Swydd bresennol
Gwyddonydd Clinigol dan Hyfforddiant mewn Awdioleg.
Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2021.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Oherwydd fy mod i eisiau swydd a fyddai’n effeithio ar fywyd beunyddiol pobl/yn canolbwyntio ar y claf a defnyddio sgiliau academaidd fy ngradd israddedig hefyd.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud
Rwy'n hyfforddi i fod yn Wyddonydd Clinigol mewn Awdioleg sy'n cynnwys cefnogi cleifion o bob oed sydd â nam ar eu clyw, tinitws a phroblemau sadrwydd. Fel rhan o fy rôl rwy'n cymryd rhan mewn clinigau ac yn cefnogi'r awdiolegwyr a'r gwyddonwyr clinigol. Fel rhan o’r rhaglen hyfforddi gwyddonwyr sy’n para 3 blynedd, rydw i hefyd yn astudio ar gyfer MSc mewn Gwyddor Niwrosynhwyraidd gyda Phrifysgol Manceinion sydd â chyfuniad o ddarlithoedd a addysgir o bell ac yn y cnawd.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Rwy'n mwynhau'r rôl gan fy mod yn cael y cyfle i gyfathrebu â chleifion yn ddyddiol a gwella ansawdd eu bywydau. Rwyf hefyd yn ffodus bod MSc mewn Gwyddoniaeth Niwrosynhwyraidd wedi’i ariannu’n llawn yn rhan o’r rôl, sy’n caniatáu imi ddatblygu fy sgiliau ymchwil a chefnogi fy sgiliau clinigol.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Yn fy mhrofiad i, mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi caniatáu imi ddatblygu fy ngyrfa mewn swydd rwy’n ei mwynhau a chaf foddhad mawr o wella bywydau pobl eraill.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?
Gofalgar.