Mae stori Mary Jones, neu Mari Jones ar lafar, yn un sydd wedi cydio yn nychymyg cenedlaethau o bobl, a pha ffordd well i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi a dechrau Mis Hanes Merched na thrwy gael cyn-fyfyrwraig ac un sy’n arbenigo ar hanes a dylanwad Mary Jones i roi sgwrs amdani.
Graddiodd Nerys Siddall mewn Cymraeg a Diwinyddiaeth o Brifysgol Bangor ac aeth ymlaen i ennill MA mewn Astudiaethau Beiblaidd o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, ac erbyn hyn, mae’n rheoli canolfan Byd Mary Jones yn Llanycil, y Bala, felly roedd yn braf medru cael Nerys i draddodi sgwrs am bwysigrwydd Mary Jones heddiw. Yn 1800, cerddodd y ferch 15 oed ar y pryd 26 milltir er mwyn prynu ei chopi ei hun o’r Beibl, a phrofodd y daith honno’n gatalydd ar gyfer yr ymgyrch i ofalu bod ‘Beibl i bawb o bobl y byd’, pe dymunid cael un, a hyrwyddo llythrennedd, a, maes o law, sefydlu Cymdeithas y Beibl.
Cyflwynodd Nerys gyd-destun teuluol Mary a’r heriau a wynebodd ar hyd ei hoes, gan fanylu ar ei sêl grefyddol a’i harddeliad i gael copi personol o’r Beibl. Gyda hynny, daeth yn ffigwr nodedig, ac mae’n dal i fod felly heddiw. Yn wir, yn ei chyflwyniad, dywedodd Nerys fod erthygl wedi’i chyhoeddi ychydig flynyddoedd yn ôl a oedd yn rhestru 10 o Gymry mwyaf enwog ledled y byd, a’r un i gyrraedd brig y rhestr oedd Mary Jones. Mae ei henw a’i hanes yn adnabyddus ar draws y byd, mewn nifer o wledydd gwahanol, ac mae pobl o bob cwr o’r byd yn ymweld â Chanolfan Byd Mary Jones yn flynyddol.
Wrth gloriannu’r digwyddiad a gynhaliwyd dros Zoom, dywedodd Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Addysg Grefyddol Cymru, ‘Roedd hon yn sgwrs eithriadol ddiddorol. Mae hanes Mari Jones yn un sy’n dal i ganu hyd heddiw ac roedd hi’n wych gweld cynifer o bobl wedi mynychu’r digwyddiad o wahanol gefndiroedd, gyda thair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd, academyddion, ymchwilwyr, gweision sifil, gweithwyr mudiadau ffydd a chymunedol, ac aelodau cefnogol o’r cyhoedd ymysg y gynulleidfa. Yn sicr, mae stori Mari yn werth ei chlywed a’i chofio, boed yn grefyddol neu beidio, oherwydd ei bod yn dangos, ac yn briodol i eiriau Dewi Sant, mai drwy’r pethau bychain y ceir yr effaith fwyaf. Ac wrth i Mari Jones cymryd y cam cyntaf hwnnw, cafodd dylanwad pellgyrhaeddol.’
Bydd Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru’n rhyddhau adnoddau addysg yn ystod Mis Hanes Merched y gellir eu defnyddio mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yn seiliedig ar hanes Mary Jones o’r Bala.