Gwyliwch y seremonïau Graddio yn fyw
#GraddioBangor: dyddiadau seremoniau, amserlen a gwybodaeth allweddol
Bydd y dolenni hyn yn fyw (mis Mawrth)
Cofrestru yma; Myfyriwr Presennol
Mae angen i'r holl fyfyrwyr sydd â hawl i ddod i'r Seremonïau Graddio roi gwybod i ni erbyn (TBC)a fyddant yn dod i'r seremoni neu beidio. Dilynnwch y bwtwm 'Cofrestru Yma' (uchod)) o hanner dydd (TBC)ymlaen er mwyn cofrestru.
Ni chaniateir i fyfyrwyr fynychu'r seremoni os nad ydynt wedi cofrestru eu presenoldeb erbyn (TBC)
Ar y diwrnod:
Mae'r holl Seremonïau'n cael eu dangos yn fyw ar wefan y Brifysgol felly gellir eu gwylio'n fyw.
Dylai myfyrwyr gyrraedd y Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau o leiaf 90 munud cyn ddechrau'r seremoni i gofrestru eu presenoldeb,
Mae mynediad i'r seremoni ar gyfer pob gwestai DRWY DOCYN YN UNIG Nid oes ar fyfyrwyr angen tocyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi dod â ffrindiau a theulu gyda nhw i'w seremoni raddio. Gan fod nifer y seddi yn Neuadd Prichard-Jones yn gyfyngedig, ni allwn warantu ond DAU DOCYN GWESTAI i bob myfyriwr os ydych yn archebu erbyn (TBC)
Gallwch archebu tocynnau ar-lein drwy'r ddolen yn yr ebost
Os methwch â phrynu'ch tocynnau gwesteion erbyn 8 Tachwedd 2024 ni allwn warantu y bydd eich gwesteion yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni.
Os daw unrhyw docynnau ychwanegol ar gael ar gyfer unrhyw rai o'r seremonïau, caiff y rhain Ar-lein (TBC)drwy ddilyn y ddolen wreiddiol a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru eich presenoldeb. Bydd y tocynnau'n am ddim yr un a chyfyngir hwy i ddau docyn ychwanegol i westeion i bob myfyriwr. Os bydd tocynnau ychwanegol ar gael fe'u gwerthir ar sail y cyntaf i’r felin.
Dim ond ar-lein y gellir archebu tocynnau
I anfonir y tocynnau atoch trwy’r post, byddant ar gael i’w casglu ar ddiwrnod eich seremoni o Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau.
Casglu Tocynnau
Bydd holl docynnau gwesteion ar gael i’w casglu wrth y ddesg cofrestru myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Mae'n rhaid i docynnau gael eu casglu o leiaf 30 munud cyn dechrau'r seremoni.
Ym Mhrifysgol Bangor mae graddio'n achlysur teuluol ac mae croeso i blant ddod i'r seremoni. Fodd bynnag, mae'n rhaid i oedolyn fod efo nhw. Mae'r seremonïau’n para oddeutu 90 munud ac rydym wedi gweld trwy brofiad bod plant yn diflasu a mynd yn aflonydd; felly nid ydynt yn addas i blant ifanc iawn. O ran parch at westeion eraill rydym yn gofyn am i blant gael eu hebrwng allan o'r neuadd os byddant yn mynd yn aflonydd yn ystod y seremoni rhag iddynt darfu ar y digwyddiadau a mwynhad gwesteion eraill.
Rhaid i blant dan 3 oed (dim mwy na dau i bob myfyriwr) eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt. Rhaid i blant 3 oed a hŷn gael tocyn i westeion i gael mynd i'r seremoni.Os ydych yn dod â babi sy'n dal mewn pram neu goets fach i'r seremoni, a fyddech cystal â nodi hynny pan fyddwch yn prynu eich tocynnau. Gofynnir i chi p'un a ydyw unrhyw rai o'ch gwesteion angen unrhyw drefniadau arbennig. Ein cyngor yw i blant wylio'r seremoni o Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau, lle nad oes angen tocynnau.
Gwesteion ychwanegol:
Mae croeso i chi ddod â gwesteion ychwanegol a gallant wylio’r seremoni a ddarlledir ar sgrin fawr mewn darlithfa gerllaw - nid oes angen tocynnau ar gyfer hyn.
Mae graddio yn achlysur ffurfiol ac mae gofyn i fyfyrwyr wisgo gwisg academaidd.
Mae'r wisg yn cael ei harchebu drwy Ede and Ravenscroft fan yma o (TBC) ymlaen Gwisg Academaidd. Dyddiad cau i archebu ar-lein yw (TBC)
Mae'r dyddiadau ar gyfer Seremoniau y Gaeaf wedi'u cadarnhau fel 7 - 11 Gorffennaf 2025
Bydd Myfyrwyr rhyngwladol sydd angen llythyr fisa ar gyfer eu gwesteion yn gallu trefnu hyn wrth archebu tocynnau gwestai ar lein ym mis Hydref.
Bydd yr union dyddiadau ac amseroedd yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2025
|
Cyfle i longyfarch ein Graddedigion a rhannu eich dathliadau Graddio.
Defnyddiwch #GraddioBangor a #PrifysgolBangor ar Instagram neu Twitter - gall ymddangos yma.
Newyddion Graddio
Memorabilia
Rwyt ti wedi cael y radd, dim ond prynu'r crys-t sydd ei angen nawr! Rydym wedi ymuno â’r anhygoel Campus Clothing i ddarparu ystod unigryw o Anrhegion a Dillad Graddio Swyddogol wedi’u brandio. O hwdis moethus a chrysau-t gydag enwau graddedigion wedi'u hargraffu ar y cefn, mygiau, a bathodynnau pin. Dewiswch rywbeth arbennig i'w gadw i gofio'ch seremoni radio. Gallwch hyd yn oed ei bersonoleiddio i wneud i'ch enw sefyll allan hefyd!
Dewch i ymweld â stondin cyfeillgar Campus Clothing yn eich seremoni raddio, lle bydd casgliad o nwyddau graddio ar gael i'w prynu. Bydd yr holl stoc ar gael ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Gallwch hefyd archebu eitemau yr hoffech eu personoli yn y digwyddiad.
Fel arall, porwch yr ystod lawn o Anrhegion a Dillad Graddio ac archebwch nwyddau graddio wedi’u personoleiddio ar-lein i'w danfon gartref.
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG