“Cyflwynais rodd am fy mod yn credu bod yr ymgyrch yn syniad gwych; mae rhai o’r myfyrwyr y cefais y fraint o fod yn ffrindiau â hwy yma ym Mangor yn cael anhawster gwirioneddol i gael dau ben y llinyn ynghyd, neu’n cael problemau emosiynol neu academaidd. Mae bod ag adnoddau cyfyngedig yn ei gwneud yn anodd cefnogi myfyrwyr; os gallaf helpu i godi mwy o arian trwy roi amser i gefnogi’r ymgyrch, yna rwy’n fwy na bodlon cefnogi a bod yn rhan o achos mor deilwng.”
Dyfyniad gan un o’r rhai a ffoniodd adeg y telethon, ac a roddodd £60 tuag at bot Anghenion Mwyaf Cronfa Bangor ar ôl cymryd rhan yn yr ymgyrch Codi Arian.