Heddwch a Hunaniaeth
Dr Gareth Evans-Jones
Homoffobia. Cwiyrffobia. Trawsffobia. Dyma dri math o ‘agweddau’ sydd wedi bod yn sail i drais yn erbyn pobl LHDTC+ ar hyd y blynyddoedd, ac sydd, yn anffodus, yn dal i fod. Yr hyn sy’n drawiadol ydi’r ‘ffobia’ sydd i’w gweld yn ail ran y termau uchod. Mae rhai wedi dadlau mai oherwydd ofn y mae’r fath wrthdaro’n bod, a bod yr ofn hwnnw’n arwain at atgasedd a gweithredu. Mae eraill wedi dadlau nad ydi hynny’n wir – nad ofn sydd wrth wraidd y fath safbwyntiau ond casineb; diffyg cariad.
Does dim posib ochri’n gwbl gyda’r naill ddadl neu’r llall, oherwydd bod gwirionedd i’r ddwy. Mae atgasedd i’w weld mewn ymosodiadau corfforol ar bobl gwiyr sy’n gwneud dim byd mwy na cherdded law yn llaw efo’u cymar i lawr stryd. Mae atgasedd i’w weld mewn ymosodiadau geiriol ar bobl gwiyr sy’n gwisgo bathodyn pinc a glas a gwyn ar eu cotiau, er enghraifft. Ac mae atgasedd i’w weld mewn ymosodiadau angheuol, lle mae pobl gwiyr yn gwneud dim byd mwy na bodoli. Ond mae yna elfen o ofn ynghlwm wrth yr agweddau yma: ofn bod pobl LHDTC+ yn tanseilio ‘confensiynau traddodiadol’ (confensiynau ardal ddaearyddol benodol adegau penodol, wrth gwrs), a’u bod yn hyrwyddo newid strwythurol mewn ffordd radicalaidd. Cafodd yr ofn yma ei grisialu’n glir yn y geiriau a glywais mewn caffi yn ddiweddar: ‘Os gawn nhw hynna, be fydd nesa ’de?!’ Ofn yr hyn na wyddom. Ac mae modd gweld hynny fel sail i’r fath wrthdaro sy’n bod mewn perthynas â phobl LHDTC+; am nad ydi pobl gwiyr yn cydymffurfio â’r confensiynau heteronormaidd sydd wedi eu hen wreiddio yn ein cymdeithas.
Drwy ofni’r hyn na wyddom, mae pobl yn creu rhaniadau go glir rhwng y cyfarwydd a’r anghyfarwydd, y ni a’r nhw, yr hunan a’r arall. A dyna, ar un olwg, sy’n nodweddu agweddau treisgar ym mhob oes, ac mewn sawl cyd-destun: bod y naill yn gweld eu hunain fel y ‘ni’, yr ‘hunan’, a’r llall fel y ‘nhw’, yr ‘arall’. Yr arallu hwnnw sy’n tanio’r trais. Pan feddyliwn am gymdeithas y Gorllewin ar hyd y canrifoedd, mae merched wedi cael eu harallu, mae mewnfudwyr wedi cael eu harallu, mae pobl ag anableddau wedi cael eu harallu; mae wastad ‘yr arall’ yn bod er mwyn grymuso’r hunan. Yn aml, mae’r arallu yna wedi arwain at broses o beidio ag ystyried yr ‘arall’ fel bodau dynol o gig a gwaed a theimlad, ond fel ‘pethau’. Ac nid yn unig yng nghyd-destun caethwasiaeth y gwelir hynny.
Mae hyn yn dwyn i gof syniadaeth Martin Buber; yn benodol, yr Ich und Du, y fi a thi. Cyn belled ag rydym yn ymwneud ag eraill, yn fodau dynol, a’r byd o’n cwmpas yn ehangach, yn nhermau’r ‘fi a thi’, mae yna obaith. Gall parch fodoli, a goddefgarwch, a phosibilrwydd heddwch. Ond pe baem yn gweld eraill yn nhermau Ich und Es, y fi a’r ‘peth yna’ (it yn y Saesneg), bydd ansicrwydd, bydd ofn, bydd peryg dinistr. Dyna sydd wedi bod yn rhan o rethreg a gweithred pobl gwiyrffobig ers canrifoedd. Y ‘ni’ a’r ‘pethau yna’: deuoliaethau dinistriol.
A dyna’n wir ydi’r hyn a welwn mewn hanesion niferus. Meddyliwn am yr Holocost, er enghraifft. Yn ystod y cyfnod uffernol hwnnw, cafodd miloedd ar filoedd o bobl gwiyr eu herlid a’u cam-drin, a’u lladd. Gwyddom hefyd i lawer gael eu labelu gyda rhywioldeb penodol nad oedd, mewn difri, yn adlewyrchu eu rhywioldeb go iawn. Roedd rhywun naill ai’n ddyn hoyw neu’n ddynes hoyw, a dyna ni; ac mewn difri, dim ond y dynion hoyw oedd yn destun gwir bryder oherwydd bod perthnasau hoyw ymysg merched yn llai ‘dylanwadol’, yn llai ‘grymus’, yn llai ‘cryf’ o beth. Roedd yna bobl ddeurywiol. Roedd yna bobl draws. Roedd yna bobl anneuaidd. Ond eu hanwybyddu a wnaed drwy lunio’r pecynnau twt, deuol – ‘dyn hoyw’ a ‘dynes hoyw’ – a’u gosod mewn cyd-destun ‘yr arall’.
Gyda’r arallu hefyd, fel sy’n wir am hanes cwiyr yr Holocost, mae hanesion cwiyr yn gyffredinol wedi mynd yn angof. Mae pobl gwiyr wedi cael eu gwthio o ganol cyfrolau hanesyddol, o gofnodion diwylliannol, ac o nodiadau gwleidyddol, am nad oedden nhw’n ‘weddus’ neu’n ‘iawn’. Neu hyd yn oed wedi cael eu harliwio’n ‘sdrêt’ gan ambell hanesydd. Mae hyn hefyd yn fath o ddiffyg heddwch.
Yr hyn sy’n drawiadol ac yn ddiddorol ydi’r modd y mae pobl gwiyr wedi coleddu’r ‘arall’ yma ar hyd y blynyddoedd; wedi mabwysiadu’r label ac ymateb.
‘Pam bod isio’r petha prides ’ma?’ oedd sylw arall a glywais i gan rywun y llynedd. Pam? Oherwydd caethiwed y cywilydd mae cyfran helaeth o bobl gwiyr wedi ei brofi, ac yn dal i’w brofi oherwydd y ffordd y mae cymdeithas wedi cyflyru pobl i feddwl am eu hunaniaethau rhywiol. Mae gorymdeithiau Balchder yn brotestiadau, ond yn rhai heddychlon yn eu hanfod. Maen nhw hefyd yn ddatganiadau cyhoeddus ei bod hi’n berffaith iawn, yn berffaith naturiol bod yn LHDTC+.
Ond nid heddwch sydd wedi nodweddu gweithgareddau’r gymuned gwiyr erioed, wrth gwrs. Does ond rhaid meddwl am y Terfysgoedd Stonewall (Stonewall Riots) yn ninas Efrog Newydd yn 1969. Ond gwrthdaro wedi’i fwriadu roedd hynny, gan griw penodol o’r awdurdodau, er mwyn aflonyddu’r dyfroedd – er mwyn hyrwyddo’r syniad bod y gymuned LHDTC+ yn radicalaidd, yn broblemataidd, ac yn beryg i gymdeithas: yn ‘arall’ sy’n gwrthod cyd-fynd â’r ‘ni’. Ac mi goleddwyd ‘yr arall’ hynny a’r ymosodiad hwnnw gan y gymuned LHDTC+ ei hun er mwyn cynorthwyo pobl gwiyr eraill. Sefydlwyd mudiad Stonewall yn 1989, ac erbyn hyn, mae sawl cangen o’r mudiad ym Mhrydain. Mae hefyd nifer o fudiadau eraill yn bod i gefnogi pobl LHDTC+ ledled Cymru, Prydain a thu hwnt. A dyna ddangos bod yn yr ‘arall’ gymuned, un sy’n coleddu’r ‘gwahanol’ a’r ‘anghonfensiynol’ sy’n gwbl naturiol.
Oes, mae yna wrthdaro. Oes, mae dal dirfawr angen ail-glywed lleisiau lliwgar y gorffennol, a dathlu unigolion sydd wedi cael eu cuddio gan hanes. Oes, mae angen hyrwyddo heddwch. Ac mae’r enfys yn greiddiol yn hyn o beth. O fewn Cristnogaeth, mae’r enfys yn arwydd o gymod rhwng Duw a dynoliaeth, fel y gwelir ar ôl stori’r Dilyw ac Arch Noa. Mi all yr enfys hefyd fod yn arwydd o gymod rhwng pob un yn ein cymdeithas. Bwa o liwiau a welir gan amlaf, pan mae’r haul yn deffro wedi cawod o law, ond cylch ydi siâp enfys mewn difri. Dyna’r dystiolaeth wyddonol. Ac onid ydi hynny’n syniad gwerthfawr y gallem ni ei hyrwyddo? Mae enfys yn gylch sy’n clymu’r gymdeithas liwgar ynghyd. Mae’r enfys hefyd yn gylch sy’n gallu clymu cymdeithas gyfan ynghyd. Unrhyw ‘ni’ a ‘nhw’. A gan nad oes dechrau na diwedd i gylch, felly hefyd, ni ddylem greu rhaniadau o’r fath â’r ni a’r nhw. Beth am gylch cymdeithas, yn enfys o gylch, tu hwnt i ddeuoliaethau’r gorffennol?
Mae'r rhifyn ar gael i'w brynu o wefan Codi Pais a bydd yr holl elw yn mynd tuag at elusen Oasis Caerdydd.