Fy ngwlad:
""

Mae diddordeb mewn ymchwil hil ac ethnigrwydd yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar.


Mae 25 mlynedd wedi mynd heibio ers y setliad datganoli pan bennwyd cydraddoldeb hil fel dyhead cyfansoddiadol.


Mae’r llyfr yn trafod datblygiad Astudiaethau Cymreig o safbwynt hil/ethnigrwydd.


Yn y lansiad hwn, bydd y golygyddion, Neil Evans a Charlotte Williams, a dau o’r cyfranwyr at y gyfrol, Marian Gwyn a Gareth Evans Jones, yn cyflwyno eu llyfr Globalising Welsh Studies: Decolonising History, Heritage, Society and Culture, i’w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.


Mae Neil Evans wedi bod yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor ers 1993; Cymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol ers 1991; ac Is-lywydd Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru, ers 2020.
Mae Charlotte Williams OBE yn Athro Emeritws yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.


Mae Gareth Evans Jones yn ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.
Mae Marian Gwyn, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, yn ymgynghorydd treftadaeth, ymchwilydd, awdur ac addysgwr.