Mae'r Tîm Byddwch Fentrus yn rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor a’n nod yw darparu cyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion Bangor ddatblygu eu sgiliau menter a chefnogi’r rhai sydd am ddechrau busnes neu fenter gymdeithasol eu hunain neu ddatblygu gyrfa fel gweithiwr llawrydd.
Cyfarfod â'r Tîm Byddwch Fentrus
Rwyf wedi cael llawer iawn o gefnogaeth ddefnyddiol gan Byddwch Fentrus. Maen nhw wedi rhoi arweiniad i mi ar farchnata, cyllidebu, a hunanofal, maen nhw wedi fy helpu i gysylltu â chleientiaid, maen nhw wedi rhoi grant i mi ac wedi fy helpu i ennill grant arall. Maen nhw wedi fy nghadw'n bositif trwy’r broses o ddatblygu fy musnes llawrydd ac wedi sgwrsio â fi bob deufis yn ddi-ffael. Rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais.
Ein Cenhadaeth
Mae Prifysgol Bangor yn ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol y mae’n ei derbyn gan Lywodraeth Cymru, Prifysgolion Santander a Medr sy’n ein galluogi i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i’n myfyrwyr yn y maes hwn. Rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid allanol, gan ddefnyddio egwyddorion Creu Sbarc, i greu system eco entrepreneuraidd fwy gweladwy, syml a chysylltiedig yng Nghymru.
Mae gan Brifysgol Bangor genhadaeth gref ac ymrwymiad i les economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru ac mae'n rhoi cyfleoedd i'r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau menter ac entrepreneuraidd a chefnogi'r rhai sydd â diddordeb datblygu eu syniadau busnes. Mae’r dyhead i weld ‘rhagor o gyflogadwyedd, busnesau cychwynnol a masnacheiddio ledled gogledd Cymru’ yn flaenoriaeth yn Strategaeth 2030 y Brifysgol.
Gwerth Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth
Gall dysgu am fenter a chael profiad o fentro tra yn y brifysgol arwain at sawl budd. Mae'n rhoi gwahanol safbwyntiau i fyfyrwyr ynglŷn â'u dewisiadau gyrfa a'r hyder i sefydlu eu busnes neu fenter gymdeithasol eu hunain. Bydd cymwyseddau menter yn ddefnyddiol i'r rhai sydd mewn cyflogaeth, neu'r rhai sy'n mynd yn hunangyflogedig ac yn gweithio ar eu liwt eu hunain neu fel ymgynghorydd. Gall helpu i ddatblygu hyder 'gallaf-wneud', dull cwestiynu creadigol a pharodrwydd i fentro, gan alluogi unigolion i reoli ansicrwydd yn y gwaith a phatrymau gweithio hyblyg a gyrfaoedd.
Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth Asiantaeth Sicrhau Ansawdd 2018

Yn ystod fy nghyfarfod, cefais y cyfle i drafod fy syniad yn agored a chefais gyngor proffesiynol, defnyddiol a ymgorfforais yn ddiweddarach wrth i mi symud ymlaen. Roedd yn help mawr, diolch
Cyfleoedd Byddwch Fentrus
- Mentora busnes un-i-un rheolaidd
- Cyllid i ddatblygu syniadau a busnesau newydd drwy'r gronfa fenter a'r grant lleoliadau cychwyn busnes
- Rhannu swyddfa am ddim yn y Gofod Deori yn M-SParc ar Ynys Môn
- Gweithdai a digwyddiadau i ddatblygu sgiliau yn ogystal â chymorth arbenigol i gychwyn busnes.
- Cefnogaeth benodol i'r rhai sydd eisiau gweithio ar eu liwt eu hunain, gan gynnwys aelodaeth am ddim o IPSE
- Cynnig a chyflwyno cyfleoedd mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol.
- Cyllid o'r gronfa menter staff i ddatblygu projectau a gweithgareddau mentrus
- Darparu sesiynau hyfforddedig.
- Benthyca eitemau.
Mae’r sesiynau un-i-un wedi bod yn ddefnyddiol dros ben i ni. Daethom atyn nhw gyda syniad diriaethol ac maen nhw wedi ein helpu i ddatblygu'r syniad hwnnw y tu hwnt i'r hyn yr oeddem wedi ei obeithio hyd yn oed. Maen nhw wedi rhoi’r hyder i mi fwrw ati gyda’n cynlluniau ac maen nhw’n parhau i fod ar gael i mi droi atyn nhw hefyd.
Trosolwg ar y Flwyddyn
- Cefnogodd y Cydlynydd Busnesau Cychwynnol Graddedigion 88 o fyfyrwyr unigol i ddatblygu syniadau busnes dros 237 o apwyntiadau yn ystod y flwyddyn, cynnydd o 33% ers y llynedd.
- Dywedodd 100% o’r adborth a dderbyniwyd gan gyfranogwyr a fanteisiodd ar y mentora un-i-un eu bod wedi cael y wybodaeth, y sgiliau a’r gallu i weithredu a’u bod wedi cael yr hyder i symud ymlaen i’r cam nesaf.
- Cofnodwyd 31 o fusnesau newydd gan fyfyrwyr/graddedigion ar gyfer adroddiad HEBCIS ym mlwyddyn academaidd 2023-24.
- Cafodd myfyrwyr a graddedigion oedd yn agos at ddechrau busnes gyfle i wneud cais am hyd at £5,000, drwy'r Gronfa Fenter, y Gronfa Lleoliadau Hunangyflogaeth a Chronfa Datblygu Syniadau Prifysgolion Santander. Llwyddodd 66 o fyfyrwyr a graddedigion i gael grant.
- Roedd 87% o’r ymatebwyr o’r farn fod y cyllid a ddyfarnwyd wedi eu helpu i ddechrau busnes neu yrfa fel gweithiwr llawrydd ac roedd 100% o’r farn fod y cyllid wedi rhoi’r hyder iddynt ddechrau busnes neu yrfa fel gweithiwr llawrydd.
- Cynigiwyd desg am ddim yn y gofod Deori yn M-SParc fel rhan o'r gefnogaeth i'r rhai sy'n agos at neu sydd newydd ddechrau eu busnesau eu hunain. Llwyddodd naw busnes i gael desg yn y swyddfa yn ystod y flwyddyn.
- Roedd 12 o hyrwyddwyr staff yn cymryd rhan weithredol yn y cwricwlwm, a oedd yn cynnwys 7 aelod staff newydd a chyflwynwyd 14 o sesiynau hyfforddedig.
- Dyrannwyd £5,000 yn llawn o’r Gronfa Menter Staff i bob coleg ac o ganlyniad cefnogwyd 8 project ar draws y brifysgol. Roedd maen prawf cymhwyster ar gyfer y gronfa yn ymwneud â datblygu gwybodaeth am y Fframwaith Entrecomp (fframwaith cyfeirio i ddeall yr hyn mae meddylfryd entrepreneuraidd yn ei olygu) a rhannu/lledaenu gyda chydweithwyr.
- Enillodd dau aelod o'r tîm Byddwch Fentrus gymrodoriaeth EEUK yn ystod y flwyddyn.
- Rhennir diweddariadau a chyfleoedd gan EEUK yn rheolaidd trwy Fwletin Staff y brifysgol
- Mae’r tîm Byddwch Fentrus yn parhau i gydweithio â rhwydweithiau Hyrwyddwyr Menter Cymru gyfan a’r rhwydwaith cymorth lleol a chenedlaethol i ddarparu cyfleoedd i’n myfyrwyr a’n graddedigion.
Podlediad 'Be Nesa'
Mae’r podlediad 'Be Nesa' yn parhau i fynd o nerth i nerth gyda lansiad cyfres 2 ac mae'n cynnwys entrepreneuriaid yn ogystal â chyflogwyr. Nod y podlediad yw rhoi gwybodaeth i wrandawyr am wahanol gyfleoedd gyrfa, gan gynnwys gwaith llawrydd a bod yn berchen ar fusnes.
Marchnad Nadolig 2023
Yn 2023, cynhaliwyd y Farchnad Nadolig Myfyrwyr flynyddol unwaith eto, y gyntaf ers y pandemig, ac roedd gan 125 o fyfyrwyr a graddedigion stondinau yno.
Projectau wedi eu Cyllido
Crëwyd fideo i arddangos projectau a oedd wedi cael arian gan y Gronfa Datblygu Menter Staff.

Maen nhw wedi rhoi’r hyder i mi gysylltu â chwsmeriaid i werthu, cyflymu datblygiad fy musnes, a deall gwerth fy ngwasanaeth. Mae’n bleser pur cael arweiniad o safon mor uchel ym mhob agwedd ar ddatblygu a gweithredu fy musnes.