Jeremy Miles yn annerch darpar athrawon ym Mhrifysgol Bangor
Bu Jeremy Miles AS, y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg yn ymweld â Phrifysgol Bangor heddiw, gan annerch cynulleidfa o fyfyrwyr a staff ar fanteision hyfforddi fel athro ac amlinellu rhai o flaenoriaethau Addysg Llywodraeth Cymru.
Siaradodd y Gweinidog â myfyrwyr Prifysgol Bangor sy'n hyfforddi fel athrawon ysgol cymwysedig a myfyrwyr chweched dosbarth o ysgolion lleol. Y negeseuon allweddol i’n darpar athrawon oedd pwysigrwydd addysgu fel proffesiwn i helpu i gau’r bwlch cyrhaeddiad addysgol a chefnogi’r Gymraeg.
Jeremy Miles yn annerch neuadd lawn ym Mhrifysgol Bangor.
Credit:Iolo Penri
Dywedodd yr Athro Carl Hughes, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Bangor, “Pleser o’r mwyaf yw croesawu’r gweinidog i Brifysgol Bangor i siarad â’n darpar athrawon. Gwyddom oll pa mor bwysig yw’r proffesiwn addysg o ran helpu cenedlaethau’r dyfodol i gyflawni eu potensial. Rydym yn falch iawn o’n myfyrwyr wrth iddynt gwblhau eu haddysg eu hunain a mynd allan i helpu i addysgu plant mewn ysgolion. Ni allaf feddwl am yrfa gwell”.
Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i siarad â darpar athrawon ym Mhrifysgol Bangor, ac ateb eu cwestiynau. Mae addysgu yn broffesiwn gwych sy’n cynnig cyfle i bobl effeithio ar fywydau cannoedd ar filoedd o bobl ifanc.
Jeremy Miles AS
Credit:Iolo Penri
O'r chwith: Hazel Wordsworth, Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol i Athrawon, Dawn Williams myfyriwr TAR, Is-ganghellor Prifysgol Bangor Yr Athro Edmund Burke, Jeremy Miles AS, Dafydd Montgomery myfyriwr TAR a Carl Hughes, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Addysgol.