Vian Bakir a Darlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol
Roedd hi'n wych i weld Vian Bakir, Athro Newyddiaduraeth a Chyfathrebu Gwleidyddol, ar y raglenni darlithoedd Nadolig a gynhelir yn Sefydliad Brenhinol Prydain Fawr.
Gwyliwch y cyfan yma - https://bbc.in/47lYf5R
Yn narlithoedd Nadolig 2023, bu'r athro yn trafod maes gwyddoniaeth o’r pwys mwyaf sy’n datblygu’n gyflym ar hyn o bryd – deallusrwydd artiffisial (AI).
Chwaraeodd Vian, fel arbenigwr ym maes deallusrwydd artiffisial, rôl hanfodol ar y sioe yn cynghori'r tîm cynhyrchu am effaith deallusrwydd artiffisial ar dwyllwybodaeth, gan ddarparu mewnwelediadau ac arweiniad amhrisiadwy.
Trwy gydol mis Ionawr, bydd Vian yn rhan o dîm 'I'm a Scientist, Get me out of here ...' a fydd hyn yn cynnwys nifer o sgyrsiau hanner awr o hyd ar-lein ar ddeallusrwydd artiffisial a chwestiynau am dwyllwybodaeth o ystafelloedd dosbarth ysgolion ledled y Deyrnas Unedig!