A headshot of Candice Howarth

Mae gwres eithafol yn destun pryder sylweddol a chynyddol i’r Deyrnas Unedig ac mae diffyg brys o ran yr ymdrechion i baratoi ar ei gyfer. Profodd y Deyrnas Unedig bum cyfnod o dywydd poeth yn haf 2022 gan dorri’r record yn Lloegr gyda thymereddau dros 40ºC, gan arwain at bron i 3,000 o farwolaethau. Roedd y gwres eithafol a brofwyd yn ddigwyddiad 1-mewn-1,000 o flynyddoedd, a wnaed 10 gwaith yn fwy tebygol gan newid hinsawdd anthropogenig. Ac eto, gallai tymereddau uchel 2022 fod yn cael eu hystyried fel blwyddyn go arferol erbyn 2060 ac yn flwyddyn oer erbyn 2100. Felly, er bod gwres yn risg gymharol newydd i’r Deyrnas Unedig, mae’n dod yn realiti cynyddol amlwg gyda thros 50,000 o farwolaethau sy’n gysylltiedig â gwres wedi’u cofnodi rhwng 1988 a 2022. Mae ystyriaeth arall, fwy dybryd, sef ystyried sut mae sicrhau na fydd ymdrechion i ddylunio ymaddasiadau i wres eithafol yn atal yr ymdrechion i liniaru cynnydd pellach mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Er enghraifft, efallai mai defnyddio technoleg aerdymheru yw’r unig addasiad ymarferol i gadw pobl yn oer yn y Deyrnas Unedig lle nad yw adeiladau wedi’u cynllunio i gadw pobl yn oer yn yr haf. Gallai hyn gynyddu'r defnydd o ynni, gan fynd yn groes i ymdrechion i leihau'r defnydd o ynni a thanseilio ymdrechion i gyrraedd targed sero net y Deyrnas Unedig. Felly, mae gwir angen ystyried gweithgarwch ymaddasu a lliniaru fel gweithgarwch cyflenwol a deall sut beth yw canfyddiadau’r cyhoedd o hyn. Bydd y cyflwyniad hwn yn rhannu mewnwelediadau o ddwy astudiaeth achos sy'n archwilio’r materion hyn. Arolwg o ganfyddiadau’r cyhoedd o wres eithafol yw’r cyntaf, a gynhaliwyd ym mis Awst 2023 gyda 1,750 o ymatebwyr o blith sampl gynrychioliadol o boblogaeth y Deyrnas Unedig. Yn yr astudiaeth achos gyntaf hon, rydym yn archwilio i ba raddau y mae’r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig yn ymwybodol o effeithiau gwres eithafol a ph’un ai y gall dulliau o leihau effeithiau gwres eithafol ddigwydd heb gynyddu allyriadau. Mae’r ail astudiaeth achos yn ceisio deall sut y gellir cyfuno’r gweithredu o ran ymaddasu a’r gweithredu o ran lliniaru er mwyn mabwysiadu dull ‘sero net sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd’ i fynd i’r afael â gwres eithafol yn Llundain. Yn yr ail astudiaeth achos, rydym yn archwilio ymarferoldeb ymgorffori ymaddasiadau i wres eithafol yn rhan o gynllunio ac ymateb i argyfyngau, ac yn ceisio deall profiadau'r rhai sy'n ymateb i argyfyngau yn ystod cyfnodau o wres eithafol. 

  

Mae gan fewnwelediadau’r ddau broject ymchwil sy’n archwilio sut i reoli effeithiau gwres eithafol tra’n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr botensial sylweddol i lywio polisïau a phenderfyniadau, i lywio’r ymateb i argyfyngau, ac i lywio chyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â’r cyhoedd.