Sut gall dogfennau hanesyddol – a haneswyr – helpu i reoli ein cefnforoedd mewn ffordd gynaliadwy?
Mae angen inni ofalu am fioamrywiaeth, stociau pysgod, a chynefinoedd yn ein moroedd. Mae bioleg môr, sy’n ddisgyblaeth wyddonol gymharol fodern, yn sylfaenol i ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen arnom ni. Serch hynny, ni all ond rhoi dirnadaeth gyfyngedig inni yn rhychwantu rhai degawdau. Ac eto, bu pobl yn troi at y môr am fwyd ac adnoddau – ac yn cofnodi gwybodaeth ysgrifenedig werthfawr am fywyd morol – ers canrifoedd lawer. Gwaetha’r modd, mae’r ffynonellau hyn yn aml yn aros yn nwylo haneswyr gyda gwyddonwyr yn eu hesgeuluso. Bydd y sgwrs hon yn dangos sut y gall biolegwyr a haneswyr morol gydweithio a defnyddio dogfennau hanesyddol i reoli ac adfer ein cefnforoedd, gydag enghreifftiau o ddyfroedd Cymru.