Ein Cyrsiau
Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau cyffrous ar draws y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau. Gyda chymaint i'w gynnig rydym yn hyderus y byddwch yn dod o hyd i'ch cwrs perffaith.
Pam dewis Bangor?
Ym Mangor, byddwch yn cael eich addysgu gan arweinwyr yn eu maes sy’n frwd dros eu pynciau, ac sydd wedi ymrwymo’n llwyr i’ch dysg.
Mae ein cyfleusterau yn cynnwys darlithfeydd modern, labordai, ardaloedd dysgu cymdeithasol, ein llong ymchwil ein hunain, fferm a gardd fotanegol.
Gallwch ddewis astudio neu weithio dramor am flwyddyn neu gallwch wneud profiad gwaith am hyd at flwyddyn.
Mae rhan o'ch profiad myfyriwr yn ymwneud â dod o hyd i'ch pobl, gwneud ffrindiau oes, a dod yn rhan o gymuned fywiog, fyd-eang.
Darganfyddwch gymunedau amrywiol trwy eich:
- Taith ddysgu
- Neuaddau preswyl
- Clybiau chwaraeon
- Cymdeithasau myfyrwyr
- Prosiectau gwirfoddoli
- Rhwydweithiau myfyrwyr
Nid oes angen i chi fod yn berson 'awyr agored' i syrthio mewn cariad â Phrifysgol Bangor.
Dychmygwch gampws lle mae mynyddoedd, môr, a bywyd dinas yn dod at ei gilydd. Fe allech chi fwynhau’r golygfeydd syfrdanol yn ystod eich taith i ddarlithoedd neu wrth ymlacio ar y pier, fe allech chi dreulio’ch penwythnosau yn y mynyddoedd, neu fe allech chi wneud eich hun yn gartrefol yn ein sinema a’n theatr ar y campws.
Byw ac astudio mewn lle sy'n siarad â phob ochr i chi.
P'un a ydych ar gyllideb dynn neu'n barod am fywyd moethus, mae Prifysgol Bangor yn sicrhau bod gennych y rhyddid i ddewis.
Mae gan Brifysgol Bangor lawer o fentrau i sicrhau bod eich arian yn mynd ymhellach, gan gynnwys:
- Cyfleoedd gwaith rhan-amser ar draws y campws
- Prisiau'r olchfa wedi'u rhewi
- Darparu cynnyrch mislif am ddim ar draws campysau’r brifysgol i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor sy’n cael mislif.
Yn ogystal, gallwch ddewis opsiynau sy'n gyfeillgar i'r gyllideb gan gynnwys:
- Prydau fforddiadwy yn y Brifysgol
- Neuaddau fforddiadwy
- Tirwedd naturiol syfrdanol ar garreg eich drws
Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr.
Rydym yn gwarantu ystafell yn ein neuaddau ar gyfer holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n dewis Bangor fel eu Dewis Cadarn.
Mae gennym ddau safle llety; Pentrefi Ffriddoedd a Santes Fair, ac mae’r ddau o fewn pellter cerdded i holl brif adeiladau a chyfleusterau’r brifysgol. Mae Neuadd John Morris-Jones (JMJ) ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr sydd eisiau byw mewn awyrgylch Gymreig.
Yn gynwysedig gyda’ch rhent mae:
- Wi-Fi a mynediad i'r rhyngrwyd â gwifrau
- Pob bil (rhyngrwyd, dŵr, gwres, trydan)
- Aelodaeth Campfa a Bywyd Campws
Testun: DARGANFYDDWCH
Disgrifiad Gweledol: Awyrlun trawiadol dros Ddrws y Coed ar ddiwrnod heulog, a’r mynyddoedd yn y cefndir.Testun: EICH
Disgrifiad Gweledol: Awyrlun dramatig dros Lyn Padarn, Llanberis, ar ddiwrnod heulog ac aelodau o gymdeithas Padlfyrddio Prifysgol Bangor yn padlfyrddio ar y llyn. Yn y cefndir, mae mynyddoedd Eryri i’w gweld.
Testun: LLE
Disgrifiad Gweledol: Pedwar o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn sgwrsio ac yn cerdded heibio i'r murlun lliwgar y tu allan i Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio.
Disgrifiad Gweledol: Awyrlun o Borthaethwy ar ddiwrnod braf a golygfeydd o Borthaethwy ar y chwith a dinas Bangor ar y dde.
Testun: MEWN LLEOLIAD HYFRYD
Disgrifiad Gweledol: Awyrlun o Draeth Porth Neigwl ar ddiwrnod heulog ar arfordir deheuol Pen Llŷn.
Disgrifiad Gweledol: Awyrlun yn hedfan dros Brif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor ar ddiwrnod heulog a baner y Brifysgol yn chwifio.
Disgrifiad Gweledol: Chwe unigolyn yn cerdded trwy goedwig
Disgrifiad Gweledol: Chwech o unigolion yn cerdded trwy Goedwig Niwbwrch, Ynys Môn, ar fachlud haul, ac yn cyrraedd y traeth.
Disgrifiad Gweledol: Dringwr yn estyn ei law i helpu dringwr arall i fyny mynydd.
Disgrifiad Gweledol: Syrffiwr yn nesáu at don yn y môr o safbwynt y syrffiwr.
Disgrifiad Gweledol: Syrffiwr yn marchogaeth ton ac awyr binc yn y cefndir.
Disgrifiad Gweledol: Llun clos o ficrosgop yn cael ei addasu gan rywun mewn labordy sy'n gwisgo menig glas.
Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr o Brifysgol Bangor mewn labordy yn gwisgo sbectol amddiffynnol a chôt wen y labordy yn arllwys nitrogen hylifol i gynhwysydd mawr.
Testun: LLE MAE ACADEMYDDION ARBENIGOL
Disgrifiad Gweledol: Ffilm fideo treigl amser o unigolyn yn dadansoddi canfyddiadau mewn labordy a chydweithwyr yn gweithio yn y cefndir.
Testun: A’R DARGANFYDDIADAU DIWEDDARAF
Disgrifiad Gweledol: Darlithydd yn gwenu ac yn camu tuag at flaen neuadd ddarlithio a nifer o fyfyrwyr yn gwrando.
Disgrifiad Gweledol: Athro o Brifysgol Bangor yn dadansoddi morfeydd heli ar draeth Abergwyngregyn a dau fyfyriwr yn gwenu. Mae Ynys Seiriol i'w gweld yn y cefndir.
Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn dadansoddi hylif mewn tiwb profi mewn labordy gan wisgo cot labordy a menig amddiffynnol glas. Mae llawer o fyfyrwyr eraill yn gweithio yng nghefndir y llun.
Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn pwyntio at algâu lliw gwyrdd y tu mewn i gynhwysydd plastig mewn labordy.
Testun: YN YSBRYDOLI YMCHWIL SYDD GYDA’R GORAU YN Y BYD
Disgrifiad Gweledol: Dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn sgwrsio ac yn cerdded tuag at adeilad M-Sparc yn y Gaerwen ar ddiwrnod cymylog.
Disgrifiad Gweledol: Pedwar o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn eistedd ar fainc yn ardal y Teras y tu allan i Brif Adeilad y Celfyddydau. Maen nhw i gyd yn gwenu ac yn esgus i’r camera.
Testun: AC YN GRYMUSO’R
Disgrifiad Gweledol: Dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn cofleidio ac yn gwenu wrth wynebu'r camera ar yr ardal laswelltog y tu allan i Pontio. Mae'r awyr yn las, ac mae un myfyriwr wedi rhoi llygad y dydd yn ei gwallt.
Disgrifiad Gweledol: Dau unigolyn hapus yn curo cledrau dwylo eu gilydd mewn swyddfa. Mae trydydd person hefyd yn y cefndir yn llawn cyffro.
Testun: GENHEDLAETH NESAF
Disgrifiad Gweledol: Tri o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn eistedd yng Ngardd Fotaneg Treborth y Brifysgol, yn gwenu ac yn sgwrsio a'r haul yn tywynnu arnynt.
Testun: CROESO I
Disgrifiad Gweledol: Tri myfyriwr o Brifysgol Bangor yn eistedd yn Nghaffi Blue Sky a saif ar Stryd Fawr Bangor. Maen nhw'n clincian eu sbectol gyda'i gilydd wrth wenu.
Testun: BRIFYSGOL BANGOR
Disgrifiad Gweledol: Awyrlun o Brifysgol Bangor a Phrif Adeilad y Celfyddydau yng nghanol y llun. Mae'r drôn yn codi ac yn dangos mwy o dirwedd y ddinas wrth fynd rhagddo.
Disgrifiad Gweledol: Mae weip diwedd eitem Prifysgol Bangor yn ymddangos.
Darganfyddwch eich lle ym Mhrifysgol Bangor
Sut i Wneud Cais
I wneud cais mae angen ymweld â gwefan UCAS. Defnyddiwch côd B06 i wneud cais am Brifysgol Bangor.
Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gallwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion ar unwaith.
Ar gyfer mynediad 2025, dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 29 Ionawr 2025, fodd bynnag rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 29 Ionawr a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon ymlaen at brifysgolion gan UCAS a byddant yn cael eu hystyried pan fydd lleoedd ar gael o hyd.
Mae myfyrwyr sydd yn rhoi cais i mewn ar gyfer Rydychen, Caergrawnt a'r rhan fwyaf o gyrsiau mewn meddygaeth, deintyddiaeth, a meddygaeth filfeddygol/gwyddoniaeth yn rhoi cais i mewn yn gynt, fel arfer yn ganol mis Hydref.
Fel rhan o’ch proffil ar UCAS, bydd angen i chi ysgrifennu eich datganiad personol. Mae hyn yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio.
Dyma eich cyfle i berswadio’r brifysgol y dylent eich derbyn chi ar y cwrs. Cewch ond 4,000 llythyren i egluro pam rydych wedi dewis y cwrs a’r sgiliau neu brofiad sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio ar lefel prifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol gwerth chweil, dylech fod efo dealltwriaeth o’r cwrs a’r pwnc byddwch yn ei astudio. Cofiwch eich bod yn ysgrifennu un datganiad personol ar gyfer eich 5 dewis felly mae angen gwneud yn saff bod eich cyrsiau yn rhai tebyg a sicrhau nad ydych yn cyfeirio at unrhyw un o’r cyrsiau na unrhyw brifysgol yn benodol yn y datganiad personol.
I wneud cais am le mewn prifysgol mae'n rhaid i chi wneud cais trwy UCAS a fydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r prifysgolion a restrwyd.
Gallwch wneud cais am hyd at bum cwrs ond cofiwch y bydd yr un ffurflen gais a'r un datganiad personol yn mynd i'r 5 dewis.
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Côd UCAS Prifysgol Bangor yw B06.
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ehangu mynediad i addysg uwch ac mae’n derbyn myfyrwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Er mwyn cefnogi myfyrwyr i fynd i addysg uwch, rydym yn defnyddio nifer o ddangosyddion i nodi myfyrwyr a allai fod dan anfantais o ran cael mynediad i addysg uwch, er mwyn darparu cefnogaeth ychwanegol iddynt.