Bydd adran Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor yn cynnal cyfres o ddarlithoedd ar-lein am ddim bob dydd Sul o'r 29ain o Fedi hyd at 27 Hydref 2024. Mae'r darlithoedd hyn wedi'u teilwra ar gyfer myfyrwyr sy'n ystyried mynd ar drywydd Troseddeg neu Blismona ar lefel prifysgol. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddarlithoedd cyfrwng Cymraeg a Saesneg, a bydd pob un ohonynt yn cael eu ffrydio'n fyw trwy Teams. Yn ogystal, gall mynychwyr ddewis cymryd rhan mewn dadleuon a thrafodaethau.
Mae'r digwyddiad ar-lein hwn yn rhad ac am ddim ac wedi'i gynllunio i roi cipolwg mwy cynhwysfawr i chi ar sut beth yw astudio'r pynciau hyn ar lefel israddedig. Bydd hefyd yn eich helpu i feithrin sgiliau pwnc-benodol i wella eich llwyddiant.
Mwy o wybodaeth a cyfle i gofrestru ar gyfer y sesiynau