
Uchafbwynt allweddol oedd cyflwyno ymchwil a ariannwyd yn rhannol gan Gydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan (AWPAC), sy’n archwilio atgasedd tag at ferched fel ffactor risg ar gyfer niwed difrifol mewn achosion o gam-driniaeth ddomestig. Rhoddodd yr arddangosfa gyfle i rannu mewnwelediadau, meithrin trafodaethau, a dangos effaith byd go iawn ymchwil academaidd yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Martina Feilzer, “Roedd cymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i gyfleu rhai canfyddiadau ymchwil hynod galed i gynulleidfa ehangach, llunwyr polisi, academyddion eraill, ac ati. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gofynnir i ni arddangos ein hymchwil yn y modd hwn.”
Parhaodd: “Mae cyllid AWPAC ar gyfer ymchwil ar atgasedd tuag at ferched fel ffactor risg a allai arwain at ladd wedi bod yn hanfodol wrth ymestyn ymchwil PhD Claire ledled Cymru. Mae wedi caniatáu iddi gryfhau ei gwaith maes a chysylltu â chynrychiolwyr heddlu o bob rhan o’r wlad. Mae hi wedi gallu rhannu ei chanfyddiadau pwysig gyda sefydliadau heddlu ledled Cymru, gan ddechrau’r broses o gryfhau dealltwriaeth yr heddlu o sut i adnabod cam-driniaeth ddomestig a chyda hynny gynnig y gefnogaeth orau o ymateb i'r sawl sydd mewn risgo o ddioddef cam-driniaeth.”