Dywedodd yr Athro Anna Jarkiewicz, Prifysgol Łódź: “Mae ein prosiect ar y cyd a'r erthygl a ddaw ohono yn ymwneud ag ail-greu sefyllfa person mewn argyfwng o ddigartrefedd - gan ddeall y sefyllfa hon o'u safbwynt nhw. Mae gan ganlyniad y ddealltwriaeth hon oblygiadau ar gyfer ymarfer - sut, gan ddefnyddio dulliau dehongli (dealltwriaeth), i lunio methodolegau gweithio.”
Wrth fyfyrio ar y daith, dywedodd Dr Hefin Gwilym: “Bydd y prosiect ymchwil a'r erthygl ddilynol yn cyfrannu at atebion i argyfwng tai’r DU. Mae’r bartneriaeth gyda Phrifysgol Łódź yn hirsefydlog gan gynnwys cydweithio ar brosiect Empyre gynt. Rwy’n gobeithio ymweld eto’r flwyddyn nesaf am gyfnod hirach.”