Dr Mari Wiliam a Hanes Byw
Yn ddiweddar, dechreuodd cylchgrawn newydd sbon i hyrwyddo hanes Cymru a hanes Cymreig tu hwnt i’r wlad ei oes sef Hanes Byw. Mae’r cylchgrawn wedi ei greu yn sgil galwad gan Gyngor Llyfrau Cymru am syniadau am gylchgronau a chyfnodolion newydd y gellid eu creu. Gwych yw gweld, felly, i’r cais am nawdd fod yn llwyddiannus a bod Ifor ap Glyn bellach yn olygydd y cylchgrawn hynod ddiddorol a phwysig hwn.
Ymysg panel ymgynghorol Hanes Byw mae ein Dr Mari Elin Wiliam, sy’n ddarlithydd Hanes Modern, yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, ac yn y rhifyn cyntaf hwn, mae yna erthygl eithriadol diddorol gan Dr Wiliam ynglŷn â’r frenhiniaeth a’r pherthynas â Chymru yn y cyfnod diweddar.
Meddai Dr Wiliam: ‘Fel rhywun sydd wedi bod ynghlwm ag astudio hanes Cymru a Hanes trwy’r Gymraeg trwy gydol fy ngyrfa, roedd yn newydd gwych clywed fod y cylchgrawn, Hanes Byw, yn cael ei lansio. Gyda’r Cwricwlwm i Gymru newydd yn rhoi pwyslais penodol ar astudio hanes Cymru a’i chymunedau, mae’n amserol iawn cael cylchgrawn sy’n apelio at ddisgyblion ysgol, myfyrwyr prifysgol ac, yn wir, unrhyw un sydd efo diddordeb yn y cwlwm rhwng y gorffennol a’r presennol.’
Teitl ei herthygl yw ‘“Ein Calon Gan Estron Ŵr”: Coroni 1953 a 2023’ ac mae testun y darn yn ysgogol iawn. Wrth ystyried proses llunio’r erthygl, ymhelaetha Dr Wiliam: ‘Penderfynais ysgrifennu erthygl yn cymharu yr ymatebion i’r Coroni yn 1953 a 2023 gan fod seremonïau o’r fath yn rhoi cipdrem trawiadol ar gymdeithas. Tra bod llawer o sôn am y diffyg diddordeb a’r gwrthwynebiad I Goroni Charles, roedd yna hefyd gryn dipyn o apathi adeg Coroni Elizabeth II, er fod mytholeg wedi chwyldroi fod pawb yn hapus ac yn dathlu.’
Mae’r erthygl yn codi nifer o gwestiynau pwysig ac yn gyfraniad arwyddocaol at drafodaethau cyfredol ynghylch natur cymdeithas, fel, yn wir, y mae amryw o erthyglau eraill y cylchgrawn. A dyna’n wir hanfod archwilio ddoe – er mwyn taflu goleuni ar heddiw.
‘Mae cael gafael ar gymhlethdodau hanes yn holl-bwysig inni ddeall cyd-destun heddiw,’ sylwa Dr Wiliam.
Mae Hanes Byw, sy’n ‘plethu ddoe gyda heddiw’, ar gael yn eich siop lyfrau leol ac ar-lein am £4.95.