Y sefyllfa dreth ar gyfer costau adleoli
Nodwch os gwelwch yn dda, mae'n rhaid i Bennaeth y Coleg/Gwasanaeth gymeradwyo costau adleodi cyn llofnodi contract cyflogaeth.
Mae'n rhaid i'r treuliau fod wedi'u hysgwyddo o ganlyniad i newid preswylfa, fel arfer naill ai drwy ddechrau cyflogaeth newydd, neu o ganlyniad i secondiad gan gyflogwr presennol.
Treuliau a buddion y gellir eu hawlio o dan £8,000 o lwfans adleoli wedi’u heithrio rhag treth:
• gwaredu neu fwriad i waredu hen breswylfa (gweler A).
• caffael neu fwriadu caffael preswylfa newydd (gweler B).
• cludo eiddo (gweler C).
• teithio a chynhaliaeth (gweler D).
• nwyddau domestig ar gyfer y cartref newydd (gweler E).
• benthyciadau pontio mewn perthynas â phrynu’r cartref newydd.
Treuliau heb eu cynnwys::
• unrhyw fath o gymhorthdal os yw prisiau tai yn yr ardal newydd yn uwch na chartref blaenorol y gweithiwr.
• taliadau llog morgais ar gyfer cartref presennol y cyflogai.
• iawndal am unrhyw golled a wnaed wrth werthu cartref y gweithiwr.
• iawndal am golledion eraill a gafwyd wrth symud tŷ.
• ailgyfeirio post.
• Biliau Treth Cyngor
• cludo a chadw anifeiliaid domestig
Rhaid i’r treuliau, neu’r budd, fod wedi dod i ran y cyflogwr o fewn blwyddyn ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y digwyddodd y newid i’w cyflogaeth.
Ni ddylai’r hen gartref fod o fewn pellter teithio rhesymol i’r gweithle newydd, a rhaid i’r cartref newydd fod o fewn pellter teithio rhesymol i’r gweithle newydd.
Gellir cynnwys costau fisa i’w had-dalu o fewn y lwfans adleoli pan fydd cyflogai newydd yn gwneud cais am ei fisa y tu allan i’r DU.
• costau cyfreithiol a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â'r gwarediad.
• treuliau a gwasanaethau cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag adbrynu benthyciad sy’n ymwneud â’r eiddo - mae benthyciad yn ymwneud ag eiddo os y’i cafwyd i gaffael yr eiddo, er enghraifft morgais, neu os cafodd ei warantu ar yr eiddo, er enghraifft benthyciad gwella cartref.
• cosbau am ad-dalu benthyciad sy'n ymwneud â'r eiddo.
• ffioedd a gwasanaethau'r gwerthwr tai neu’r arwerthwr
• Hysbysebu
• datgysylltu trydan, nwy, dŵr neu ffôn.
• os caiff yr eiddo ei adael yn wag yn aros i gael ei waredu:
• unrhyw rent a dalwyd am y cyfnod pan fo’r eiddo’n wag.
• yswiriant am y cyfnod.
• cynnal a chadw’r eiddo yn ystod y cyfnod.
• diogelu’r eiddo yn ystod y cyfnod
Ni chaniateir hawlio unrhyw dreth gyngor a dalwyd pan oedd yr eiddo’n wag.
• costau cyfreithiol a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â'r pryniant.
• costau a gwasanaethau cyfreithiol sy'n gysylltiedig ag unrhyw fenthyciad a geir i gaffael y buddiant yn yr eiddo.
• ffioedd caffael neu drefnu sy'n gysylltiedig â benthyciad o'r fath.
• premiymau indemniad morgais.
• arolwg neu archwiliad o'r eiddo. Mae hyn yn cynnwys arolygon strwythurol a phrisiadau cymdeithasau adeiladu.
• Ffioedd y Gofrestrfa Tir yng Nghymru a Lloegr.
• ffioedd sy’n daladwy i Geidwad Cofrestri'r Alban.
• ffioedd sy’n daladwy i'r Gofrestrfa Tir yng Ngogledd Iwerddon neu i Gofrestrfa Gweithredoedd Gogledd Iwerddon.
• treth stamp.
• cysylltu gwasanaethau trydan, nwy, dŵr a ffôn
Mae hyn yn cynnwys symud eiddo domestig o'r hen breswylfa i'r newydd a chostau yswiriant wrth gludo..
Mae symud yn cynnwys:
• pacio a dadbacio
• storio dros dro, os na symudir yn uniongyrchol o’r hen breswylfa i’r breswylfa newydd (ond nid yw storio dros dro yn gost gymwys os nad oes gan y cyflogai unrhyw fwriad i symud yr eiddo i’r breswylfa newydd).
• tynnu gosodiadau domestig yn yr hen breswylfa os ydynt i'w cludo i'r breswylfa newydd a'u hailgysylltu wrth gyrraedd yno
TYr eiddo domestig a gwmpesir yw eiddo'r gweithiwr ac aelodau ei deulu neu ei aelwyd.
• ymweliadau rhagarweiniol â'r lleoliad newydd.
• teithio o'r hen gartref i'r lleoliad gwaith newydd.
• teithio rhwng y cartref newydd a'r hen leoliad gwaith (os symudir tŷ cyn trosglwyddo swydd).
• llety dros dro.
• teithio rhwng yr hen gartref a'r llety dros dro.
• teithio rhwng y cartref newydd a'r llety dros dro (pan fyddwch yn symud tŷ cyn trosglwyddo i'r swydd newydd).
• teithio o'r hen gartref i'r cartref newydd adeg y symud
Mae'r eithriad yn berthnasol pan brynir nwyddau domestig y bwriedir iddynt ddisodli eitemau a ddefnyddiwyd yn yr hen gartref nad ydynt yn addas i'w defnyddio yn y cartref newydd, neu y cânt eu darparu gan y cyflogwr, neu lle mae'r cyflogwr yn ad-dalu cost prynu eitemau o'r fath i'r cyflogai. Enghreifftiau fyddai carpedi a llenni o'r maint anghywir ar gyfer y cartref newydd, neu bopty trydan a brynwyd yn lle popty nwy lle nad oes cyflenwad nwy yn y cartref newydd.