Efallai ein bod ni'n bleidiol braidd ond yn ein barn ni mae gogledd orllewin Cymru yn un o ardaloedd harddaf y Deyrnas Unedig i fyw ynddi. Ond ydych chi erioed wedi pendroni beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn ddynol mewn amgylchedd mor wledig? Beth ydy ein perthynas ni â’r byd o'n cwmpas a sut mae’r amgylchedd yn ymateb i ni? Sut mae torri trwy’r rhwystrau rhyngom ni a phopeth arall sy'n rhannu'r un lle â ni: yn adar, planhigion, anifeiliaid a phobl eraill? Mae Hwb Bangor yn dod ag arbenigwyr o Brifysgol Bangor a grwpiau cymunedol lleol o bob rhan o ogledd orllewin Cymru at ei gilydd i ystyried y cwestiynau hyn trwy ddefnyddio eu hymchwil i archeoleg, barddoniaeth, celfyddyd perfformio a hanes diwylliannol. Felly dewch draw, cymerwch ran a dysgwch fwy am y gwaith rydym yn ei wneud. Fydd lle rydych chi'n byw byth yn edrych yr un fath eto!
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gael bod yn gartref i un o blith chwe chanolfan genedlaethol sy’n rhan o ŵyl Bod yn Ddynol eleni. Gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y Deyrnas Unedig yw hon, a gynhelir rhwng 10 a 19 Tachwedd 2022. Ysgol Uwch-astudiaethau Prifysgol Llundain sy’n arwain ar y gwaith, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. I gael rhagor o wybodaeth ewch i beinghumanfestival.org.
Sylwer: Gan fod digwyddiadau gŵyl Bod yn Ddynol yn rhad ac am ddim, nid yw pawb sy’n gofyn am docynnau yn dod i’n digwyddiadau. I wneud yn siŵr y bydd llond y lle rydym yn dyrannu mwy o docynnau nag sydd o seddi/llefydd. Mae mynediad felly ar sail y cyntaf i’r felin, felly cofiwch gyrraedd mewn da bryd ar gyfer dechrau’r digwyddiad.