Powis Castle: The Resilience of an Aristocratic Estate in Wales
Prif siaradwr: Dr Melvin Humphreys (Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru)
Mae Dr Melvin Humphreys wedi bod yn astudio ystad Castell Powis ers tua 45 mlynedd. Arholwr allanol ei ddoethuriaeth oedd y diweddar Athro Gordon Mingay, a ddywedodd unwaith mai mater o raddfa oedd y gwahaniaeth rhwng aristocratiaid a boneddigion. Ond am wahaniaeth roedd y raddfa honno’n ei wneud! Rhoddodd allu aruthrol i ystadau aristocrataidd oroesi, a chaniataodd iddynt fanteisio ar eu hadnoddau mewn ffyrdd a oedd ymhell y tu hwnt i allu eu cymdogion llai cyfoethog. Yn y cyflwyniad hwn, bydd Melvin yn edrych ar dair agwedd ar un o ystadau aristocrataidd mwyaf Cymru: llwyddiant a dirywiad cylchol y teulu Powis; eu gafael ar dir caeedig a'u hobsesiwn â chloddio am blwm.
Traddodir y ddarlith hon trwy gyfrwng y Saesneg.