Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2008.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Gwneud gwahaniaeth i gleifion sydd angen defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Rwy'n prosesu samplau o feinwe o safleoedd ysbytai, meddygfeydd a chlinigau yn y Gogledd i roi diagnosis i gleifion. Rwy'n sicrhau canlyniadau o safon dda mewn modd amserol fel y gall clinigwyr gynllunio opsiynau triniaethau i’r cleifion.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Gweithio gyda thîm gwych o weithwyr proffesiynol medrus a gofalgar iawn mewn rôl sy’n werth chweil.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Mae'n gyfle gwych ac mi allwch chi helpu cleifion ac mae hynny'n rhoi boddhad mawr i rywun. Mae yna fanteision ychwanegol fel cyflog da, gwyliau a chefnogaeth.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?