi fawr ddim y tu hwnt i gilometr i waered afon. Felly gall ecolegwyr fod yn sicr bod y rhywogaethau sydd mewn sampl eDNA yn gynrychioliadol o ble y cymerwyd sampl y dŵr, ac nid o gynefinoedd lawer cilometr i fyny'r afon.
Dywedodd Dr William Perry, Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol yn Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd ac awdur arweiniol yr astudiaeth,
“Mae canlyniadau'r papur hwn yn ei gwneud hi'n bosibl i ecolegwyr ac eraill ddechrau defnyddio arolygon eDNA yn fwy hyderus mewn afonydd ledled y byd. Mae’n dangos ei bod yn bosib cael data cynhwysfawr ynglŷn â’r organebau sydd yn ein hafonydd, sy’n rhoi cyfle teg inni atal yr effeithiau niweidiol a achosir gan weithgarwch dynol.”
Dywedodd yr Athro Simon Creer, arweinydd Grŵp Esblygiad ac Ecoleg Foleciwlaidd Prifysgol Bangor a chydlynydd grant Amlygu Pwnc Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a fu’n arwain y consortiwm,
“Yr unig ffordd i ddeall taith a dyfalbarhad eDNA mewn ecosystemau go iawn yn llawn oedd cynnal y math yma o astudiaeth - samplu tacsa yn rheolaidd o bob rhan o’r goeden fywyd, o feintiau gofodol lluosog ac ar amseroedd mynych ledled y cylch blynyddol. Mae ein canlyniadau’n datgelu’r berthynas rhwng olion eDNA a’r miloedd o anifeiliaid sy’n byw yn ecosystemau afonydd y byd, a dilysu’r defnydd o ddadansoddiadau eDNA afonol i asesu bioamrywiaeth ar lefel yr ecosystem”.
Dywedodd yr Athro Jack Cosby, biogeogemegydd yn UKCEH a chyd-awdur y gwaith,
“Mae’r project yn amlygu pwysigrwydd cynyddol eDNA fel arf i astudio prosesau ecolegol, biogeogemegol a hydrolegol o faint genynnau hyd at faint tirwedd. Mae dulliau integredig o’r fath o gynnal ymchwil amgylcheddol yn cynnig dealltwriaeth gyfannol inni o ran sut mae pwysau’n dylanwadu ar adnoddau naturiol ac yn helpu llywio arferion polisi a rheolaeth i’w hamddiffyn.”
Afonydd Cymru’n cynnig tystiolaeth ar gyfer monitro afonydd yn fwy effeithiol
Sefydlu sylfaen ar gyfer cludo eDNA afonol