Llwyddiant mawr sesiynau astudio Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch y Pasg
Cyflwynodd aelodau o’r adran Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas 34 o sesiynau astudio ar-lein ac ar y campws dros dair wythnos gwyliau’r Pasg i gefnogi dros 700 o fyfyrwyr Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol a’u hathrawon.
Roedd y cynnwys wedi ei greu er mwyn bod yn berthnasol i fyrddau arholi CBAC/Eduqas ac OCR, ac mae ystorfa ar-lein hefyd wedi’i chreu fel y gall myfyrwyr ac athrawon gyfeirio’n ôl atynt yn ôl yr angen.
Dywedodd Dr Joshua Andrews, Darlithydd Crefydd a Moeseg, “Cofrestrodd 733 i fynychu’r sesiynau, ac mae’r ymgysylltu â myfyrwyr ac athrawon ym mhob sesiwn wedi bod yn wych – mae wedi bod yn brofiad pleserus iawn.”
Ychwanegodd Dr Gareth Evans-Jones, Darlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd, “Fe wnaethom hefyd gynnal cynhadledd undydd yng Ngholeg Sir Gâr, lle daeth saith ysgol ynghyd i gymryd rhan yn ein cyrsiau o amgylch y pwnc a sgiliau arholiad. Rydym wedi cael rhywfaint o adborth yn barod, ac mae myfyrwyr ac athrawon wedi bod yn garedig iawn yn eu hymatebion.”
Dywedodd yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, “Mae’n wych gweld arbenigedd ein staff yn cael ei gydnabod a’i ddefnyddio gan ysgolion a cholegau yn y modd hwn. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o lwyddiant y digwyddiadau hyn, sydd i gyd yn cyfrannu mewn ffordd ymarferol iawn at feithrin perthynas ag ysgolion, colegau a darpar fyfyrwyr. Dyma’r union fath o weithgaredd allgymorth sy’n ehangu ein henw da mewn athroniaeth, moeseg ac astudiaethau crefyddol ledled Cymru a thu hwnt.”