Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elît Bangor
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr talentog ym maes chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio am radd mewn unrhyw bwnc.
Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon. Eu pwrpas yw helpu myfyrwyr dawnus o safon uchel i gyfuno eu hastudiaethau academaidd â’u perfformiad chwaraeon i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial.
Meddai Iona Williams, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Prifysgol Bangor: "Rydym yn falch iawn o gefnogi nifer o athletwyr hynod dalentog ym Mhrifysgol Bangor. Er bod Canolfan Brailsford wedi cael ei defnyddio gan y GIG fel Ysbyty Enfys, rydym wedi gallu darparu cyfleusterau campfa dros dro ar Safle Ffriddoedd a bydd ein cyfleusterau awyr agored yn cydymffurfio â chanllawiau'r llywodraeth pan ganiateir hynny.
"Er gwaethaf cyfyngiadau COVID-19, mae ein myfyrwyr gwydn wedi addasu eu hyfforddiant, ac wedi troi eu gerddi a'u hystafelloedd gwely yn fannau ymarfer corff ac yn gwneud eu gorau i gynnal eu hyfforddiant er mwyn paratoi at ailddechrau cystadlu."
Eleni cafodd 16 o fyfyrwyr ysgoloriaethau gwerth cyfanswm o £20,000 ar gyfer amrywiaeth eang o chwaraeon:
- James Andrew, Llanfair PG - Rygbi
- Michael Farmer, Caerffili - Codi Pwysau
- Rebecca Ganley, Abergele - Pêl Fasged Cadair Olwyn
- Rhys Hamilton, Lerpwl- Rygbi
- Beca Hughes, Yr Wyddgrug- Pêl Rwyd
- Catrin Hughes, Yr Wyddgrug- Pêl Rwyd
- Harri Hughes, Rhuthun- Rygbi
- Catrin Jones, Bangor – Codi Pwysau Olympaidd
- Brea Leung, Caernarfon – Rygbi’r Undeb
- Chris Mann, Rhuthin– Seiclo
- Sam Rogers, Wrecsam - Rygbi
- Joe Steward, Manceinion, Rhedeg Mynydd/Traws Gwlad
- Flo Tilley, Nottingham - Dringo
- Elliot Verry, Wirral - Dringo
- Aaron Williams, Llandudno - Rygbi
- Rhydian Williams, Llanrug - Rygbi
Dywedodd Catrin Hughes, aelod o dîm Pêl-rwyd Dan-21 Cymru: "Bydd yr Ysgoloriaeth Chwaraeon yn helpu tuag at gostau hyfforddi a theithio fel aelod o garfan Dan 21 Cymru wrth i ni baratoi at gael ein dewis i'r garfan deithio i Gwpan Ieuenctid Pêl-rwyd y Byd yn Fiji 2021. Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael y cyllid."
Dywedodd Rhys Hamilton, sy'n chwarae rygbi i Uwch Academi RGC: "Gall cit, teithio a bwyta’n iach fod yn ddrud iawn, felly bydd yr Ysgoloriaeth Chwaraeon yn tynnu'r straen o dalu am fy rygbi a'm galluogi i astudio yn y brifysgol."
Dywedodd y Codwr Pwysau Olympaidd, Catrin Jones, Pencampwraig Hŷn Cymru yn 2017, 2018, 2019 a Phencampwraig Iau'r Gymanwlad yn 2019: "Mae'r Ysgoloriaeth Chwaraeon yn golygu bod cyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf, hyfforddiant profion dadansoddi braster y corff a dadansoddi symudiadau gan yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ar gael i mi. Rwy’n gwneud y rhan fwyaf o'm hyfforddiant yn yr ardal codi pwysau yng Nghanolfan Brailsford, lle mae'r amgylchedd yn gefnogol ac yn rymusol. Yn ogystal, mae'r ysgoloriaeth wedi rhoi cymorth ariannol i mi tuag at fy hyfforddiant a'm hastudiaethau academaidd sy'n help mawr ac sy'n fy ngalluogi i wneud fy ngorau yn y ddau faes."
Mae'r rhaglen ysgoloriaethau’n rhan o ymrwymiad ehangach i hybu proffil ac enw da'r brifysgol trwy chwaraeon.