Helo, fy enw i yw Gabriel ac rwy'n dod o Rwmania.
Ar hyn o bryd rwy'n astudio gwyddorau meddygol ac eisiau bod yn feddyg.
Mae Campws Byw wedi bod yn brofiad gwych i mi hyd yma, felly rwyf am rannu’r profiad hwn gyda chi i gyd drwy’r digwyddiadau niferus y byddaf i a fy nhîm yn eu cynllunio ar eich cyfer yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Mae croeso i chi sgwrsio â mi pryd bynnag y gwelwch fi. Byddwn yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi i gyd a chael amser da.