Fy ngwlad:
Myfyrwyr yng Nghanolfan Addysg Grefyddol Prifysgol Bangor

Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru

Logo'r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru

Croeso i dudalen Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, sy’n ganolfan newydd a deinamig a’r nod o weithio i sicrhau bod Addysg Grefyddol yn ei hystyr ehangaf, o ran astudio crefyddau amrywiol, athroniaethau, moeseg, gwerthoedd a bydolygon, yn cael ei diogelu.

Rydym yn byw mewn cymdeithas ag amrywiaeth helaeth o ran credoau, crefyddau, safbwyntiau, daliadau moesegol, athroniaethau, a diwylliannau yn ei nodweddu, ac felly, mae pwnc Addysg Grefyddol mor bwysig a pherthnasol. Mae hefyd yn un sy’n gorgyffwrd â nifer o bynciau eraill yn ogystal, gan gynnwys hanes, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth, cymdeithaseg, gwyddoniaeth, Cymraeg a Saesneg.

Wrth wraidd y Ganolfan, mae hyrwyddo addysg, annog parch at fydolygon a thraddodiadau gwahanol, a gwneud yr hyn sy’n bosib i geisio gofalu ein bod yn byw mewn cymdeithas gynhwysol.

Amcanion

Amcan Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru (CGAGC) yw hybu astudiaeth, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o draddodiadau crefyddol, gwerthoedd a thraddodiadau athronyddol sy’n bodoli yng Nghymru a’r byd ehangach. Anelwn at ehangu’r ddarpariaeth addysg mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a sefydliadau addysg bellach ym maes crefydd, gwerthoedd, moeseg ac athroniaeth, yn ogystal â phontio’r cysylltiad ag addysg uwch. O’r herwydd, byddwn yn anelu at weithio’n agos gydag athrawon Astudiaethau Crefyddol ac Athroniaeth, a’r Dyniaethau, yn ogystal ag athrawon ysgolion cynradd, i ddatblygu darpariaeth addysg drylwyr, atyniadol a buddiol, ac ategu profiad dysgu pobl ifanc ledled Cymru.

Byddwn yn gweithio'n agos gyda sefydliadau a chyrff eraill, yn lleol, yn genedlaethol, a thu hwnt, gan gynnwys cymunedau ffydd ac ieuenctid, grwpiau CYSAG, ac RE Hubs UK, i wella'r ddarpariaeth a datblygu dealltwriaeth o wahanol draddodiadau crefydd, gwerthoedd, moeseg ac athroniaeth.

Mae CGAGC yn anelu at gynnig agwedd mor eang â phosibl, felly, byddir yn archwilio traddodiadau crefyddol amrywiol gan gynnwys y chwe chrefydd y byd sydd wedi bod yn draddodiadol yn ganolbwynt i Addysg Grefyddol yng Nghymru (Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam, Hindŵaeth, Bwdhaeth a Sichaeth) a llawer o rai eraill, ac ysgolion meddwl gwahanol, oherwydd bod eu bodolaeth yn arwyddocaol ac yn adrodd hanes ehangder diwylliannol amrywiol Cymru sy'n esblygu'n barhaus.

Egwyddorion y Ganolfan

Mae CGAGC yn seiliedig ar egwyddorion penodol a fydd wrth wraidd ei swyddogaeth a’i ymgysylltiad:

  • Chwilfrydedd deallusol: mae CGAGC wedi'i seilio ar bwysigrwydd addysg a'r rhodd amhrisiadwy o wybodaeth, ac o'r herwydd, mae angen chwilfrydedd deallusol i ddysgu, deall ac ymgysylltu mwy â thraddodiadau amrywiol sy'n goleuo ein cymdeithas.
  • Cynwysoldeb: mae CGAGC yn agored i bob traddodiad crefyddol, yn ogystal â phobl nad ydynt yn arddel crefydd benodol, neu nad ydynt yn cydymffurfio â labeli o'r fath. Mae’r Ganolfan hefyd yn anelu at weithio gyda, a chynnwys, amrywiaeth mor eang o bobl o bob rhan o Gymru, a bydd yn ymdrechu i gynnwys aelodau o gymdeithas sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y gymuned LHDTC+, y gymuned lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl o gefndiroedd incwm isel.
  • Parch: wrth galon ethos CGAGC mae parch. Pwysleisiwn yr angen i ddangos parch at bob aelod o’r gymdeithas ac at yr amrywiaeth o gredoau a safbwyntiau y mae pobl yn glynu wrthynt.
  • Gwerthfawrogiad: mae CGAGC yn credu bod gan bawb sy’n ymgysylltu â lefel o oddefgarwch tuag at wahanol safbwyntiau a chredoau, a gwerthfawrogiad o amrywiaeth o’r fath, cyn belled nad ydynt yn gwrthdaro â pharch a thosturi at ei gilydd.
  • Ymwybyddiaeth: mae CGAGC yn datgan bod ymwybyddiaeth o safbwyntiau, credoau a safbwyntiau amrywiol yn allweddol er mwyn ymgysylltu orau â phobl Cymru a sicrhau bod y Ganolfan yn ddiwylliannol ymwybodol o ddatblygiadau ac esblygiad cyfredol.
  • Cydraddoldeb: Mae CGAGC o'r farn bod cydraddoldeb yn allweddol ar gyfer ei drefniadaeth ac ymgysylltu ag eraill. Ceir cyd-gyfarwyddwyr ac aelodau bwrdd, ond dangosir cydraddoldeb a pharch at ei gilydd drwy gydol y broses, fel y dangosir wrth ymgysylltu ag ysgolion a chymdeithas, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Ymchwil i'r cwricwlwm newydd, CGM, yng Nghymru

Mae Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru newydd gwblhau ymchwil gychwynnol i'r modd y mae'r cwricwlwm newydd, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) wedi'i roi ar waith mewn ysgolion ledled Cymru, a hynny yn sgil tuedd gynyddol o athrawon o bob cwr o Gymru'n cysylltu gyda'r Ganolfan a Phrifysgol Bangor i fynegi pryderon a gofyn am gymorth.

Cwblhawyd yr adroddiad cychwynnol a chyflwynwyd y canfyddiadau yn 43ain cyfarfod Grwp Ffydd Trawsbleidiol y Senedd yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, ddydd Mercher, 22 mai 2024.

Adroddiad llawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (pdf)

Fersiwn Hygyrch o'r Adroddiad Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (Word)

Cwrdd â thîm y Ganolfan

Staff yn cyfarfod

Cyflwyniad

Mae gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru fwrdd gweithredu deinamig, gydag unigolion brwdfrydig a gweithgar iawn. Dyma’r aelodau craidd:

  • Dr Joshua AndrewsCyd-gyfarwyddwr y Ganolfan ag arbenigedd mewn arwain materion cyfrwng Saesneg.
  • Dr Gareth Evans-Jones: Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan ag arbenigedd mewn arwain materion cyfrwng Cymraeg.
  • Yr Athro Lucy Huskinson: Cydlynydd materion ariannol ac arweinydd grantiau.
  • Ms Modlen Lynch: Ymgynghorydd Dysgu.
  • Mrs Mefys Edwards: Ymgyngorydd Dysgu.
  • Mr Daniel Latham: Ymgynghorydd Ysgolion Ffydd.
  • Ms Tasha Roberts: Ymgynghorydd Ysgolion Cynradd.
  • Ms Emilia Johnson: Ymgynghorydd Athrawon Gyrfa Gynnar.
  • Ms Hanan Issa: Cymrawd Anrhydeddus cyntaf y Ganolfan (2023-2025).

Newyddion Diweddaraf

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Cysylltwch â ni

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG