Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2013.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Yn hoff iawn o bynciau gwyddonol, anatomeg a gofal iechyd ac roeddent yn cynnig y rhagolygon gorau o ran swyddi, cyflog a chyfleoedd datblygu.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Arweinydd hyfforddiant ar gyfer Patholeg yn PBC. Llawer o brojectau addysgol fel creu deunyddiau addysgu, rheoli ceisiadau hyfforddi, digwyddiadau gyrfa, llunio adroddiadau, gwella datblygiad gyrfaoedd y tîm.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Cael gweithio ar wahanol brojectau lleol a chenedlaethol amrywiol gyda llawer o gydweithwyr medrus. Hefyd, gweld y foment y bydd rhywun yn dysgu rhywbeth sy'n peri bod llawer o wybodaeth gysylltiedig i gyd yn syrthio i'w lle a hwythau'n gweld y darlun mawr am yr hyn oedd dan sylw.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Sicrhewch eich bod yn glir ynglŷn ag anghenion y rôl rydych am ei chyflawni a’r hyn sydd ei angen i’w chyflawni, fel graddau achrededig a phortffolau.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?