Ffair Swyddi Rhan Amser
Os ydych chi’n chwilio am swydd ran-amser, swydd dros yr haf, neu’ch swydd gyntaf ar ôl graddio, dewch draw i’n ffair swyddi.
Bydd gennym gyflogwyr yn hysbysebu amrywiaeth o rolau, o ddomestig i waith gofal a chymorth, mae rhywbeth at ddant pawb!
Bydd y cyflogwyr sy'n mynychu yn cynnwys:
- Grŵp Cynefin
- Gofal Gwynedd
- GISDA
- Hafan Y Môr
- Supertemps
- Greenacres, a mwy.
Peidiwch ag anghofio dod â chopi o’ch CV gyda chi i’w roi i’r cyflogwyr yn y ffair.
Llun Proffil LinkedIn
Bydd gennym dîm Llun Proffil LinkedIn wrth law hefyd i dynnu lluniau proffesiynol, rhad ac am ddim ar gyfer eich proffil LinkedIn.