Mae ewyllys yn ddogfen gyfreithiol effeithiol a all helpu i warchod y bobl a’r sefydliadau hynny y dymunwch eu cefnogi. Trwy wneud ewyllys byddwch yn sicrhau bod eich cyfoeth oes yn parhau i ddarparu ar gyfer eraill.
Pan fyddwch yn penderfynu gwneud ewyllys dylech ymgynghori â chyfreithiwr a fydd yn rhoi cymorth proffesiynol i chi er mwyn sicrhau y bydd eich cynlluniau’n rhoi’r budd ariannol mwyaf posibl i’ch buddiolwyr. Mae’n bwysig eich bod yn diweddaru eich ewyllys i gymryd i ystyriaeth newidiadau mewn amgylchiadau.
Dyma’r pedwar prif fath o gymynrodd y gellwch ei adael yn eich ewyllys:
Ariannol: Rhodd o swm penodol o arian.
Mae gwerth rhodd o’r fath yn gostwng gyda chwyddiant o’r adeg yr ysgrifennir yr ewyllys. Gellir osgoi hyn drwy ei gysylltu â’r Mynegai Pris Manwerthu (Retail Price Index) neu neilltuo canran o’ch ystâd (gweler Cymynrodd Gweddillol).
Penodol: Rhodd o eiddo neu ased penodol.
Mae enghreifftiau’n cynnwys: eiddo, stociau a chyfranddaliadau, darluniau a pethau gwerthfawr eraill.
Gweddillol: Rhodd o weddill eich ystâd neu gyfran ohoni.
Unwaith y byddwch wedi gwneud eich rhoddion ariannol a phenodol bydd gweddill eich ystâd ar ôl. Gellwch roi’r cyfan o’r gweddill i berson neu sefydliad neilltuol, neu gellwch ei rannu rhwng nifer o fuddiolwyr. Mantais y math yma o gymynrodd yw na fydd yn cael herydu gan chwyddiant.
Refersiynol: Rhoi asedion i fuddiolwr o’ch dewis, ond gan roi y buddion ohonynt i unigolyn penodedig yn ystod ei (h)oes.
Er enghraifft, gallai rhodd o’r math yma alluogi i gymar barhau i fyw mewn tŷ sy’n eiddo i chi nes bydd ef/hi yn marw, gyda’r cyfalaf wedyn yn dod yn eiddo i’r Brifysgol.
Awgrymiadau ar gyfer geirio cymynroddion.