Lansio Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yn yr Eisteddfod
Ddydd Sul 6 Awst 2023 ym Mhabell Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, lansiwyd Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yng nghwmni cyd-gyfarwyddwyr newydd y Ganolfan, rhai o aelodau ei Bwrdd, a siaradwr gwadd diddorol iawn.
Mae Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru wedi bodoli mewn diwyg amrywiol ers 1979, pan y’i sefydlwyd gyntaf gan Rheinallt Thomas. Gyda threigl y blynyddoedd, mae’r Ganolfan wedi esblygu wrth i gymdeithas newid a gwahanol agweddau eu hamlygu eu hunain. Bellach, mae dau ddarlithydd o Brifysgol Bangor wedi eu penodi’n gyd-gyfarwyddwyr y Ganolfan, sef Dr Joshua Andrews (darlithydd Moeseg a Chrefydd) a Dr Gareth Evans-Jones (darlithydd Athroniaeth a Chrefydd).
Yn ystod y lansiad a gynhaliwyd ym mhabell Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni, cafwyd trosolwg manwl o gyfansoddiad, bwriad, ac amcanion y Ganolfan gan Dr Joshua Andrews a Dr Gareth Evans-Jones. Yn ei hanfod, hyrwyddo addysg grefyddol a chymdeithasol yng Nghymru yw amcan y Ganolfan, drwy bwysleisio pwysigrwydd dysgu am grefyddau gwahanol, safbwyntiau gwahanol, diwylliannau gwahanol, a bydolygon gwahanol sydd i’w canfod yn ein cymdeithas heddiw. Ynghyd â hyn, mae am danlinellu y dylem oll ymdrechu i sicrhau goddefgarwch, parch a chydweithrediad. Canolbwyntio ar Gymru fydd y Ganolfan ond bydd hi hefyd yn cydweithio â chanolfanau addysg grefyddol, gwerthoedd a moeseg mewn rhannau eraill o Brydain.
Meddai Dr Gareth Evans-Jones: ‘Mae’r Ganolfan wedi’i sylfaenu ar barchu’r fath amrywiaeth sy’n nodweddu ein cymdeithas. Mae newidiadau sylweddol wedi bod yn y nifer o bobl sy’n arddel gwahanol grefyddau, a gwelwyd bob math o ddatblygiadau hefyd mewn moeseg gymdeithasol, athroniaeth, a gwerthoedd. Am hynny, rydan ni’n awyddus i hyrwyddo’r fath agwedd sy’n cydnabod yr amrywiaeth helaeth yma, sy’n ei pharchu, ac sy’n annog pobl i ofalu bod gwerthfawrogiad a goddefgarwch yn nodweddu eu hymwneud ag eraill yn ein cymdeithas. Mae rhai sy’n dilyn crefydd, mae rhai sydd ddim. Mae gan rai safbwyntiau penodol, ac eraill rai gwahanol. Ond rydan ni gyd yn bobl yn byw yn yr un gymdeithas, a dyna sy’n werth ei gofio.’
Mae gan y Ganolfan fwrdd rheoli ddeinamig ac amrywiol gydag arbenigedd mewn addysg gynradd ac uwchradd, ysgolion ffydd, ynghyd â chynrychiolydd athrawon gyrfa gynnar, a chafwyd cyflwyniadau gan nifer o wahanol aelodau yn ystod y lansiad, gan gynnwys anerchiad ysbrydoledig gan Modlen Lynch, sydd wedi bod yn hyfforddi cenedlaethau o athrawon effeithiol; geiriau egnïol gan Emilia Johnson, sy’n athrawes Addysg Grefyddol ar ddechrau ei gyrfa ac sy’n llawn brwdfrydedd i ddatblygu perthynas rhwng gwahanol gylchoedd; a chyflwyniad didwyll gan Daniel Latham, sy’n awyddus i weld sgyrsiau rhyng-ffydd yn datblygu yn y blynyddoedd nesaf.
Yn dilyn hyn, cafwyd sgwrs hynod ddiddorol gyda Kristoffer Hughes, Prif Dderwydd Urdd Ynys Môn, ynghylch crefydd yn y Gymru gyfoes, a nodwyd fel y mae patrymau ffydd yn newid ac yn amrywio yn y wlad, a bod ffydd yn rhywbeth personol iawn. Roedd y sgwrs yma’n eithriadol ysgogol a chafwyd trafodaeth gynnes gyda phawb a oedd yn bresennol.
I gloi’r sesiwn, cyhoeddwyd enw’r sawl a fyddai’n derbyn rôl Cymrawd Anrhydeddus Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru am y cyfnod 2023-2025, sef Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa. Ac mewn fideo a recordiwyd gan Hanan Issa, dywedodd ei bod yn hynod frwdfrydig i weld y Ganolfan yn datblygu a’i bod yn cydweld yn llwyr â’i hethos: 'Rwy’n credu'n gryf mewn adeiladu cysylltiadau ag eraill trwy ddathlu ein gwahaniaethau ac edrych ar y ffyrdd yr ydym yn ymarfer ein ffydd yn wahanol trwy chwilfrydedd a charedigrwydd, a dyna yn wir yw ethos y Ganolfan Genedlaethol.
'Rwy’n meddwl bod gan y Ganolfan Genedlaethol gymaint o botensial yn yr ystyr ei bod yn anelu, trwy addysg, at godi ymwybyddiaeth a meithrin cysylltiadau rhwng pobl o wahanol ysbrydolrwydd a ffydd ledled Cymru.'
Ethos Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru
Nodau ac Amcanion
Nod Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru (CGAGC) yw hybu astudiaeth, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o draddodiadau crefyddol, gwerthoedd a thraddodiadau athronyddol sy’n bodoli yng Nghymru a’r byd ehangach. Anelwn at ehangu’r ddarpariaeth addysg mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a sefydliadau addysg bellach ym maes crefydd, gwerthoedd, moeseg ac athroniaeth, yn ogystal â phontio’r cysylltiad ag addysg uwch. O’r herwydd, byddwn yn anelu at weithio’n agos ag athrawon Astudiaethau Crefyddol ac Athroniaeth, a’r Dyniaethau, yn ogystal ag athrawon ysgolion cynradd, i ddatblygu darpariaeth addysg drylwyr, atyniadol a buddiol, ac ategu profiad dysgu pobl ifanc ledled Cymru.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda sefydliadau â chyrff eraill, yn lleol, yn genedlaethol, a thu hwnt, gan gynnwys cymunedau ffydd a mudiadau ieuenctid, grwpiau CYSAG, ac RE Hubs UK, i wella'r ddarpariaeth a datblygu dealltwriaeth o wahanol draddodiadau crefydd, gwerthoedd, moeseg ac athroniaeth.
Mae CGAGC yn anelu at gynnig agwedd mor eang â phosibl, felly, byddir yn archwilio traddodiadau crefyddol amrywiol gan gynnwys y chwe chrefydd y byd sydd wedi bod yn ganolbwynt i Addysg Grefyddol yng Nghymru yn draddodiadol (Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam, Hindŵaeth, Bwdhaeth a Siciaeth) ynghyd â llawer o rai diddorol eraill, ac ysgolion meddwl gwahanol, oherwydd bod eu bodolaeth yn arwyddocaol ac yn adrodd hanes ehangder diwylliannol amrywiol Cymru sy'n esblygu'n barhaus.
Egwyddorion y Ganolfan
Mae CGAGC yn seiliedig ar egwyddorion penodol a fydd wrth wraidd ei swyddogaeth a’i hymgysylltiad:
• Chwilfrydedd deallusol: mae CGAGC wedi'i seilio ar bwysigrwydd addysg a'r rhodd amhrisiadwy o wybodaeth, ac o'r herwydd, mae angen chwilfrydedd deallusol i ddysgu, deall ac ymgysylltu mwy â thraddodiadau amrywiol sy'n goleuo ein cymdeithas.
• Cynwysoldeb: mae CGAGC yn agored i bob traddodiad crefyddol, yn ogystal â phobl nad ydynt yn arddel crefydd benodol, neu nad ydynt yn cydymffurfio â labeli o'r fath. Mae’r Ganolfan hefyd yn anelu at weithio gyda, a chynnwys, amrywiaeth mor eang o bobl o bob rhan o Gymru, a bydd yn ymdrechu i gynnwys aelodau o gymdeithas sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y gymuned LHDTC+, y gymuned lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a phobl o gefndiroedd incwm isel.
• Parch: wrth galon ethos CGAGC mae parch. Pwysleisiwn yr angen i ddangos parch at bob aelod o’r gymdeithas ac at yr amrywiaeth o gredoau a safbwyntiau y mae pobl yn glynu wrthynt.
• Gwerthfawrogiad: mae CGAGC yn credu bod gan bawb sy’n ymgysylltu â lefel o oddefgarwch tuag at wahanol safbwyntiau a chredoau, a gwerthfawrogiad o amrywiaeth o’r fath, cyn belled nad ydynt yn gwrthdaro â pharch a thosturi at ei gilydd.
• Ymwybyddiaeth: mae CGAGC yn datgan bod ymwybyddiaeth o safbwyntiau, credoau a safbwyntiau amrywiol yn allweddol er mwyn ymgysylltu orau â phobl Cymru a sicrhau bod y Ganolfan yn ddiwylliannol ymwybodol o ddatblygiadau ac esblygiad cyfredol.
Cydraddoldeb
Mae CGAGC o'r farn bod cydraddoldeb yn allweddol ar gyfer ei chyfansoddiad a'i gweithgareddau ymgysylltiol ag eraill. Mae ganddi gyd-gyfarwyddwyr ac aelodau bwrdd, ond dangosir cydraddoldeb a pharch at ei gilydd drwy gydol y broses, fel y dangosir wrth ymgysylltu ag ysgolion a chymdeithas, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Beth nesaf?
Bydd y Ganolfan yn cyhoeddi ei rhaglen waith am y misoedd nesaf yn fuan a bydd lansiad arall, dwyieithog, yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Ryng-ffydd ym mis Tachwedd 2023. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiwn o gwbl, mae croeso ichi gysylltu â Dr Gareth Evans-Jones (g.evans-jones@bangor.ac.uk) neu Dr Joshua Andrews (j.andrews@bangor.ac.uk).