Beth y mae hyn yn ei olygu i staff Prifysgol Bangor?
Os ydych eisoes yn aelod o gynllun pensiwn, ni fydd yn cael fawr ddim effaith arno.
Os nad ydych yn aelod o gynllun ar hyn o bryd, yna bydd cofrestru awtomatig yn effeithio arnoch.
Os ydych chi'n aelod o'r staff cefnogi, cewch eich cofrestru'n awtomatig i'r Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Genedlaethol (NEST) os byddwch yn cyflawni'r meini prawf. Gall holl aelodau staff cefnogi, rhwng 18 a 60 oed, ymuno â Chynllun Pensiwn ac Yswiriant Prifysgol Bangor pan gânt eu penodi i swydd. Mae aelodaeth ar ôl yr amser hwn yn ôl disgresiwn Ymddiriedolwyr y cynllun, ond os oes gennych ddiddordeb ymuno neu ail-ymuno â Chynllun Pensiwn ac Yswiriant Prifysgol Bangor, cysylltwch ag Ysgrifennydd yr Ymddiriedolwyr.
Mae gan y Brifysgol ddyletswydd statudol i gofrestru deiliaid swyddi cymwys ar gynllun pensiwn os nad ydynt eisoes yn aelodau o gynllun. Deiliaid swyddi cymwys yw unrhyw aelod o staff sydd:
• rhwng 22 ac oedran pensiwn y wladwriaeth, ac
• yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn (£833 y mis)
Caiff staff eu cofrestru'n awtomatig i'r Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Genedlaethol (NEST) .
Os ydych yn aelod o'r staff academaidd neu broffesiynol, cewch eich cofrestru'n awtomatig i Gynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) os byddwch yn cyflawni'r meini prawf (oni bai eich bod eisoes yn derbyn pensiwn gan yr USS - yn yr achos hwnnw cewch eich cofrestru'n awtomatig i'r Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Genedlaethol.
Mae gan y Brifysgol ddyletswydd statudol i gofrestru deiliaid swyddi cymwys ar gynllun pensiwn os nad ydynt eisoes yn aelodau o gynllun. Deiliaid swyddi cymwys yw unrhyw aelod o staff sydd:
• rhwng 22 ac oedran pensiwn y wladwriaeth, ac
• yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn (£833 y mis)
Caiff staff eu cofrestru’n awtomatig ar gyfer Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) .
(Sylwer: os ydych yn derbyn pensiwn drwy’r USS, ni allwch ail-ymuno â’r USS ond byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig i NEST).
Ceir gwybodaeth fanylach yn yr adran ‘Cwestiynau Cyffredin’ ar y wefan hon. Byddwch hefyd yn gweld cysylltiadau i wefannau'r cynllun pensiwn.
Lle gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Gall staff sydd eisiau gwybod mwy am Ddeddf Bensiynau 2008 neu gofrestru awtomatig yn fwy cyffredinol, mae digon o wybodaeth ar wefan yr Ddran Gwaith a Phensiynau, gwefan y Rheolydd Pensitniau and NEST.