A headshot of Bethan Loftus

Dr Bethan Loftus, Darllenydd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol  


Sefydlwyd yr Undercover Policing Inquiry (UCPI) i ymchwilio i arfer, rheoleiddio ac effeithiau cuddwylio gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr;  roedd yn ymateb i ffrwd o sgandalau ar y cyfryngau cenedlaethol a ddatgelodd ymddygiad anghyfreithlon ac anfoesegol gan swyddogion cudd. Yn ogystal â datgelu sut mae plismona o’r fath wedi ei gyfeirio’n sylweddol at aelodau o fudiadau cymdeithasol a gwleidyddol, cylch gwaith yr UCPI yw ymchwilio i ddatgeliadau bod swyddogion cudd wedi dwyn hunaniaeth plant ymadawedig i greu hunaniaeth ffug iddynt eu hunain, eu bod wedi annog a chymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ac wedi ysbïo ar aelodau o ymgyrchoedd cyfiawnder. Fodd bynnag, un o ganolbwyntiau’r ymchwiliad yw’r cyhuddiad bod swyddogion cudd wedi twyllo merched, yr oeddent yn monitro rhai ohonynt, i gael perthynas rhywiol a hwy. Mae tystiolaeth y rhai a oedd yn darged gweithrediadau cudd wedi tynnu sylw at y costau dynol sy'n deillio o’r cuddwylio a wneir gan asiantau gwladol dienw. Mae’r papur hwn yn nodi meysydd newydd ar gyfer ymgysylltu damcaniaethol a chysyniadol i archwilio anafiadau cuddwylio gan yr heddlu (y wladwriaeth), ac mae hefyd yn disgrifio camau cynnar project ymchwil sy’n ceisio ymchwilio’n empirig i’r niwed a achosir gan guddwylio. Dadleuir bod angen dybryd i ysgolheigion astudio cuddwylio gan y wladwriaeth – yn benodol, elfennau emosiynol a chymdeithasol-wleidyddol cuddwylio gan yr heddlu.  

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?