Teitl eich swydd bresennol
Gwyddonydd Biofeddygol (Microbioleg).
Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
Ionawr 2018.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Gwyddwn fy mod i eisiau gweithio ym maes Microbioleg Feddygol wrth imi wneud fy ngradd am ei fod yn faes diddorol. Mae'r ffaith bod yna organebau sy’n anweledig i'r llygaid sy'n gallu achosi afiechydon difrifol yn anhygoel. Roeddwn i eisiau gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd a bod yn rhan o ofal iechyd a gwneud gwahaniaeth gan mai canlyniadau patholeg yw sail dros 70% o ddiagnosau ysbytai.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Mae llawer o adrannau samplau gwahanol mewn labordy microbioleg patholeg ac rwy'n dal i ddysgu amdanynt fel rhan o'r portffolio rwy'n ei gwblhau i gyflawni Diploma Arbenigol IBMS mewn Microbioleg Feddygol. Rydym yn derbyn samplau cleifion o bob rhan o'r corff gan gynnwys y gwaed, ysgarthion, wrin, sbwtwm, swabiau amrywiol (bacteriol a firaol), meinweoedd, hylifau di-haint a mwy. Mae fy rôl yn cynnwys amrywiaeth o dasgau’r labordy gan gynnwys perfformio a dehongli technegau moleciwlaidd (e.e. PCR), meithrin a dehongli platiau agar ac adrodd ynghylch sensitifrwydd i wrthfiotigau, microsgopeg â llaw i gyfrif celloedd (e.e. celloedd gwyn y gwaed mewn hylif cerebrosbinol i helpu gwneud diagnosis o lid yr ymennydd), a gwirio a pherfformio staeniau (fel staen Gram) i wirio am organebau. Mae hyn i gyd yn bosibl gyda chymorth Gweithwyr Cefnogi Biofeddygol ac Ymarferwyr Cyswllt sy'n helpu gosod y rhan fwyaf o’r profion a gwneud y gwaith cynnal a chadw cyffredinol ar y labordai.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Rwy'n mwynhau edrych i lawr y microsgop a gweld byd arall a gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth i ofal y cleifion. Ym maes microbioleg rwyf wrth fy modd â'r amrywiaeth o samplau a sut mae'r dehongliad yn newid rhwng bob mainc oherwydd gall presenoldeb un organeb fod yn arwyddocaol yn y naill ran o'r corff ond nid y llall. Mae hynny oherwydd ein bod yn cario bacteria yn ein cyrff fel rhan o'n "fflora arferol" ac mewn unigolion iach ni ddylai’r rheini achosi problemau o gwbl ac yn wir gallant fod yn fuddiol. Mae un ymadrodd yn aros yn fy nghof gan fy narlithydd microbioleg (Merf) yn y brifysgol: "Os nad ydych chi'n gwybod am eich fflora arferol, dach chi'n gwybod dim!".
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn lle gwych i weithio. Mae’n caniatáu i chi helpu cleifion (ac nid ar wardiau yn unig) a dysgu am eich diddordebau trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Pan ddechreuais roeddwn yn Weithiwr Cefnogi Biofeddygol, ond gallwn weithio fy ffordd i fyny trwy gwblhau Portffolio Cofrestru IBMS i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) cyn sicrhau fy rôl bresennol. Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw heb gefnogaeth fy nghydweithwyr a’r rheolwyr, a’r cyfleoedd lu maen nhw wedi fy helpu i gymryd rhan ynddynt fel mynychu darlithoedd a rhaglenni hyfforddiant y tu allan i’r gwaith.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?
Cydweithredol.