Mae rôl y Llysgennad Myfyrwyr yn hynod arwyddocaol gan fod yr unigolion yn y sefyllfa honno yn cynnig mewnbwn pwysig i ymgysylltiad a chefnogaeth y Ganolfan i fyfyrwyr sy’n astudio crefydd, gwerthoedd, moeseg ac athroniaeth drwy Gymru ar hyn o bryd. O’r herwydd, mae’n bleser gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru gyhoeddi mai’r Llysgennad Myfyrwyr cyntaf yw Callum Morrissey o Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele.
Dywedodd Dr Joshua Andrews, un o Gyfarwyddwyr y Ganolfan, “Roeddem wedi ein rhyfeddu gan egni ac angerdd llwyr Callum dros y maes pwnc sy’n cwmpasu crefydd, gwerthoedd a moeseg. Mae Callum mor frwd ac mae eisoes yn cymryd rhan weithredol mewn ymdrechion i sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer astudio crefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru o'r safon uchaf posibl. Heb amheuaeth, mae’n llysgennad rhagorol i’r Ganolfan!”
A dyma'ch cyfle i ddod i wybod ychydig mwy am Callum, y Llysgennad Myfyrwyr newydd.
Enw | Callum Morrisey |
Oed | 15 |
Ysgol | Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele |
Pynciau TGAU |
Fy mhynciau dewisol yw Cyfrifiadureg, Gwyddoniaeth Driphlyg, ac Almaeneg. Rydw i hefyd yn astudio am Lefel A mewn Astudiaethau Crefyddol ar hyn o bryd, flwyddyn yn gynnar. |
Rôl yn y Ganolfan | Llysgennad Myfyrwyr |
Pam bod Astudiaethau Crefyddol / Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn ddisgyblaethau pwysig i'w hastudio?
Yn syml, mae crefydd, gwerthoedd a moeseg o’n cwmpas ym mhob man, ac rydym yn ystyried ac yn dadlau’r hyn sy’n foesol ‘gywir’ bob dydd. Mae CGM yn achosi gwrthdaro ond hefyd yn dod â phobl at ei gilydd, ac er mwyn i ni allu byw mewn cymdeithas gynhwysol, lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt a'u bod yn cael eu cefnogi, mae angen i bob myfyriwr ddod i gysylltiad â diwylliannau a syniadau amrywiol sy'n wahanol i'w rhai nhw eu hunain, fel bod eu barn yn gryfach ac yn fwy gwybodus. Ond hefyd, fel y gall myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau meddwl beirniadol a'u galluoedd meddwl moesegol. Bydd pob person, bob dydd, bob amser yn dod ar draws cyfyng-gyngor moesegol; ni waeth pa mor fawr neu fach, ac os oes gennym y sgiliau i ystyried safbwyntiau seciwlar a chrefyddol i ddod i farn gryfach, yna gallai’r rhan fwyaf o bobl fyw ac ymdrechu yn yr un cymunedau mewn cytgord. Dyna pam mae CGM yn ddisgyblaethau pwysig i'w hastudio.
Beth ydych chi'n rhagweld fydd eich rôl yn y Ganolfan?
Mae fy rôl anrhydeddus o fewn y Ganolfan yn cwmpasu fy holl sgiliau i helpu cynrychioli lleisiau myfyrwyr ledled Cymru ynghylch newidiadau polisi i'r cwricwlwm newydd, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Yn ogystal â hyn, byddaf yn chwarae rhan yn y gwaith o hyrwyddo rhaglenni CGM ledled Cymru, gan amlygu pwysigrwydd y pwnc hwn a chodi ymwybyddiaeth am ymchwil bwysig y Ganolfan o amgylch amlygiad y pwnc a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei gael ar fyfyrwyr. Yn y pen draw, fy rôl i yw galluogi myfyrwyr o bob rhan o Gymru gael llais yn eu dyfodol. Mae gan bob myfyriwr farn, a fy rôl i yw helpu i ddatgelu CGM mewn ysgolion, fel y gall myfyrwyr ddod i fod y fersiwn orau ohonynt eu hunain. Byddaf ar flaen y gad o ran darparu adborth beirniadol i'r Ganolfan o safbwynt myfyrwyr er mwyn sicrhau bod y Ganolfan yn gwneud y mwyaf o ymdrechion i gynnwys cyngor a deunyddiau myfyrwyr lle bynnag y bo modd, gan greu amgylchedd mwy cynhwysol.
A oes gennych chi unrhyw agweddau penodol yr hoffech chi eu datblygu gyda'r Ganolfan?
Yn sicr, hoffwn ddatblygu fy sgiliau academaidd, sy’n cynnwys, ond sydd heb fod yn gyfyngedig i, ymchwil dadansoddi data, dadansoddi prosiectau cwrs, meddwl beirniadol, a hoffwn gyfrannu at ymchwil barhaus, ynghyd â phrofi natur gydweithredol gwaith academaidd y Ganolfan.
Edrychwn ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Callum yn y misoedd nesaf!
" Heb amheuaeth, mae Callum yn llysgennad rhagorol i’r Ganolfan!!”
Dr Joshua Andrews