Rethinking hillfort chronologies in northwest Wales: recent work at Meillionydd
Siaradwyr: Kate Waddington: (Darlithydd Cysylltiol mewn Archaeoleg)

Bydd y sgwrs hon yn trafod ffrwyth ymchwil diweddar ar fryngaer fechan o’r mileniwm cyntaf cyn Crist yn Rhiw ym Mhen Llŷn, sef Meillionydd. Datgelodd waith cloddio gan Brifysgol Bangor ym Meillionydd rhwng 2010-2017 anheddiad a oedd wedi bod yn boblog iawn dros sawl cyfnod. Mae dadansoddiadau diweddar wedi trawsnewid ein dealltwriaeth o hanes y safle hwn. Roedd pobl yn byw ar y safle o’r Oes Haearn Gynnar tan yr Oes Haearn Ganol, pan adeiladwyd y fryngaer, o bren yn gyntaf ac, yn fuan wedyn, o garreg. Mae dadansoddiad Bayesaidd o’r dyddiadau radiocarbon wedi mireinio’r drefn gronolegol yn sylweddol ac mae wedi datgelu dau gyfnod byrhoedlog o fryngaerau, a ddilynwyd gan fwlch byr cyn i’r heneb gael ei hailffurfio fel anheddiad agored.
Mae hyn wedi ein galluogi i feddwl am hanes a’r bobl a fu’n byw yn y fryngaer ar lefel cenhedlaeth, ac mae’n codi cwestiynau am y ddealltwriaeth draddodiadol o archaeoleg o’r Oes Haearn, sef traddodiad hirhoedlog a di-dor o fyw mewn bryngaerau dros sawl canrif. Mae'r canlyniadau yn cyd-fynd â gwaith dyddio diweddar mewn rhannau eraill o Brydain. Caiff y dystiolaeth o Meillionydd ei chymharu ag aneddiadau a bryngaerau eraill o’r Oes Haearn yn yr ardal a thu hwnt, er mwyn meddwl yn fwy beirniadol am natur traddodiadau anheddau’r Oes Haearn a newid cymdeithasol.