Ymchwil yn canfod ein bod yn 'drych-ddelweddu' cyffwrdd yn ystod cysylltiadau rhywiol ac yn trin corff ein partner fel ein corff ein hunain
Mae astudiaeth newydd ar swyddogaeth cyffwrdd a syllu wrth gael pleser rhywiol, a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor a Royal Holloway, Prifysgol Llundain, wedi dangos ein bod yn ysgogi drych-symudiad yn ystod cysylltiadau rhywiol trwy gyffwrdd â'n partneriaid yn y mannau lle rydym ni eisiau cael ein cyffwrdd.
Gelwir yr effaith hon yn 'Ddrych Erogenaidd', ac mae'n dangos ein bod yn hoffi cyffwrdd â rhannau o gyrff ein partneriaid sy'n adlewyrchu lle rydym yn hoffi cael ein cyffwrdd ar ein cyrff ein hunain.
Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Archives of Sexual Behaviour, yn dangos sut rydym yn trin corff y person arall fel ein corff ein hunain yn ystod cysylltiadau rhywiol, ac mae'r ffiniau rhwng yr hunan a'r partner yn aneglur.
Mae'r pleser a geir wrth gyffwrdd ac edrych yn ystod cysylltiadau rhywiol wedi cael ei anwybyddu i raddau helaeth mewn astudiaethau academaidd yn y gorffennol. Mae'r astudiaeth hon yn awr wedi cwestiynu sut y mae pobl yn hoffi edrych a chyffwrdd yn ystod perthynas rywiol.
Gwnaeth sampl fawr o unigolion, a oedd yn cynrychioli amrywiaeth eang o ran oed, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol, lenwi holiadur a oedd yn gofyn iddynt nodi lefelau cynnwrf gwahanol rannau o'r corff mewn nifer o wahanol sefyllfaoedd; pan roeddent yn cyffwrdd ac yn cael eu cyffwrdd gan bartner; a phan roeddent yn edrych ar eu partner, neu'r partner yn edrych arnynt hwy.
Dywedodd Dr Lara Maister, o'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, prif awdur yr astudiaeth: “Gwelsom fod pobl yn dangos drych-ddelweddu clir o ran y gwahanol rannau o'r corff yr oedd yn well ganddynt. Roeddent yn mwynhau cyffwrdd â rhannau o gyrff eu partner a oedd yn cyfateb i'r rhannau yr oeddent hwy'n benodol yn hoffi iddynt gael eu cyffwrdd ar eu cyrff eu hunain.
"Roedd hyn yn wir hyd yn oed mewn perthynas â mannau 'gwahanol', fel clustiau. Os ydych yn mwynhau cael rhywun yn cyffwrdd â'ch clustiau, rydych yn fwy tebygol o fwynhau cyffwrdd â chlustiau eich partner hefyd."
Gwelodd yr ymchwilwyr bod cysylltiad cryf rhwng sgoriau cyffwrdd a syllu. Mae'r rhannau o'r corff y mae pobl yn hoffi iddynt gael eu cyffwrdd yn cyd-fynd yn agos â'r rhai y maent yn hoffi bod rhywun yn edrych arnynt.
Ychwanegodd yr Athro Manos Tsakiris, o'r Adran Seicoleg yn Royal Holloway: “Mae edrych neu syllu yn rhan fawr o gysylltiad rhywiol, a phan fydd partner yn edrych ar ran benodol o'n corff, efallai ein bod yn rhagweld ac yn dychmygu cael ein cyffwrdd yn y fan honno.
"Mae’n awgrymu bod syllu a rhagweld cyffwrdd yn chwarae rhan bwysig mewn cysylltiadau rhywiol.”
Roedd rhai gwahaniaethau trawiadol hefyd rhwng dynion a merched. Dangosodd y canlyniadau bod rhannau rhywiol amlwg, fel organau cenhedlu a thethau, yn cynhyrfu dynion yn fwy ar gyrff eu partneriaid nag ar eu cyrff eu hunain; mewn geiriau eraill, mae'n well ganddynt gyffwrdd ac edrych ar gorff eu partner na chael eu cyffwrdd a chael rhywun yn edrych arnynt eu hunain.
I'r gwrthwyneb, dywedodd merched eu bod fel rheol yn cael eu cynhyrfu'n fwy wrth i'w cyrff eu hunain gael eu cyffwrdd yn hytrach na chyffwrdd â chorff eu partner.
Canfu'r ymchwil hefyd wahaniaethau rhwng dynion a merched yn y 'mynegai cyd-bleser'; sgôr sy'n mesur a yw'r cynnwrf a gawn wrth gyffwrdd â rhan o gorff ein partner yn uwch, yn is neu'n debyg i'r cynnwrf a deimlir gan y partner pan fyddwn yn eu cyffwrdd yn yr un man. Gall ddweud wrthym sut, ar lefel grŵp, y mae ein hoffter o gyffwrdd â rhannau o gorff ein partner yn cyd-fynd â lle maent yn hoffi i ni eu cyffwrdd.
Mewn is-set o'r sampl, a oedd yn heterorywiol (82% o'r ymatebwyr), roedd gan y dynion sgôr cyd-bleser uwch na'r merched ar gyfartaledd; roeddent yn dangos fwy o gysylltiad rhwng lle roeddent yn hoffi cyffwrdd â merched a lle'r oedd merched yn hoffi cael eu cyffwrdd. Roedd merched, ar gyfartaledd, yn dangos llai o gysylltiad rhwng lle roeddent yn hoffi cyffwrdd â dynion a lle'r oedd dynion yn hoffi cael eu cyffwrdd.
Hynny yw, roedd dynion yn tueddu i fwynhau cyffwrdd â chyrff merched mewn mannau lle'r oedd merched hefyd yn mwynhau cael eu cyffwrdd. Ond, nid oedd y rhannau o gorff dyn yr oedd merched yn hoffi eu cyffwrdd o reidrwydd yn cyd-fynd â'r hyn yr oedd y dynion eu hunain yn ei hoffi.
I'r ymatebwyr heterorywiol, er bod dynion yn gyffredinol yn dangos mwy o gydweddu â merched nag i'r gwrthwyneb, roedd y gwahaniaethau diddorol hyn rhwng y rhywiau yn y 'mynegai cyd-bleser' yn wahanol o ran gwahanol rannau o'r corff.
Er enghraifft, roedd dynion yn cael mwy o fwynhad wrth gyffwrdd â bronnau a phen-ôl merched, a llai o fwynhad wrth gyffwrdd â mannau nwydus fel y gwar a'r ysgwyddau, nag y mae merched yn gyffredinol yn ei deimlo wrth gael eu cyffwrdd yn y mannau hynny.
Pan roedd merched yn cyffwrdd â dynion, roedd patrwm gwahanol yn dod i'r amlwg. Pan roedd merched yn cyffwrdd â mynwes dynion a rhan uchaf eu breichiau, roeddent yn dweud eu bod yn cael eu cynhyrfu'n fwy na'r dynion; i'r gwrthwyneb, roeddent yn dweud eu bod yn cael eu cynhyrfu'n llai na'r dynion pan roeddent yn cyffwrdd â'u traed a'u coesau.
Gwelwyd gwahaniaethau rhwng dynion a merched yn is-set heterorywiol y sampl hefyd o ran edrych ar bartner, yn ogystal â'u cyffwrdd.
Pan roedd dynion yn edrych i lygaid merch, roedd y syllu hwn yn cynyddu lefelau cynnwrf llawer cryfach mewn merched nag mewn dynion. I'r gwrthwyneb, roedd dynion yn cael eu cynhyrfu'n fawr pan oedd merch yn syllu ar ei organau cenhedlu, ond i'r gwrthwyneb, nid oedd merched yn cael eu cynhyrfu gymaint wrth edrych ar yr organau hynny.
Eglurodd Lara: “Mae'r canlyniadau hyn yn ein dysgu am gydgysylltiadau rhywiol; sut mae partneriaid yn creu cysylltiad rhwng y rhannau o gorff eu partner y maent yn mwynhau eu cyffwrdd ac edrych arnynt, â'r rhannau y mae eu partner yn hoffi iddynt ganolbwyntio arnynt.
“Gyda phobl heterorywiol, roedd yn ddiddorol gweld bod yr hyn yr oedd dynion yn ei hoffi, ar gyfartaledd, yn nes at yr hyn yr oedd merched yn ei hoffi nag i’r gwrthwyneb, ond efallai gellir egluro hyn o safbwynt esblygiadol.”
Yn gyffredinol, mae'r astudiaeth hon yn dangos ein bod yn trin cryf ein partneriaid fel drychau o'n chwantau ein hunain wrth anwesu a syllu yn ystod cysylltiadau rhywiol. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng dynion a merched wrth ystyried y cynnwrf a deimlir wrth gyffwrdd ac edrych ar wahanol rannau o'r corff.
Trwy gyfrifo mynegai cyd-bleser, mae'r astudiaeth hefyd yn dangos bod gweld a yw partneriaid yn gweddu'n dda i'w gilydd neu beidio o ran cael eu cynhyrfu pan fydd un yn cyffwrdd â'r llall yn dibynnu ar sawl peth, yn cynnwys rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, a pha rannau o'r corff y maent yn canolbwyntio arnynt