Fy ngwlad:
Two common dolphins in the sea

Ecoleg Uwch Ysglyfaethwyr Morol

Ymchwil rhyngddisgyblaethol ar uwch ysglyfaethwyr morol — pysgod, mamaliaid morol, ac adar môr - ar draws ecosystemau.

Ar y dudalen yma:
Palod Môr yr Iwerydd yn eistedd ar graig

Ein Hymchwil

Mae Tîm Ymchwil Uwch Ysglyfaethwyr Morol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn defnyddio dulliau aml-ddisgyblaethol i ddeall yn well y dylanwadau anthropogenig ac amgylcheddol ar bysgod, mamaliaid morol a phoblogaethau adar môr mewn gofod ac amser. Mae ein hymchwilwyr yn gweithio'n weithredol gyda chydweithwyr o ddisgyblaethau amrywiol (e.e. ecoleg, eigioneg, peirianneg, hanes, ystadegau) i ddatgelu mecanweithiau sy'n dylanwadu ar ymddygiad a symudiad anifeiliaid, yn ogystal â helaethrwydd a dosbarthiad poblogaeth.

Integreiddio Dulliau Amrywiol ar gyfer Ymchwil Cynhwysfawr o Ecosystemau Morol

Mae ein hymchwil yn ymestyn dros arsylwadau maes a modelu cysyniadol, dulliau confensiynol a dulliau blaengar, systemau astudio lleol a thramor, a rhywogaethau a chynefinoedd amrywiol i ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o ryngweithiadau bioffisegol a biolegol.

Ymchwil Rheolaeth a Chadwraeth Morol Cynaliadwy

Mae ein hymchwil yn gweithio tuag at ddatrysiadau cynaliadwy mewn rheolaeth a chadwraeth forol trwy fesur deinameg rhwng bodau dynol a bywyd gwyllt a nodi amgylcheddau neu amodau sy'n hyrwyddo ecosystemau morol iach.

Murfran Wen Ogleddol yn hedfan uwch y môr
Ria de Vigo

Rhwydwaith Cydweithredu Ymchwil Byd-Eang

Mae ein tîm ymchwil yn cydweithio'n rhagweithiol gyda nifer fawr o bartneriaid ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol. Mae enghreifftiau o bartneriaid diweddar yn cynnwys:

  • Liverpool University
  • UHI Shetland
  • National Oceanography Centre
  • University of Aberdeen
  • Virginia Institute for Marine Sciences (USA)
  • Sea Watch Foundation
  • French National Centre for Scientific Research (CNRS)
  • Aarhus University (Denmark)
  • Stazione Zoologica Anton Dohrn (Italy)
  • Instituto de Investigaciones Marinas (Spain)
  • Universidade de Vigo (Spain)
Llong Ymchwil Y Prince Madog yn dod mewn i'r doc
Llong Ymchwil Y Prince Madog yn dod mewn i'r doc

Cyfleusterau Arbenigol

Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio llong ymchwil bwrpasol, o'r radd flaenaf Prifysgol Bangor - y Prince Madog. Yn cael ei defnyddio gan Brifysgol Bangor a phrifysgolion eraill y DU, mae'r Prince Madog yn galluogi hyd at 10 gwyddonydd a 20 myfyriwr ar y tro i astudio bioleg, cemeg, daeareg a ffiseg ein moroedd. 

School of Ocean Sciences, LL59 5AB

Cysylltu â Ni

Ysgol Gwyddorau Eigion, LL59 5AB