Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2002.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Mae gan y Gwasanaeth Iechyd enw da’n fyd-eang ac yr wyf yn falch o fod yn rhan ohono. Mae sicrwydd swydd, buddion trosglwyddadwy o wahanol ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd a phensiwn da at y dyfodol.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Rwy’n ddirprwy chwaer sy’n gweithio ar uned lawdriniaeth fasgwlaidd ranbarthol brysur. Mae gen i ofal dros y ward yn rheolaidd ac rwy'n darparu gofal nyrsio gan gynnwys rhoi meddyginiaethau a newid gorchuddion.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd ac yn gallu datblygu perthynas â chleifion a gwneud eu hamser yn yr ysbyty ychydig yn haws.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Byddwn yn argymell gyrfa yn y Gwasanaeth Iechyd yn fawr - mae amrywiaeth fawr o yrfaoedd ar gael a chyfleoedd rhagorol i ddilyn gyrfaoedd. Dechreuais fel nyrs cadét yn y GIG cyn mynd i'r brifysgol ac rwyf bellach gyda'r gwasanaeth ers bron 20 mlynedd.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?