Teithio y tu allan i’r Deyrnas Unedig
Os ydych yn teithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig dylech gadw'r holl dderbynebau a hawlio am dreuliau gwirioneddol. Mewn rhai gwledydd gellir talu cynhaliaeth per diem yn unol â'r cyfraddau a gyhoeddir gan yr FCO. Cysylltwch â'r Swyddfa Gyllid am gyngor cyn teithio, gan nad oes gan bob cyrchfan gyfraddau per diem.
Gall y Swyddfa Gyllid hefyd drefnu sieciau teithwyr ac arian tramor ar gyfer ymweliadau tramor. Cysylltwch â Jacquie Williams ar estyniad 2050, ond rhowch gymaint o rybudd â phosibl i ni.
Cerdyn Talu Corfforaethol
Bydd llawer o aelodau staff yn gymwys i gael Cerdyn Talu Corfforaethol Prifysgol Bangor. Gellwch ei ddefnyddio ar gyfer eich treuliau busnes yn y Deyrnas Unedig a thramor. Gall eich helpu i gadw golwg ar eich treuliau busnes ac mae'n golygu nad oes raid i chi ddefnyddio eich arian parod neu gredyd eich hun i ddibenion y brifysgol.
Mae tâl blynyddol o £5 am y cerdyn, ond gellwch yn awr godi hwn fel costau ar y brifysgol, cyhyd â bod gennych gyfrif priodol i dalu’r gost.
Hawliadau Treuliau
Dylid cofnodi'r rhain nawr trwy'r Gwasanaeth Gweithwyr yn iTrent os yw'n aelod o staff neu'n weithiwr achlysurol.
Mae ffurflenni ar gael o hyd i unrhyw un sy'n hawlio treuliau (y bydd angen eu hawdurdodi).. Dylid anfon Ffurflenni Cais am Dreuliau, ar ol eu cwblhau, i gyfrifon talady.
Rhagdaliad at Dreuliau Teithio
Os ydych yn gymwys i gael cerdyn talu corfforaethol a'ch bod yn teithio i wlad lle mae cardiau credyd yn cael eu derbyn, ni roddir rhagdaliad ar gyfer costau teithio.
Mewn achosion eraill, caiff ceisiadau am ragdaliadau eu hystyried fesul achos. Nid oes hawl awtomatig. Cyfeiriwch unrhyw geisiadau am ragdaliadau at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Ariannol a gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i brosesu'r cais.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: payments@bangor.ac.uk