Gellwch dalu ffioedd dysgu’n llawn cyn neu yn ystod y drefn Gofrestru (Ewch i Registration am fanylion ynglŷn â’r drefn gofrestru ar gyfer eich cwrs.) Nid oes rhaid i fyfyrwyr a noddir gan lywodraeth, myfyrwyr benthyg o Ganada ac UDA, na graddedigion Prifysgol Bangor, dalu blaendal.
Opsiynau Talu:
Talu’n llawn wrth gofrestru
Gellir talu’n llawn cyn cofrestru neu wrth gofrestru.
Talu drwy randaliadau
Gall myfyrwyr dalu drwy dri randaliad. Dylech dalu’r rhandaliad cyntaf 0 50% ar y diwrnod olaf y caniateir cofrestru, neu cyn hynny, ac mae’r ail randaliad o 25% yn ddyledus cyn 31/01/2025 a’r rhandaliad olaf o 25% yn daladwy ar 30/04/2025 neu cyn hynny.
Talu Ffioedd Cwrs Iaith Saesneg
Rhaid talu blaendal o £2,000 cyn y gellir rhoi llythyr Cadarnhau Derbyn i Astudio (CDA). Rhaid talu gweddill y ffi yn llawn wrth gofrestru ar raglen ELCOS. Mae talu drwy dri randaliad ar gael ar gyfer cyrsiau 30 a 42 wythnos yn unig.
Taliadau hwyr
Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i godi llog misol o 1% ar unrhyw daliad hwyr ar ôl y dyddiad cofrestru olaf. Gellir codi llog ar daliadau hwyr yn achos rhandaliadau hefyd.
Ffioedd Llety Prifysgol
Gellir talu ffioedd llety’n llawn hefyd (gweler: https://www.bangor.ac.uk/international/future/payment) neu drwy randaliadau gan ddefnyddio cerdyn credyd/debyd cyson drwy’r broses gofrestru ar-lein.
Ôl – raddedig: 12 rhandaliad – Misol Hydref 2024 - Medi 2025 - 11eg o mis
Ôl - raddedig: 3 rhandaliad - Hydref, Ionawr ac Ebrill - 10/10/24, 09/01/25 ac 24/04/25
Ôl - raddedig: 7 rhandaliad - Hydref 2024 - Ebrill 2025 - diwrnod olaf y mis
Israddedig: 3 rhandaliad - Hydref, Ionawr ac Ebrill - 10/10/24, 16/01/25 ac 08/05/25
Israddedig: 7 rhandaliad - Hydref 2024 - Ebrill 2025 - diwrnod olaf y mis
Sut i dalu:
- Talu i Astudio
Mae system rheoli talu ar-lein (Talu i Astudio) ar gael ym Mhrifysgol Bangor i hwyluso’r broses o dalu gwahanol ffioedd, yn cynnwys blaendaliadau, ffioedd dysgu, ffioedd cyrsiau iaith Saesneg a ffioedd llety yn eich arian lleol ac yn eich banc lleol. Gall ein darparwyr neu ein hasiantau swyddogol hefyd dalu dros grwpiau.
Cewch ragor o wybodaeth yn:
https://www.bangor.ac.uk/international/future/payment
- Trosglwyddiad Banc
Gall myfyrwyr hefyd dalu ffioedd drwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio’r manylion isod:
Enw’r Cyfrif: Prifysgol Bangor Enw’r Banc: Santander UK Plc Cod didoli’r cyfrif: 09-02-22 Rhif y cyfrif: 10364019 Rhif IBAN PB: GB46ABBY09022210364019 Rhif SWIFT PB: ABBYGB2L |
Rhowch eich enw llawn a’ch rhif myfyriwr wrth wneud y trosglwyddiad ac anfonwch e-bost at remittance@bangor.ac.uk (i roi gwybod am y swm a drosglwyddwyd, y dyddiad a rhif y myfyriwr).
Sylwer y gall methu â thalu eich ffioedd arwain at derfynu eich cofrestriad.
Dylech gysylltu â’r Swyddfa Gyllid cyn gynted â phosibl os ydych yn rhagweld unrhyw drafferth i dalu eich ffioedd. Bydd y Brifysgol yn codi tâl cosb am bob taliad hwyr. Fodd bynnag, rydym yn awyddus iawn i sicrhau na fyddwch yn cael costau o'r fath ac i'ch helpu mae gan y Brifysgol gynghorwr arbenigol yn yr Uned Cefnogaeth Ariannol cymorthariannol@bangor.ac.uk (01248 383637).
Am wybodaeth bellach cysylltwch gyda’r Swyddfa Gyllid trwy anfon e-bost at taliadauffioedd@bangor.ac.uk neu drwy ffonio 01248 382055 rhwng 10.00-12.30 a 1.30-4.00 dydd Llun i ddydd Gwener.