Fy ngwlad:
Purple background image

Ymchwil yn Taflu Goleuni Newydd ar Blant sy'n Byw gyda Phoen Cronig

Mae plant sy’n byw gyda phoen cronig a’u teuluoedd wedi bod yn ganolbwynt i ymchwil arloesol y chwaraeodd ymchwilwyr Prifysgol Bangor ran allweddol ynddi.

Pan fydd plant yn profi poen cronig cymedrol i ddifrifol, mae’n effeithio ar y teulu cyfan, gan ddylanwadu ar wahanol agweddau o’u bywydau, megis cyflogaeth rhieni, llesiant brodyr a chwiorydd, a rhagolygon addysgol y plentyn a’i ragolygon gyrfa yn y dyfodol.

Dr. Mayara S Bianchim,  Ymchwilydd, Ysgol Gwyddoraiu Iechyd

Mewn podlediad sy’n procio’r meddwl, mae Dr Bianchim yn ymchwilio i'r manteision sy'n deillio o gynnwys pobl ifanc â phoen cronig yn weithredol yn yr ymchwil, yn ogystal â chael dealltwriaeth amhrisiadwy o'u profiadau o fyw gyda chyflwr. Fe wnaeth dull arloesol Dr Bianchim, a oedd yn cynnwys profiadau plant o fyw gyda phoen cronig, ennill cydnabyddiaeth gan y gymuned wyddonol, gan arwain ati’n derbyn gwobr fawreddog Thomas C Chalmers.

Mae’r project ymchwil tair blynedd, a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, yn nodi carreg filltir arwyddocaol. Mae'n adrodd ar yr adolygiad cyntaf a wnaed yn dda o ymchwil bresennol i blant sy'n byw gyda phoen cronig a'u teuluoedd. 

Mae argymhellion allweddol o’r adroddiad Cochrane a gyhoeddwyd yn pwysleisio datblygiad dull gweithredu newydd sy'n integreiddio cefnogaeth i blant a'u teuluoedd o'r sectorau iechyd ac addysg gyda sefydliadau elusennol. Pwysleisiodd Dr Bianchim bwysigrwydd y dull hwn, gan ddweud,

“Fe wnaethon ni ddarganfod bod teuluoedd yn cael eu gadael i ddelio â phoen cronig ar eu pen eu hunain, ac mae’r mwyafrif wedi colli pob gobaith o dderbyn cefnogaeth effeithiol gan y gwasanaethau iechyd. Yr hyn sydd ei angen ar fyrder yw dull gweithredu cwbl integredig o ran gofal sy'n mynd i'r afael ag anghenion y teulu cyfan."

Fe wnaeth yr ymchwil, o'r enw 'Rheoli poen cronig di-ganser plant yn well (astudiaeth CHAMPION)', ddod ag arbenigwyr ynghyd o Brifysgol Stirling, y Sefydliad Marchnata Cymdeithasol ac Iechyd, Prifysgol Caerfaddon, a Phrifysgol Bangor. Chwaraeodd yr Athro Jane Noyes, sy'n enwog am ei harbenigedd mewn ymchwil cymhwysol i blant, ran ganolog yn natblygiad yr astudiaeth.
 

Nid yw’n dderbyniol bod disgwyl i blant â phoen cronig ddioddef. Mae yna lawer o opsiynau y gall plant a theuluoedd eu defnyddio i reoli poen y plentyn yn well fel y gallant fwrw ymlaen a mwynhau eu bywydau.

Yr Athro Jane Noyes,  Athro mewn Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Plant, Ysgol Gwyddorau Iechydhool of Health Sciences

Yn aml, gall pobl â phoen cronig deimlo nad oes neb yn gwrando arnom ni, ond yn y project hwn, gwrandawyd ar bopeth a ddywedwyd gennym ni, a'i nodi a'i drafod, a wnaeth i mi deimlo bod fy marn yn cael ei gwerthfawrogi. Mae gallu cymryd rhan ym mhroject CHAMPION yn teimlo fel bod rhywbeth cadarnhaol yn dod o fy nghyflyrau poen cronig a bod fy nghyfraniad a’m profiadau yn mynd i helpu eraill fel fi yn y dyfodol. Mae’n deimlad hyfryd.

Georgina Ferguson-Glover,  Un o'r bobl ifanc a gymerodd ran yn yr astudiaeth

Arweiniodd yr ymchwil hefyd at greu'r animeiddiad “Rolercoaster poen cronig”, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â phobl ifanc sy'n byw gyda phoen cronig a'u teuluoedd. Mae'r animeiddiad yn ddarlun teimladwy o'r heriau a wynebir gan blant sy'n byw gyda phoen cronig ac mae'n tanlinellu pwysigrwydd cefnogaeth gynhwysfawr.

I gael rhagor o wybodaeth am ganfyddiadau’r ymchwil ac adnoddau, ewch i wefan Llyfrgell Cochrane.