Enillodd Michal Wobr Rhagoriaeth Menter 2023 y brifysgol a ddyfernir i un myfyriwr yn unig ym Mhrifysgol Bangor gan y gwasanaeth cyflogadwyedd am ddatblygiad sgiliau menter rhagorol yn ystod eu profiad prifysgol.
Erbyn hyn mae Michal wedi creu Synargize, sef ymgynghoriaeth a fydd yn gweithio gyda chwmnïau sy'n defnyddio dull academaidd ar sail tystiolaeth i'w helpu i hybu gwerthiant yn wyddonol drwy'r dulliau marchnata technolegol maent yn eu defnyddio.
Ddaeth Mikołaj Michał Nawrot i’r Deyrnas Unedig gyda’i deulu pan oedd yn ei arddegau, a bu’n gweithio ym maes lletygarwch tan y pandemig, pan welodd ei gyfle i ddilyn ei freuddwyd ac astudio seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.
Ar ôl chwarae gyda’r syniad o ffurfio busnes yn yr haf rhwng ei ail a’i drydedd flwyddyn, penderfynodd Michał wrth fynd i mewn i’w drydedd flwyddyn i fanteisio’n llawn ar yr holl gefnogaeth entrepreneuraidd a’r gweithgareddau a gynigir gan Brifysgol Bangor.
Arweiniodd dîm project yng nghystadleuaeth arloesol Menter trwy Ddylunio/BUILT y brifysgol. Fel rhan o’r gystadleuaeth mae timau amlddisgyblaethol o fyfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â chynghorwyr busnes cenedlaethol a rhyngwladol i ddatrys heriau diwydiannol neu fasnachol go iawn. Gwnaeth tîm Menter trwy Ddylunio Michał ffurfio partneriaeth â fferm leol i ehangu'r ffyrdd y gallent ryngweithio â'u cwsmeriaid.
Meddai Michał:
''Mae bod yn rhan o Fenter trwy Ddylunio/BUILT wedi bod yn gyfle gwych i gwrdd â chyd-fyfyrwyr â meddylfryd entrepreneuraidd tebyg o'r Ysgol Busnes a’r Ysgol Peirianneg. Cawsom y fraint o gael ein mentora gan arbenigwyr mewn llawer o ddiwydiannau ac mae hwn wedi bod yn brofiad gwerthfawr i wella fy sgiliau arwain.''
Ers ffurfio ei fusnes, mae Michał hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Brifysgol Bangor trwy ei chysylltiad ag elfen seicoleg y Rhwydwaith Geltaidd Arloesi Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN) sef rhwydwaith ymchwil ar raddfa fawr a gyllidir trwy gronfeydd Ewropeaidd. Derbyniodd gefnogaeth hefyd gan dîm Byddwch Fentrus a Chronfa Fenter y brifysgol a gyllidir yn rhannol gan Brifysgolion Santander.
“Mae gan Byddwch Fentrus ym Mhrifysgol Bangor dîm gwych sy'n sicrhau bod adnoddau ar gael yn gyson i gefnogi myfyrwyr gyda’u cynlluniau entrepreneuraidd. Yn ogystal, mae bod yn rhan o broject CALIN wedi rhoi'r gallu i mi ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth yn fy musnes,'' ychwanegodd.
Bwriad Michal yw ychwanegu gradd marchnata lefel meistr at ei gymwysterau, ac mae’n gweld sut y gall ei ddealltwriaeth o seicoleg ei helpu i weithio gyda chwmnïau i fabwysiadu atebion arloesol.
Roedd Michał yn falch o gael ei dderbyn i astudio ym Mangor lai na 10 mlynedd ers cyrraedd Prydain. Mae wrth ei fodd â lleoliad y brifysgol rhwng mynyddoedd Eryri a’r môr. Ychwanegodd:
Yn ogystal â bod mewn lleoliad gwych, mae’r brifysgol wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn y gymuned leol, a wnes i wir fwynhau’r cyfleoedd i weithio gyda rhai o’r busnesau lleol gwybodus a dod i’w hadnabod.''