Swydd bresennol
Parafeddyg banc - Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn bennaf
Cydymaith Meddygol - Meddygaeth Teulu
Darlithydd mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2003.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Swydd ddiogel a sicr a helpu'r gymuned leol a gweithio a byw ynddi.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud
Fel parafeddyg, rwy’n mynychu argyfyngau sy'n peryglu bywyd i ddechrau triniaethau a sefydlogi cleifion yn y fan a'r lle a’u cludo i'r ysbyty am fewnbwn pellach. Rwy’n gweithio fel Cydymaith Meddygol mewn Meddygaeth Teulu’n brysbennu’r rhestr glinigol yn y bore ac yn adolygu cleifion o’r rhestr brysbennu ac sydd â chyflyrau cronig yn y prynhawn, fel na fydd yn rhaid mynd i’r ysbyty’n ddiangen a gwella’r canlyniadau i’r cleifion o’r herwydd a lleihau’r pwysau ar adnoddau tenau lle bo modd.
Fel darlithydd ceisiaf ysbrydoli ymgeiswyr newydd sy’n astudio tuag at y cymhwyster a gallu ymarfer o dan y model meddygol a chyflawni cofrestriad gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac egluro cyflyrau clinigol a pharatoi ymgeiswyr at weithle’r Gwasanaeth Iechyd at y dyfodol.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Y cyswllt â’r claf.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Gall gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd fod yn werth chweil, ond gall hefyd fod yn straen ar brydiau ac mae’n bwysig cydweithio ar bob adeg i helpu cleifion ac amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd yn y dyfodol.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?
Gwych.